Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 6 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 2:32, 6 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Mae'n ddrwg gennyf, ni chlywais gennych beth yw safbwynt eich plaid. Ond edrychwch, dyma’r sefyllfa: mae’r syniad o ail refferendwm y mae eich plaid yn ei gynnig yn hollol hurt. Pam fyddai unrhyw un yn disgwyl i'r Blaid Lafur barchu canlyniad ail refferendwm os nad ydych wedi parchu'r cyntaf? Y gwirionedd yw, a gwn ei fod yn wirionedd anghyfleus i chi, ond pleidleisiodd Cymru i adael yr UE yn y refferendwm ar Brexit, gan gynnwys 57 y cant o'ch etholwyr eich hun. Ac eto, er hyn, rydych chi a llawer o bobl eraill yn y Siambr hon wedi gwneud popeth yn eich gallu i rwystro'r cyfarwyddyd a gawsom gan bobl Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig. Felly, nid oes gennych unrhyw barch at ddemocratiaeth, nid oes gennych unrhyw barch at y rheini a bleidleisiodd i adael, ac nid oes bwriad o gwbl gennych i gyflawni'r hyn y pleidleisiodd pobl Cymru drosto.

Felly, gofynnaf i chi: sut y gall unrhyw un ymddiried yn y Blaid Lafur i gyflawni canlyniad ail refferendwm os nad ydynt wedi trafferthu cefnogi canlyniad y cyntaf?