Part of the debate – Senedd Cymru am 5:11 pm ar 6 Tachwedd 2019.
Diolch yn fawr iawn. Ydy, mae'n wych o beth gweld yr ysgol feddygol yno, neu'r addysg feddygol yno'n tyfu. Ydych chi'n cytuno bod yr hyn dwi'n ei weld yn fy etholaeth i ar hyn o bryd, yn ardal Caergybi—lle mae yna ddwy feddygfa, oherwydd methiant i recriwtio meddygon, wedi gorfod trosglwyddo i ofal y bwrdd iechyd, a hynny'n achosi argyfwng o ran gofal sylfaenol yng Nghaergybi—yn brawf arall o'r angen inni symud tuag at hyfforddi llawer mwy o feddygon, sydd ddim yn helpu pethau heddiw ond yn sicr yn gwneud pethau'n haws mewn blynyddoedd?