Part of the debate – Senedd Cymru am 6:10 pm ar 6 Tachwedd 2019.
Mae gyda ni gofebau rhyfel, cymaint â 5,000, o bosib, ar draws Cymru, ac maen nhw ar wahanol ffurfiau—yn blaciau neu'n senotaffau bychain. Mae yna barciau, mae yna ysbytai, a neuaddau coffa hefyd, sydd yn rhan o'r hyn a fuddsoddwyd gan gymunedau yng Nghymru, gyda chefnogaeth gyhoeddus, i gofio'r rhai a gollwyd o'r cymunedau hynny yn y rhyfel byd cyntaf a’r ail ryfel byd, a pheidied ag anghofio, wrth gwrs, y rhyfeloedd ers hynny, nac, yn wir, y rhyfel cartref yn Sbaen.
Mae coffáu'r digwyddiadau yma'n ddyletswydd arnon ni i gyd. Rydw i wedi gwrando'n ofalus ar beth a gyflwynwyd gan Paul heddiw, ac wedi darllen beth y dywedodd o o'r blaen, ac rydw i'n canmol ei ddygnwch o yn parhau i ddilyn y drafodaeth yma. Felly, wrth ymateb, rwyf am ddweud y gwnawn ni edrych o'r newydd ar ein perthynas â'r Ymddiriedolaeth Cofebau Rhyfel—y War Memorials Trust. Dwi yn sylwi bod Historic England, y corff hanesyddol sy'n cyfateb i Cadw yn Lloegr, ac, yn wir, Historic Environment Scotland, mewn perthynas uniongyrchol gyda'r ymddiriedolaeth, ac efallai y byddai o'n briodol i ni gryfhau ein perthynas â'r ymddiriedolaeth, gan ein bod ni wedi cydweithio gyda nhw yn y cynllun grantiau y cyfeiriodd Paul ato fo.
Mae cymunedau lleol, wrth gwrs, yn cyfrannu, yn enwedig drwy'r Lleng Brydeinig Frenhinol a'r gwirfoddolwyr i'r gwaith hanfodol o ofalu am gofebau rhyfel, ac rydyn ni yn gweld ei bod hi'n bwysig ein bod ni, fel Llywodraeth, nid jest yn cydnabod ond yn cefnogi'r gweithgareddau yma. Mae'n deg imi ddweud bod Cadw wedi gweithredu yn y maes yma o safbwynt rhestru cofebau. Dwi'n derbyn nad ydy deddfwriaeth restru'n golygu bod yna gadwraeth ddiogel o angenrheidrwydd, ond mae nifer y cofebau wedi cynyddu, ac mae Llywodraeth Cymru, drwy'r rhaglen Cymru'n Cofio, y cyfeiriodd Paul ati, wedi bod yn dynodi canmlwyddiant y rhyfel byd cyntaf, ac fe baratôdd Cadw ganllawiau ymarferol i gymunedau sy'n dymuno gwarchod a gofalu am eu cofebau rhyfel. Ac mae yna dros 40 o grantiau unigol, cyfanswm o £230,000, ar gyfer gwarchod pob math o gofebau wedi dod allan o'r ffynhonnell yna. Un ohonyn nhw ydy'r gofeb arall—byddaf i yno ddydd Sul, gobeithio—sef cofeb rhyfel cenedlaethol Cymru ym Mharc Cathays.
Felly, rydyn ni, fel Llywodraeth wedi dangos bod gyda ni ewyllys tuag at goffáu yng Nghymru, ond rydyn ni hefyd wedi cefnogi cofebau o bwys cenedlaethol y tu allan i Gymru, gyda gwariant o £25,000 yn y gofeb Gymreig yn Fflandrys, a'r cymorth yn ogystal i'r gofeb yng Nghoedwig Mametz, yng ngogledd Ffrainc—gwariant o ryw £7,000 yn y fan honno. Ond gan fod y cyfnod penodol o ddathlu'r rhyfel mawr, y rhyfel cyntaf, yn dirwyn i ben, a gan ein bod ni wedi cydweithio gyda'r ymddiriedolaeth, y War Memorials Trust yn y gorffennol, fe wnaf i ymrwymiad fy mod i'n mynd i ystyried ymhellach sut y gallwn ni gryfhau ein gweithredu fel Llywodraeth yn y ffordd y mae Paul wedi'i awgrymu. Fyddai fo ddim yn disgwyl imi wneud ymrwymiad cryfach na hynny heddiw, ond mae gen i ddiddordeb fy hun, nid yn unig o safbwynt y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb yn ateb heddiw, ond hefyd o ran y pwysigrwydd o gofio, ac o gofio'n briodol. A dwi'n gwerthfawrogi'n fawr y cyfraniadau sydd wedi cael eu gwneud yn y gwahanol gymunedau ar hyd y blynyddoedd i ddathlu, i gofio ac i gydnabod, ac i alaru, wrth gwrs. Mae'r pethau yma i gyd yn mynd gyda'i gilydd.