Part of the debate – Senedd Cymru am 4:20 pm ar 6 Tachwedd 2019.
Rwyf am gyflwyno'r Siambr hon i un o fy etholwyr, Mr Heddwyn Hughes. Cyfarfûm â Heddwyn a'i deulu am y tro cyntaf nifer o flynyddoedd yn ôl, pan gawsant anawsterau gydag ariannu ei leoliad gofal ym Mynyddygarreg a daethant ataf am gymorth a chyngor. Buaswn wedi bod yn berffaith hapus i siarad â'r teulu yn unig, ond dywedodd y teulu wrthyf, 'Mae Heddwyn yn etholwr i chi, yn ogystal â ni. Dewch i'w weld. Dewch i'w gyfarfod.' Ac roeddwn yn falch iawn o wneud hynny. Roedd yn ŵr bonheddig ag anableddau dysgu difrifol ers ei enedigaeth. Bu mewn gofal er pan oedd yn naw oed mewn amryw o gartrefi, ond roedd ganddo deulu cariadus o'i gwmpas, yn byw yn y gymuned lle'r oedd yn perthyn.
Llwyddwyd i ddatrys y broblem ariannu, a pharhaodd Heddwyn i gael ei ariannu gan y bwrdd iechyd lleol, fel oedd yn briodol, ac nid oeddwn wedi clywed gan ei deulu ers amser hir iawn tan yr wythnos hon. Nid oeddwn yn cofio'r achos yn syth pan welais yr e-bost, a phan agorais yr atodiad a gweld gwên Heddwyn, fe gofiais pwy oedd e.
Bu farw Heddwyn ym mis Mai 2015 mewn cartref gofal a gâi ei redeg gan y bwrdd iechyd lleol. Ni allai'r rheithgor yn ei gwest bennu achos ei anaf, er iddo farw ar ôl torri ei wddf. Ond daeth ei gwest i'r casgliad nad oedd wedi cael gofal a thriniaeth briodol gan y staff meddygol yn ei gartref gofal, nad oeddent wedi ymateb yn briodol i'w gyflwr—roedd yn ŵr bonheddig a allai symud yn gorfforol cyn yr anaf; yn sydyn, ni allai symud o'i wddf i lawr. Nawr, pe bai hynny'n digwydd i rywun a oedd yn niwronodweddiadol—pe bai'n digwydd i un ohonom ni—byddech yn galw am ambiwlans yn syth. Penderfynodd y staff beidio â gwneud hynny yn yr achos hwn, a phan gyrhaeddodd y meddyg teulu, cafodd wybodaeth amhriodol ganddynt a'i gwnaeth yn anodd i'r meddyg teulu wneud diagnosis o'i gyflwr. Yn y diwedd, cafodd ei anfon i'r ysbyty heb allu defnyddio'i freichiau na'i goesau o gwbl. Ond ni lwyddodd yr ysbyty i wneud diagnosis fod ei wddf wedi torri am 10 diwrnod. A'r rheswm a roddwyd am hynny oedd, 'Ni allai ddweud wrthym beth oedd wedi digwydd.' Wrth gwrs na allai ddweud wrthynt beth oedd wedi digwydd—ni allai gyfathrebu'n eiriol.
Mae yna lawer iawn o bethau eraill y gallwn eu dweud am yr achos hwn. Ond daeth y teulu yn ôl ataf yn ei gylch oherwydd eu bod yn credu bod y staff gofal iechyd yn gwneud eu gorau, nad oeddent wedi cael yr hyfforddiant priodol i ddeall ei anghenion, i ddeall ei anghenion cyfathrebu, ac nad oeddent yn gallu darparu'r gofal roedd ei angen am nad oeddent yn gwybod sut—nid am nad oeddent yn dymuno gwneud hynny, nid oherwydd nad oeddent yn poeni, nid oherwydd nad oeddent yn bobl dda, ond oherwydd nad oeddent yn gwybod sut.
Gofynnodd y teulu i mi—. Roeddent yma heddiw a gofynasant i mi sôn yn benodol am ei achos yma fel enghraifft o ŵr bonheddig a oedd â blynyddoedd lawer o fywyd o'i flaen, y gellid bod wedi trin ei wddf a oedd wedi torri a gallai fod wedi parhau i fyw bywyd llawn, er y byddai ganddo anabledd corfforol o ganlyniad. Bu farw o niwmonia yn y diwedd am na chafodd driniaeth ar gyfer ei wddf am 10 diwrnod.
Rwyf am ategu popeth a ddywedwyd yn y Siambr hon heddiw am y ffaith bod hwn yn fater o gydraddoldeb, o hawl pobl i driniaeth. Roedd Heddwyn yn un o fy etholwyr. Mae ei deulu'n etholwyr i mi. Roedd yn ŵr bonheddig annwyl i'w gymuned, a chanddo fywyd llawn. Collodd y bywyd hwnnw am nad oedd y staff yn gwybod sut i ofalu amdano. Ni ellir goddef hyn yng Nghymru'r unfed ganrif ar hugain. Ac ni fyddwn yn datrys y mater drwy osod staff o flaen cyfrifiadur am 25 munud—ni allwn wneud hynny. Rhaid cyflawni hyfforddiant cydraddoldeb effeithiol—ac mae llawer ohonoch yn gwybod fy mod wedi gweithio yn y maes hwn yn y gorffennol—drwy ddysgu'r gyfraith a dysgu'r canllawiau a dysgu'r peth priodol i'w wneud, ac yna drwy gael ein rhagdybiaethau ein hunain, ein ffyrdd ein hunain o feddwl, wedi'u herio.
Gwn fod cymhlethdodau, fel y dywedodd Mark Isherwood, ynghlwm wrth roi hyfforddiant gorfodol ar waith, ond ni allaf ddychmygu y byddai unrhyw aelod o staff gofal iechyd yn y wlad hon na fyddai am gael yr hyfforddiant hwnnw pe baent yn cael amser wedi'i neilltuo ar gyfer gwneud hynny. Felly, os gwelwch yn dda, rwy'n gobeithio'n fawr—ac rwy'n ddiolchgar iawn i'r Pwyllgor Deisebau am gyflwyno hyn heddiw—os gwelwch yn dda, er mwyn Heddwyn, er mwyn pawb arall y clywsom amdanynt heddiw, gadewch i ni hyfforddi ein staff yn briodol fel na fydd ein cyd-ddinasyddion yn cael eu rhoi yn y sefyllfa hon eto. Mae Heddwyn a'i deulu, a'r holl deuluoedd y mae hyn yn effeithio arnynt, yn haeddu cael eu cymryd o ddifrif, ac mae ein staff angen ac yn haeddu'r hyfforddiant sydd ei angen arnynt i amddiffyn a chefnogi cleifion fel Heddwyn.