Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 6 Tachwedd 2019.
Yn olaf, Weinidog, rwyf am droi at y newyddion fod Alun Cairns wedi ymddiswyddo o'r diwedd fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn dilyn y newyddion ei fod wedi helpu i gynorthwyo ffrind a danseiliodd achos llys ar drais yn fwriadol. Rwy'n siŵr eich bod yn cytuno â mi fod ymddygiad Alun Cairns yn warthus, yn anamddiffynadwy ac yn arwydd o bydredd dwfn wrth wraidd y Blaid Geidwadol yng Nghymru. Mae'n eithaf amlwg fod Alun Cairns, ac uwch aelodau eraill o'r Blaid Geidwadol yng Nghymru, yn ymwybodol o'r hyn roedd Ross England wedi'i wneud cyn iddynt ei ddewis a'i gymeradwyo fel eu hymgeisydd. A hoffwn wybod a fyddech yn cytuno fod angen cynnal ymchwiliad i ddarganfod pwy oedd yn gwybod beth a phryd—