Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 6 Tachwedd 2019.
Diolch i'r Aelod am gydnabod cysondeb fy ymagwedd ar ddechrau ei chwestiwn. Mae gennyf ffermwyr sy'n trafod eu pryderon gyda minnau hefyd, ac mae eu pryderon yn ymwneud â pha sicrwydd a gânt o gyllid gan Lywodraeth y DU yn lle'r gefnogaeth a gânt ar hyn o bryd. Pa gyllid y gallwn ei sicrhau ar gyfer buddsoddi rhanbarthol yng Nghymru gan Lywodraeth y DU yn lle'r gefnogaeth y gallwn ei darparu iddynt ar hyn o bryd? Yn anffodus, mae'n rhaid imi ddweud wrthynt mai'r sefyllfa mewn gwirionedd, er gwaethaf sloganau gobeithiol Boris Johnson, yw na allaf roi'r sicrwydd y maent yn dymuno'i gael. Y rheswm am hynny yw bod Llywodraeth y DU wedi esgeuluso'r sector amaethyddol yn llwyr fel rhan arwyddocaol o'n heconomi, er gwaethaf y datganiadau a welwn weithiau yn y penawdau. Felly, dyna'r realiti, a dyna y mae ffermwyr yn ei ddweud wrthyf, ac rwy'n synnu nad yw ffermwyr yn ei hetholaeth hi'n dweud wrthi eu bod yn poeni nad yw Llywodraeth y DU yn cyflawni ei chyfrifoldebau.