Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 6 Tachwedd 2019.
Diolch am yr ateb yna. Hoffwn ofyn, o ganlyniad, a fydd Llywodraeth Cymru yn cynnal asesiad effaith economaidd o effaith debygol bargen newydd Jeremy Corbyn ar economi a phorthladdoedd Cymru. Wrth gwrs, does dim llawer o fanylion penodol ynglŷn ag union natur y cytundeb hwn ar gael yn gyhoeddus, ond rwy'n cymryd, fel Gweinidog Llafur mewn Llywodraeth Lafur, eich bod yn gwybod union fwriad eich plaid o ran y cytundeb newydd rydych eisiau ei negodi. Byddwch yn ymwybodol bod Michael Gove wedi dweud wrthyf fi nad yw'r Llywodraeth Brydeinig bresennol wedi cynnal asesiadau effaith ar gyfer porthladdoedd Cymru chwaith, sy'n bryderus iawn o ystyried pwysigrwydd porthladd Caergybi yn enwedig. Allwch chi gadarnhau, felly, mai bwriad eich Llywodraeth fyddai cynnal asesiadau manwl o effaith bargen Brexit Jeremy Corbyn ar economi a phorthladdoedd Cymru, o flaen unrhyw refferendwm, os yw'ch plaid mewn llywodraeth ar ôl yr etholiad?