2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru ar 6 Tachwedd 2019.
3. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda diwydiant yng ngogledd Cymru yn dilyn cyhoeddi estyniad i Brexit tan 31 Ionawr 2020? OAQ54631
Mae fy nghyd-Weinidogion a minnau wedi ymgysylltu'n helaeth â busnesau ar faterion sy'n ymwneud â Brexit fel rhan o'n gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid ledled Cymru. Yn fwyaf diweddar, arweiniodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth gyfarfod bord gron ar fynediad busnesau bach a chanolig at gyllid ar 24 Hydref yn Wrecsam.
Diolch yn fawr am eich ateb, Weinidog. Mae Alun a Glannau Dyfrdwy yn gartref i rai o ddiwydiannau mwyaf uwch-dechnolegol a blaengar Cymru a'r gweithlu ymroddedig a medrus sydd yn yr ardal honno. I'r cyflogwyr a'r gweithwyr hyn, mae cynllunio'n allweddol. A all y Gweinidog fanylu ymhellach ar y cyswllt y mae ef a'i swyddogion, ac unrhyw gyd-Weinidogion eraill, wedi'i gael gyda phrif gyflogwyr yr ardal a'r undebau llafur cysylltiedig, fel undeb Unite, i sicrhau y gallant barhau i gynllunio? A all nodi hefyd pa gymorth arall sydd ar gael iddynt? Ac yn olaf, pa mor hyderus yw ef fod Llywodraeth y DU, Llywodraeth Dorïaidd y DU, yn gwrando ar y grwpiau hyn a'r cyflogwyr hyn er lles eu teuluoedd ac yn rhannu'r wybodaeth berthnasol â hwy?
Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Ers iddo ddod i'r Siambr, mae bob amser wedi ceisio deall effaith Brexit ar ei etholaeth ac ar gyflogwyr yno, felly rwy’n gwerthfawrogi ei bryder parhaus mewn perthynas â hynny.
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ymgysylltu â busnesau mewn amryw o wahanol ffyrdd, naill ai drwy ymgysylltu'n uniongyrchol wyneb yn wyneb, sesiynau bord gron, sy'n rhywbeth y mae Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth a minnau ac eraill wedi arwain arnynt, cyfathrebiadau drwy Busnes Cymru a'r rhwydweithiau cymorth busnes, yn ogystal ag ystod o sianeli'r cyfryngau. Fe fydd yn ymwybodol fod y Llywodraeth yn darparu cymorth busnes parhaus drwy gronfa dyfodol yr economi a gwaith Banc Datblygu Cymru, ac yn fwyaf diweddar, cyhoeddodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth £6 miliwn arall ar gyfer cronfa cydnerthedd Brexit a gyhoeddwyd ddiwedd yr wythnos diwethaf, sy'n cynnwys cyfuniad o arian grant a chyllid benthyciad y gall cwmnïau wneud cais amdano. Ac yn ogystal â hynny, rydym yn parhau i wneud popeth yn ein gallu i hyrwyddo a rhoi cyhoeddusrwydd i'r wybodaeth sydd gennym ar wefan Paratoi Cymru, sy'n cynnwys y porth Brexit, sydd wedi cael 39,000 o ddefnyddwyr hyd yn hyn, rwy'n credu.
Ym mis Medi, dywedodd cyfarwyddwr cyffredinol Cydffederasiwn Diwydiant Prydain, Carolyn Fairbairn:
Mae cymaint o fusnesau yma yng Nghymru yn llawn optimistiaeth a brwdfrydedd. Maent yn awyddus i sôn am—a gweithredu ar—gryfderau Cymru. I nodi bod Cymru'n agored ar gyfer busnes. Ond maent yn wirioneddol awyddus i roi terfyn ar ansicrwydd.
Gan ddyfynnu busnesau yng ngogledd Cymru ddechrau mis Hydref, dywedodd y Daily Post:
Mae ansicrwydd yn bwydo ansicrwydd. Mae angen inni roi terfyn ar holl ansicrwydd Brexit.
Yng nghanol mis Hydref, dywedodd cadeirydd Ocado a chyn-bennaeth Marks and Spencer, Stuart Rose, ei fod bellach yn cefnogi cytundeb newydd Llywodraeth y DU, gan ddweud ei fod yn rhan o’r ymgyrch wreiddiol i 'aros', ond ei fod hefyd yn realydd, a dywedodd ei fod yn gobeithio ei fod yn bragmatydd ac yn parchu'r broses ddemocrataidd.
Ac yn olaf, dywedodd prif economegydd a strategydd cwmni buddsoddi Schroders y gallai derbyn y cytundeb newydd ddatgloi twf cryfach yn yr economi:
os yw'r cytundeb yn cael ei basio gan Senedd y DU ddydd Sadwrn, rhywbeth na ddigwyddodd, dylem weld twf cryfach yn economi'r DU wrth i gwmwl ansicrwydd Brexit godi.
Pa gamau rydych yn eu cymryd i wrando ar ddiwydiant a busnes ynglŷn â'u prif bryder, sef y diffyg sicrwydd hwnnw, a thrwy hynny, osgoi rhygnu ymlaen â hyn am fisoedd yn rhagor wrth i bleidiau geisio ailnegodi, ailgynnal refferendwm neu beth bynnag. Mae twf economi Cymru yn y dyfodol a lles cyflogaeth a phobl yng Nghymru yn dibynnu ar y sicrwydd hwnnw, a fynegwyd mor effeithiol gan y byd busnes. Mae angen rhoi diwedd ar yr ansicrwydd.
Wel, rwy'n croesawu ac yn gwerthfawrogi pryderon yr Aelod ynghylch buddiannau busnes. O na byddai ei blaid seneddol yn San Steffan, sydd wedi sathru ar bryderon busnes ers dechrau dadl Brexit, yn rhannu'r un pryderon.
Clywais innau sylwadau Carolyn Fairbairn, a chredaf imi ei chlywed yn dweud hefyd fod buddsoddiad busnes 26 y cant o dan y duedd o ganlyniad i Brexit. Ac yn ogystal, roedd twf busnes sawl pwynt canran yn is na'r hyn y byddem yn ei ddisgwyl.
Mae'n llygad ei le, mewn gwirionedd, i nodi mater ansicrwydd. Rydym yn clywed bob dydd yng Nghymru am yr effaith y mae Brexit eisoes yn ei chael ar fusnesau a chyflogwyr a bywoliaeth pobl ledled y wlad. Ond mae'r bydysawd amgen y mae'n sôn amdano yn un lle mae'r cytundeb hwn yn dda i fusnes, ac nid yw hynny'n wir. Ac mae'r syniad fod y cytundeb yn rhoi diwedd pendant i'r mater hwn yn ffuglen bur. Mae hwn yn gytundeb gwael ac mae'n rhoi sicrwydd i ni o fargen wael i fusnesau ledled Cymru. Rydym yn edrych ar gostau ychwanegol sylweddol i fusnesau bach sy'n allforio, costau nad ydynt prin yn gallu fforddio'u talu. Efallai y gall gadarnhau i mi a yw Llywodraeth y DU yn bwriadu eu digolledu am hynny. Ond fel arall, mae'r rhain yn feichiau sylweddol na all busnesau yng Nghymru fforddio gorfod eu hysgwyddo.
Mae angen i'r ansicrwydd ddod i ben, oes, ond i lawer iawn o fusnesau, mae angen i fygythiad Brexit ynddo'i hun ddod i ben. Gadewch imi ddarllen rhan o e-bost a dderbyniais gan etholwr sy'n rhedeg cwmni ymgynghorol bach ar Ynys Môn, gyda'r rhan fwyaf o arian y busnes yn dod o'r Undeb Ewropeaidd:
Mae'r niwed y mae Brexit wedi'i wneud hyd yn hyn i'n busnes yn sylweddol, meddai, yn bennaf oherwydd y drwgdeimlad y mae gwledydd eraill yn ei deimlo tuag at y DU. Rydym wedi cael ein cau allan o sawl prosiect oherwydd risg neu esgusodion eraill o'r fath. Mae hyn yn drueni mawr i fusnes a oedd yn tyfu ac yn darparu incwm, trethi a swyddi yn yr ardal. Rydym bellach yn aros yn ein hunfan ac yn aros i hyn i gyd ddod i ben fel y gallwn ailddechrau tyfu.
Ac roedd yn gofyn am fy sicrwydd y buaswn yn ymgyrchu dros 'aros'. Yn sicr, gallaf roi sicrwydd pendant iddo o ran hynny. Ond yr hyn y gall cwmnïau dirifedi o'r fath ei weld yw nad yr oedi o ychydig fisoedd fan hyn fan draw yw'r hyn sy'n berthnasol mewn gwirionedd—ond y bygythiad o ran yr hyn a gollant o beidio â bod yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd, ac fe welant nad oes yna gytundeb sydd cystal â'r un sydd ganddynt ar hyn o bryd.
Os caf, rwyf am adleisio'r pwyntiau y mae'r Aelod newydd eu gwneud. Hynny yw, mae ei brofiad a'r materion y mae ei etholwyr wedi'u codi gydag ef yn adleisio'r hyn a glywn gan fusnesau drwy'r amser. Yr wythnos diwethaf, rwy’n credu, neu’r wythnos cynt, cefais e-bost gan ffigwr blaenllaw yn y gymuned fusnes yn dweud bod y syniad fod cytundeb Boris Johnson yn ateb i ansicrwydd busnes yn ffuglen bur. Ac yn fy marn i, ac rwy'n rhannu argyhoeddiad yr Aelod, y ffordd orau o gael y sicrwydd hwnnw y mae busnesau yng Nghymru wedi gallu ffynnu oddi tano o ganlyniad i’n haelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd, yw cael refferendwm lle gallwn ymgyrchu dros aros ac ennill y ddadl honno.