10. Dadl Plaid Cymru: Mynediad at Wasanaethau Iechyd

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:56 pm ar 6 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 4:56, 6 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu bod Huw Irranca-Davies yn gwneud pwynt dilys iawn, sef y dylem, mewn gwlad o faint Cymru, 3.5 miliwn o bobl, allu sicrhau rhywfaint o gysondeb. Nid wyf yn gwybod os yw'n wir yn ei etholaeth ef, ond yn sicr dyna'r profiad yn genedlaethol, mai po dlotaf yw cymuned, y mwyaf sâl y mae'n debygol o gael ei gwasanaethu. Nid yw bob amser yn wir, ac mae gennym bractisau rhagorol yn gwasanaethu rhai o'n cymunedau tlotaf, ond nid yw'n ddigon da.

Cawsom drafodaeth yn ddiweddar yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog, trafodaeth a godwyd gan fy nghyd-Aelod Adam Price, am yr addewid maniffesto nas cadwyd i fynnu bod meddygfeydd yn agor gyda'r nos ac ar benwythnosau. Dywedwyd wrthym nad oedd galw am hynny. Rwy'n ei chael hi'n anodd iawn credu hynny. Ond hefyd rydym yn gwybod—bid a fo am hynny—mai dim ond 74 y cant o bractisau yn 2018 a oedd yn agored yn ystod yr hyn a elwir yn oriau craidd, rhwng 8 a.m. a 6 p.m., ac yn ystod yr oriau craidd hynny nid oes raid iddynt fod yn gweld cleifion hyd yn oed. Felly, mae bron i 30 y cant ohonynt yn methu cyrraedd y targed hwnnw, sy'n darged nad yw'n effeithiol iawn beth bynnag. Gallwn barhau, ac rwy'n siŵr y gallai llawer ohonoch ar draws y Siambr gyfrannu hefyd.

Felly, pam rydym yn y sefyllfa hon? Nawr, rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog, yn ei gyfraniad, yn sôn am Lywodraeth Dorïaidd San Steffan a chyni, ac wrth gwrs mae elfen o wirionedd yn hynny. Nid oes gennym goeden arian hud, fel y dywedodd rhywun unwaith. Ni allwch gynhyrchu adnoddau o ddim byd. Ond gadewch i mi ei atgoffa, Ddirprwy Lywydd, fod ei blaid ef wedi bod yn gyfrifol am y gwasanaeth iechyd yng Nghymru ers 20 mlynedd, ac am y 10 mlynedd gyntaf o'r blynyddoedd hynny, rhwng 1999 a 2010, roedd yr hinsawdd yn gymharol iach o ran cyllidebau cyhoeddus.

Hoffwn dynnu sylw'r Siambr at rai o ymrwymiadau maniffesto'r Blaid Lafur yn etholiad 2003. Dechreuasant gyda chyfraniad gweddol agored a gonest am yr hyn nad oeddent wedi'i wneud.

Nid ydym wedi cyrraedd...ein targedau ar gyfer lleihau aros, ond nid newid cyfeiriad neu gwtogi ar fuddsoddiad, diwygio a meithrin gallu yw'r ateb yn y meysydd hyn—ond mynd yn gyflymach ac ymhellach.

Wel, digon teg. Felly, aethant ymlaen wedyn i ddweud:

Yn ystod ein hail dymor byddwn yn sicrhau nad oes neb yn aros mwy na 24 awr i weld aelod o'u Tîm Gofal Sylfaenol, ac ar yr un pryd byddwn yn ehangu'r ystod o wasanaethau a ddarperir ar lefel leol.

Byddai hwnnw wedi bod yn gynllun rhagorol. Aethant ymlaen i ddweud hefyd:

Yn ein hail dymor byddwn yn recriwtio 3,010 o nyrsys ychwanegol a 410 o feddygon ychwanegol.

Nawr, rhaid i mi atgoffa'r Siambr fod hyn ar adeg pan nad oedd adnoddau'n dynn, ac ni wnaeth hynny ddigwydd.

Felly, gadewch i ni symud ymlaen at heddiw, a thystiolaeth gan Gwella Iechyd Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru a fydd yn cael ei gyflwyno gerbron y pwyllgor iechyd yfory. Mae'n dystiolaeth ysgrifenedig, felly mae eisoes yn hysbys i'r cyhoedd. Mae'r dystiolaeth yn datgan mai

Prif nod y strategaeth yw sicrhau, erbyn 2030:

Y bydd gennym y gweithlu cywir i allu darparu iechyd a gofal cymdeithasol hyblyg ac ystwyth sy'n diwallu anghenion pobl Cymru.

Bydd gennym weithlu sy'n adlewyrchu amrywiaeth y boblogaeth, a

Bydd gennym weithlu sy'n teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi.

Erbyn 2030. Tri deg un mlynedd ar ôl i blaid y Gweinidog gymryd rheolaeth dros y gwasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru.

Nid wyf yn esgus fy mod yn gwybod yr atebion i gyd—nid wyf yn tybio bod neb yn gwybod yr atebion i gyd—ond gwyddom fod sefydliadau mawr eraill, er enghraifft cwmnïau amlwladol, gydag anghenion cymhleth, marchnadoedd sy'n amrywio, gwahanol lefelau o alw, yn cynllunio eu gweithlu i ddiwallu anghenion ac maent yn llwyddo i wneud hynny flynyddoedd ymlaen llaw. Efallai nad ydym am ddilyn eu esiampl, wrth gwrs—efallai fod ganddynt rai arferion creulon na fyddem yn dymuno mynd o fewn 100 milltir iddynt—ond mae'n profi ei bod yn bosibl cynllunio'r gweithlu sydd ei angen arnoch yn effeithiol mewn sefyllfa gymhleth. Gwyddom fod arnom angen rheolaeth gymwys, gwyddom fod arnom angen adnoddau priodol, a gwyddom fod arnom angen pobl sy'n arbenigwyr ar gynllunio'r gweithlu.

Nawr, bydd y Gweinidog yn dweud bod gennym hyn i gyd, ond buaswn yn awgrymu wrth y Siambr hon nad yw hynny'n wir o gwbl. Oherwydd fel arall, byddai gennym wasanaethau effeithiol yn y lleoedd lle mae eu hangen pan fo pobl eu hangen. Gwyddom pa mor bwysig yw hi—ac mae'r Gweinidog wedi dweud hyn droeon—i ni gryfhau ein gwasanaethau yn y gymuned, oherwydd mae hynny nid yn unig yn well i gleifion, mae hefyd yn cadw cleifion allan o ofal eilaidd, sydd gymaint yn ddrutach. Nid oes neb am fod yn yr ysbyty—gall gofal sylfaenol da sicrhau nad dyna lle mae pobl yn mynd yn y pen draw.

Felly, mae rhywbeth mawr o'i le. Ac rwy'n siŵr y cawn yr ymateb hunanfodlon arferol gan y Gweinidog yn dweud y bydd popeth yn iawn. Wel, efallai fy mod yn sgeptig, Ddirprwy Lywydd, ond ar ôl 20 mlynedd, rwy'n dechrau amau hynny. Credaf mai'r cyfle gorau inni ddatrys hyn yw newid Llywodraeth. Yn y cyfamser, rhaid i'r Gweinidog ddangos arweiniad a rhoi cyfeiriad a her. Ac yn anad dim, rhaid iddo beidio â bod yn hunanfodlon am y cymunedau hynny y mae Huw Irranca-Davies wedi tynnu sylw atynt, cymunedau nad ydynt yn cael y gwasanaethau cymunedol y maent yn eu haeddu. Fel gwlad, rydym wedi aros yn ddigon hir am y gwasanaethau iechyd cymunedol sydd eu hangen arnom, ac mae Llafur yng Nghymru wedi rhedeg allan o esgusodion.