Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 6 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:33, 6 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

A daw hyn gan blaid a ymgyrchodd yn San Steffan yn erbyn y Cynulliad ar ôl canlyniad y refferendwm. Credaf fod eich safbwynt ar y ddadl hon yn eithaf rhyfeddol, Darren. Gadewch imi ddweud wrthych yn syml iawn—[Torri ar draws.] Rwy'n fwy na pharod i ateb y cwestiwn; efallai y gallwch adael imi wneud hynny. Mae polisi'r Blaid Lafur yn un o barch at etholwyr y Deyrnas Unedig y gwnaed addewidion iddynt, addewidion a gafodd eu torri, a chawsant eu torri i raddau helaeth gan bobl sy'n rhedeg Llywodraeth ei blaid yn San Steffan. Mae'n gwbl amlwg i ni mai'r unig ffordd o dynnu llinell o dan hyn—tair blynedd o dorri addewidion gan ei blaid—yw rhoi cyfle i bobl Prydain ddweud eu dweud, ac i wneud hynny ar gytundeb Boris Johnson, ac rydym yn hyderus y dangosir ei fod yn ganlyniad llawer gwaeth na pharhau i fod yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd.