Effaith Oedi Pellach o ran Brexit

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 6 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Angela Burns Angela Burns Conservative 2:40, 6 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Roedd gennyf deimlad y byddech chi'n dweud rhywbeth tebyg i hynny, Gwnsler Cyffredinol, felly rwy'n falch na chefais fy siomi. Wrth gwrs, yn y pen draw, credaf fod pob un ohonom yn clywed yr hyn rydym am ei glywed, a hoffwn ddweud wrthych beth y mae ffermwyr yn fy etholaeth yn ei ddweud wrthyf, gan eu bod yn dymuno cael ac angen sicrwydd ynglŷn â Brexit, ac o'r nifer o sgyrsiau rwyf wedi'u cael, gwn eu bod yn awyddus i gael cytundeb. Rywsut neu'i gilydd, maent am gael cytundeb er mwyn cael sicrwydd fel y gallant gynllunio ar gyfer y dyfodol. Ac eto, y mis diwethaf, yn San Steffan, pleidleisiodd y Blaid Lafur yn erbyn cymeradwyo cytundeb newydd y Llywodraeth Geidwadol, cytundeb a wnaethant gyda’r UE, ac a oedd i'w weld yn ennyn cefnogaeth amrywiaeth eithaf eang o wahanol sefydliadau, gwahanol sectorau diwydiannol, ffermwyr, ac yn y blaen. Ac ymddengys mai polisi Llywodraeth Cymru yw cael ail refferendwm. Pa warant y gallwch ei rhoi i fy ffermwyr yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, pe baech yn cynnal ail refferendwm, y byddech yn trafferthu cyflawni'r canlyniad?