11. Dadl Plaid Cymru: Rotas Newydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:38 pm ar 6 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 5:38, 6 Tachwedd 2019

Mi oedd bwriad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i gyflwyno'r rotas newydd yma wedi codi nyth cacwn anferth yn lleol, a hynny yn gwbl ddealladwy. A dwi'n falch iawn bod y newid meddwl yma wedi digwydd rŵan—ac rydym ni wedi clywed amdano fo dim ond rhyw awr yn ôl. Mi fyddai hyn, petai o wedi digwydd, wedi bod yn gam hynod niweidiol ac yn cymryd mantais o'r nyrsys sydd yn gweithio mor galed ac, yn aml iawn, yn mynd ymhell tu hwnt i ofynion eu swyddi nhw. Dwi yn falch bod y penderfyniad wedi ei wyrdroi, ond, o hyn ymlaen, dwi'n erfyn ar y bwrdd iechyd ac ar y Llywodraeth i roi'r parch sy'n ddyledus i'n nyrsys ni. 

Mi ges i lythyr yr wythnos yma gan nyrs sy'n gweithio mewn ysbyty yn y gogledd. Ac, er bod y penderfyniad wedi ei roi o'r neilltu, mae'n werth ichi glywed beth oedd ganddi hi i'w ddweud: 'Rwyf wedi gweithio fel nyrs hyfforddedig am dros 28 mlynedd ac rwyf yn wfftio at y newidiadau i rotas nyrsys sydd i'w cyflwyno ar ôl y Nadolig. Rwy'n teimlo mor gryf am y mater, roedd yn rhaid i mi ysgrifennu atoch chi. Mae pawb yn gandryll gyda'r newidiadau sydd ar y gweill, a dwi ddim wedi siarad efo'r un nyrs sydd o blaid hyn. Mae morâl o fewn y byd nyrsio yn isel iawn yn barod. Ni fyddai'r un corff arall yn derbyn y newidiadau yma. Mi fyddai'n golygu colli ewyllys da—yn sicr ewyllys da y nyrsys yw calon gwasanaeth iechyd cyhoeddus.' Ar ddiwedd ei llythyr, mae hi'n gofyn beth fedrwn ni ei wneud i newid hyn. Wel, mi fydd y nyrs yma yn falch iawn o glywed fod yna newid wedi digwydd wrth i bobl godi llais, wrth i bobl ddod at ei gilydd i wrthwynebu ac ymgyrchu a chefnogi eu gilydd. Ac mae Plaid Cymru yn falch o fod wedi gweithio efo'r undebau er mwyn gwyrdroi'r penderfyniad yma, oedd yn un hurt o'r cychwyn cyntaf. 

Dwi yn erfyn ar y Llywodraeth a'r bwrdd iechyd i ddysgu gwersi o'r saga yma—a saga ydy o. Mae'n rhaid, o hyn ymlaen, gweithio ochr yn ochr â'r undebau sy'n cynrychioli'r staff ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae'n rhaid ymgynghori mewn ffordd llawer iawn mwy ystyrlon pan fo yna newidiadau yn cael eu gwneud. Mae yna lawer iawn o waith pontio angen digwydd rŵan. Mae yna lawer o waith i'w wneud i adfer y berthynas, a llawer o waith i'w wneud i adfer yr ymddiriedaeth. Dyna sy'n fy mhoeni fi—bod yr holl bennod yma, dylid bod wedi ei hosgoi yn y man cyntaf, yn niweidiol i forâl y nyrsys ac i'r berthynas yna, ac mae'n rhaid gweithio yn galed iawn rŵan er mwyn adfer hynny. Mae'r nyrsys yma yn gweithio mor galed er lles eu cleifion, ac mae'n rhaid iddyn nhw gael eu parchu yn llawn o hyn allan.