Part of the debate – Senedd Cymru am 4:55 pm ar 6 Tachwedd 2019.
Gobeithio na wneuthum ymyrryd yn rhy gynnar, ond mewn gwirionedd, cytunaf â'r pwynt rydych newydd ei wneud, sef mai un o'r problemau yw'r diffyg unffurfiaeth, gan fod gennyf ardaloedd yn fy etholaeth lle mae'r ddarpariaeth yn eithriadol o dda o ran gofal sylfaenol, yn ogystal â'r ymgysylltiad â thimau gofal iechyd cymunedol. Mae gwaith anhygoel yn digwydd. Ond mae gennyf broblemau mewn rhai ardaloedd o ran mynediad at ddeintyddiaeth, ac nid yw'n ymddangos bod unrhyw batrwm i'r anghysondeb na rheswm amdano.