13. Dadl Fer: Cofio a pharchu: Pam y dylem ddiogelu cofebion rhyfel yng Nghymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:00 pm ar 6 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 6:00, 6 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Nawr, fel y bydd y Gweinidog yn gwybod, nid dyma'r tro cyntaf i mi alw ar Lywodraeth Cymru i ddiogelu cofebion rhyfel yng Nghymru. Yn ôl yn 2012, cyflwynais nifer o'r un dadleuon ag a gyflwynaf heddiw i Huw Lewis, y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth ar y pryd. Rhaid imi ddweud, roedd ymateb y Gweinidog yn ddiffuant, ac ar y pryd ymrwymodd i gyflwyno cynigion a fyddai'n cryfhau diogelwch i gofebion rhyfel ledled y wlad. Yn anffodus, er mor galonogol oedd ei eiriau, ychydig iawn a wnaethpwyd mewn gwirionedd. Ac felly rwy'n dweud, gyda'r parch mwyaf i'r Dirprwy Weinidog, fy mod yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn dechrau bod o ddifrif ynglŷn â'r mater hwn. Dywedodd y Gweinidog ar y pryd, ac rwy'n dyfynnu:

'O ran dyletswydd statudol i warchod, mae gennym bellach broses agored wrth ddatblygu’r Bil treftadaeth er mwyn edrych yn drylwyr ar hynny, er bod yn rhaid cofio cymhlethdod y patrymau cyfrifoldeb a amlinellwyd eisoes gan Paul.'

Fodd bynnag, nid oedd Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 a ddilynodd yn cynnwys unrhyw fesur penodol i ddiogelu cofebion rhyfel. Felly, mae'n destun gofid o hyd mai'r unig ddeddfwriaeth sy'n benodol i gofebion rhyfel yng Nghymru yw Deddf Cofebion Rhyfel (Pwerau Awdurdodau Lleol) 1923, a gwelliannau dilynol. Ac felly, yn anad dim arall heddiw, rwy'n mawr obeithio y bydd y Dirprwy Weinidog yn ymrwymo i adolygu'r ddeddfwriaeth ynghylch diogelu cofebion rhyfel, a gweithio gyda rhanddeiliaid i dynhau'r ddeddfwriaeth honno, a dod â hi i mewn i'r unfed ganrif ar hugain. Rwy'n siŵr y bydd y Dirprwy Weinidog yn cytuno â mi mai dyma'r peth lleiaf y mae ein harwyr marw yn ei haeddu.

Felly, yr ymrwymiad cyntaf y gofynnaf i Lywodraeth Cymru ei wneud heddiw yw dechrau cynnal rhestr genedlaethol, gyfoes o gofebion rhyfel yng Nghymru. Rwy'n sylweddoli ei bod yn dipyn o gamp, ond mae'n bwysig iawn fod data'n cael ei gofnodi sy'n nodi nifer a lleoliad yr holl gofebion rhyfel yma yng Nghymru. Gellid gwneud hyn drwy awdurdodau lleol, a allai fod mewn sefyllfa well i nodi a llunio rhestr o'r cofebion rhyfel yn eu hardaloedd. Wrth gwrs, rwy'n derbyn, mewn rhai achosion, y gall cofebion fod ar dir preifat, neu, er enghraifft, wedi'u lleoli mewn ysgol neu eglwys, ac fel y cyfryw, byddai'r cyfrifoldeb dros gynnal y cofebion hynny'n disgyn arnynt hwy. A hyd yn oed heddiw, cefais ohebiaeth ynghylch pa mor agored i niwed oedd cofebion rhyfel answyddogol, a'r angen am fwy o ddiogelwch iddynt. Felly, mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i ganfod ble mae ein cofebion rhyfel, ac o dan stiwardiaeth pwy.

Nawr, rwy'n derbyn, fel rhan o Cymru'n Cofio 1914-1918, rhaglen goffáu canmlwyddiant y rhyfel byd cyntaf, fod Cadw wedi lansio'r cynllun grantiau ar gyfer cofebion rhyfel yng Nghymru. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, fe'i datblygwyd mewn partneriaeth â'r Ymddiriedolaeth Cofebion Rhyfel, a'i nod oedd darparu cyllid ar gyfer atgyweirio a chynnal cofebion ar draws Cymru, ac mae'r fenter honno i'w chroesawu'n fawr iawn. Ond dim ond un darn o'r pos yw ariannu, ac felly mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru, wrth symud ymlaen, yn gweithio gyda sefydliadau fel Cadw a'r Ymddiriedolaeth Cofebion Rhyfel, a rhanddeiliaid ac awdurdodau lleol hefyd, i sicrhau bod y cofebion sydd fwyaf o angen eu hatgyweirio yn cael eu nodi, a'u blaenoriaethu yn wir.

Felly, hoffwn ddweud unwaith eto wrth Lywodraeth Cymru y dylai fod dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i ddiogelu ein cofebion rhyfel. Fel y dywedais yn ôl yn 2012, byddai hyn yn golygu y byddai'r ddyletswydd gyfreithiol yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ledled Cymru sicrhau bod cofebion rhyfel yn eu hardaloedd yn cael eu cynnal. Gwyddom fod Deddf cofebion rhyfel 1923 yn caniatáu i awdurdodau lleol ddefnyddio arian cyhoeddus i gynnal cofebion, ond nid oes unrhyw reidrwydd ar gynghorau i wneud hynny. Byddai hyn yn golygu sicrhau bod gan bob awdurdod lleol, gan weithio'n agos gyda grwpiau a sefydliadau cymunedol, geidwad penodol sy'n gyfrifol am nodi a chynnal cofebion rhyfel yn eu hardaloedd. Mae cyfle hefyd gyda'r rôl i gynnwys rhywfaint o waith addysgu allanol, i hyrwyddo cofebion rhyfel mewn ardaloedd lleol, er enghraifft drwy ymweld ag ysgolion, a siarad â phlant a phobl ifanc. Byddai creu'r rôl hon yn anfon neges glir fod Llywodraeth Cymru yn anrhydeddu ei harwyr drwy anadlu bywyd newydd i mewn i'w straeon a sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn deall eu harwyddocâd yn ein hanes yn llawn. Mae'n drueni mawr fod nifer o awdurdodau lleol ledled Cymru heb bwynt cyswllt i'r gymuned leol allu dysgu mwy am gofebion yn eu hardaloedd, ac mae hynny'n rhywbeth y mae taer angen ei newid.

Drwy gydweithio rhwng Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a chymunedau lleol yn unig y gallwn sicrhau bod cofebion rhyfel yn cael eu gwarchod yn iawn. Felly, yn fy marn i, cael dyletswydd statudol i awdurdodau lleol ddarparu ceidwad cadwraeth neu swyddog cofebion rhyfel fyddai'r ffordd orau o sefydlu pwynt cyswllt ar gyfer y cyhoedd, datblygu partneriaethau gyda grwpiau a sefydliadau cymunedol lleol, sydd â chyfrifoldeb wedi'i sefydlu eisoes dros rai cofebion yn yr ardal, ac yn wir, creu cysylltiadau gydag ysgolion lleol i addysgu plant a phobl ifanc am bwysigrwydd cofebion rhyfel ac i adrodd hanesion am yr aberth mawr a wnaed drosom.

Wrth gwrs, mae rhai grwpiau cymunedol eisoes yn gwneud gwaith gwych yn diogelu cofebion rhyfel a dylid eu hannog i barhau i wneud hynny. Rhaid caniatáu i'r grwpiau hynny barhau â'u gwaith a rhaid inni gefnogi ymdrechion grwpiau cymunedol, sydd â chyfrifoldeb wedi'i sefydlu dros gofebion yng Nghymru. Fodd bynnag, byddai perthynas waith gref â phwynt cyswllt mewn awdurdod lleol yn cryfhau lefel y diogelwch a gynigir i'w cofebion rhyfel a gallai fod yn ffordd o'u diogelu'n well ar adeg pan fo achosion o ddwyn a difrodi cofebion ar gynnydd mewn gwirionedd.

Fy argymhellion terfynol, Ddirprwy Lywydd, yw galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gan awdurdodau lleol yr adnoddau gorau posibl i frwydro yn erbyn y rheini sy'n targedu cofebion rhyfel ar gyfer metel sgrap. Mae y tu hwnt i ddeall pam y byddai rhywun yn dewis dwyn cofeb, neu rannau ohoni, ond yn anffodus, mae'n digwydd. A rhaid inni gofio nad yw'r rhain yn droseddau heb ddioddefwyr o gwbl—maent yn droseddau yn erbyn cymdeithas ac mae iddynt ganlyniadau pellgyrhaeddol i'n cymunedau. Felly, rwy'n falch fod Llywodraeth y DU, yn 2013, wedi cyflwyno Deddf Delwyr Metel Sgrap 2013 i gryfhau'r rheoliadau mewn perthynas â delwyr metel sgrap ac i dynhau'r drefn bresennol.

Mae'r ddeddfwriaeth bellach yn ei gwneud yn ofynnol i bob unigolyn a busnes gwblhau proses ymgeisio fanwl i gael trwydded deliwr metel sgrap, gan roi pŵer i awdurdodau lleol wrthod ymgeiswyr anaddas a dirymu trwyddedau. Mae'r ddeddfwriaeth honno wedi cael effaith enfawr mewn gwirionedd, ac amcangyfrifir bod lefelau dwyn metel wedi disgyn fwy na thri chwarter yn y pedair blynedd gyntaf ers i'r ddeddfwriaeth ddod i fodolaeth. Fodd bynnag, mae mwy y gellir ei wneud bob amser. Rwy'n siŵr bod y Dirprwy Weinidog eisoes yn ymwybodol o'r llofnod SmartWater newydd sy'n weladwy o dan olau uwchfioled yn unig, dyfais a all helpu'r heddlu i olrhain cofebion sydd wedi'u dwyn. Ar ôl ei osod, mae hi bron iawn yn amhosibl dileu SmartWater a gall wrthsefyll llosgi, chwythu tywod ac amlygiad hirdymor i UV. Dyma un ffordd o ddiogelu cofebion rhyfel, a gobeithiaf y byddai Llywodraeth Cymru yn cytuno i ddatblygu partneriaeth ehangach â'r SmartWater Foundation a'r Ymddiriedolaeth Cofebion Rhyfel i ddefnyddio'r arf ataliol grymus hwn a sicrhau bod ein hawdurdodau lleol yn gallu gwneud defnydd ohono.

Wrth gloi, mae gennym gyfle i ymestyn ein gallu i gofio a dangos ein parch mwyaf i gymuned ein lluoedd arfog drwy addo diogelu cofebion rhyfel yng Nghymru. Yn bersonol, rwy'n ymfalchïo yn nhreftadaeth filwrol Cymru a chredaf y dylai Llywodraeth Cymru wneud popeth yn ei gallu i weithio gydag eraill i helpu i ddiogelu a hyrwyddo ein cofebion rhyfel. Mae hyn yn ymwneud ag anrhydeddu ein harwyr a rhoi cyfleoedd i'n plant a'n pobl ifanc ddysgu mwy amdanynt a'r pris eithaf a dalwyd ganddynt am ein rhyddid. Felly, rwy'n galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo o ddifrif i wneud mwy i ddiogelu cofebion rhyfel yng Nghymru. Mae dyletswydd arnom i'n harwyr a roddodd eu bywydau i wneud hynny, a dim llai.