Part of the debate – Senedd Cymru am 5:09 pm ar 6 Tachwedd 2019.
Diolch yn fawr iawn. Mae hi'n newyddion calonogol bod 186 o lefydd hyfforddi meddygon teulu wedi cael eu llenwi eleni, sy'n gynnydd ar y 136 oedd ar gael yn 2017, a oedd yn digwydd bod yr un ffigur yn union â'r un yn 2010. Mae'n hollbwysig bod y momentwm yma yn cael ei gynnal a'i gyflymu, fel y clywon ni gan Helen Mary, a hynny er mwyn datblygu y gweithlu angenrheidiol sydd ei angen ar gyfer y dyfodol, er mwyn rhoi gwell mynediad at wasanaethau i gleifion. Mae'n bwysig bod y cynnydd yma yn digwydd mewn gwahanol rannau o Gymru, ac mae angen cynllunio manwl, efo 23 y cant o feddygon teulu yn debygol o ymddeol ymhen pum mlynedd.
Mi fydd Aelodau yn ymwybodol o drafferthion mawr sydd yn codi yn fy etholaeth i o dro i dro, wrth i feddygon teulu ymddeol ac wrth i feddygfeydd fethu â denu meddygon newydd, yn enwedig rhai sy'n gallu cynnig gwasanaeth a gofal drwy'r Gymraeg.
Ac mi fydd rhai ohonoch chi hefyd yn cofio fy mod i wedi bod yn dadlau'r achos dros gael ysgol feddygol yn y gogledd, ym Mhrifysgol Bangor. Ac wedi cryn berswâd ac ymgyrchu a thrafod yn fan hyn, fe ildiodd y Llywodraeth, ac erbyn hyn mae'r criw cyntaf o fyfyrwyr meddygol yn astudio meddygaeth ym Mangor ac mae'r gwaith yn mynd yn ei flaen.
Mi oedd y Gweinidog yn gyndyn iawn o roi hyn ar waith ar y dechrau, ond fe welodd fod y ddadl roedden ni'n rhoi gerbron yn un rhesymegol, sef bod yna dystiolaeth o bob rhan o'r byd sy'n dangos bod myfyrwyr meddygol yn aros yn agos at y man lle maen nhw'n cael eu hyfforddi. A dwi yn ffyddiog y bydd rhai o'r criw cyntaf yma sydd ym Mangor heddiw yn dechrau plygio rhai o'r bylchau yn ein meddygfeydd a'n hysbytai ni, gan wella gofal cleifion ar draws y gogledd. Ond mae angen mwy o lefydd hyfforddi, gan gynnwys ym Mangor, a dwi'n ffyddiog y daw ysgol feddygol lawn i Fangor cyn hir.