Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 6 Tachwedd 2019.
Wel, dwi ddim yn siarad ar ran Jeremy Corbyn, nac unrhyw aelod arall o'r meinciau yn San Steffan, ond rwy'n gallu siarad ar ran Llywodraeth Cymru ar y cwestiwn yma. Mae'r broses rŷn ni wedi ymwneud â hi, o'r cychwyn cyntaf, wedi bod yn un yn seiliedig ar dystiolaeth a ffeithiau a gwybodaeth byd go iawn, yn hytrach na sloganau a gobeithion. Ac rwy'n falch ein bod ni wedi llwyddo, gyda Phlaid Cymru, i gyhoeddi dogfen sy'n cynnwys y dystiolaeth hynny. Ond bydd yr Aelod yn gwybod, wrth gwrs, ar ôl hynny, ein bod ni wedi cyhoeddi sawl papur arall sy'n dangos impact o bob mathau—economaidd ac eraill—o safbwyntiau polisi Llywodraeth Cymru yn ymwneud â Brexit.