13. Dadl Fer: Cofio a pharchu: Pam y dylem ddiogelu cofebion rhyfel yng Nghymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:09 pm ar 6 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 6:09, 6 Tachwedd 2019

Diolch yn fawr am y cyfle yma i ymateb i'r ddadl, a diolch i Paul Davies am ddewis y pwnc amserol yma i'w drafod heddiw.

Mae Comisiwn y Cynulliad, wrth gwrs, yn gyfrifol am gofeb nodedig iawn sydd o flaen y Senedd hon, ac yn fan yno y byddaf i yn y gwasanaeth arferol gyda'r llynges fasnach, oherwydd rydw i'n parhau i werthfawrogi'r swydd anrhydeddus o fod yn llywydd anrhydeddus i'r llynges fasnach, fel cydnabyddiaeth o'r berthynas arbennig sydd rhyngom ni yma yn y Senedd hon a'n hetifeddiaeth forol.