Part of the debate – Senedd Cymru am 4:55 pm ar 12 Tachwedd 2019.
Rwy'n hapus i godi i gefnogi'r ddeddfwriaeth hon ar isafswm pris alcohol, fel y'i gosodwyd ger ein bron. Yn amlwg, mae hon yn fenter iechyd cyhoeddus o bwys, fel yr amlinellodd y Gweinidog. Rydym wedi trafod o'r blaen, yn ystod hynt y Bil hwn drwy'r Senedd, amryw effeithiau uniongyrchol alcohol ar iechyd o ran clefydau'r afu a'r gweddill ond hefyd, yn amlwg, fel y byddem yn gwerthfawrogi, y dylanwadau ehangach yn y gymdeithas fel cynnydd mewn trais domestig, cynnydd mewn troseddau ac anhrefn gyhoeddus, sy'n gysylltiedig â chyfraddau cynyddol o yfed alcohol cryf.
Yn amlwg, rydym wedi cael y dystiolaeth ddiweddar, fel y crybwyllwyd gan Angela Burns, fod y polisi hwn—polisi tebyg iawn, fel mae'n debyg—wedi'i weithredu yn yr Alban bellach, er gwaethaf oedi o bum mlynedd a achoswyd gan y diwydiannau diod mawr yno, sydd yn amlwg â diddordeb personol yn hyn, yn eu tyb nhw. Ond, yn amlwg, mae adroddiad a gynhyrchwyd gan yr Alban fis diwethaf yn dangos pa mor llwyddiannus y bu'r polisi isafswm pris alcohol yn yr Alban. Mae pobl yr Alban yn yfed llai o alcohol nawr. Pwy fyddai wedi meddwl? Mae pobl yr Alban yn yfed llai o alcohol—go brin y gallwn i gredu hynny, pan ddarllenais i hynny yn gyntaf oll yn y British Medical Journal fis diwethaf—ac mae hynny'n ymwneud â'r darn arloesol hwn o ddeddfwriaeth. Oherwydd, fel yr amlinellodd y Gweinidog, ac fel yr ydym ni wedi'i ddweud o'r blaen, mae'r ddeddfwriaeth hon yn targedu alcohol cryf yn benodol mewn pobl sy'n yfed yn beryglus, a dyna lle mae'n dangos y budd mwyaf hefyd.
Nawr, o ran fy unig bwynt i, mewn gwirionedd, o ran y pris o 50c yr uned, dyna'r pris a ddefnyddiwyd yn yr holl fodelu dros y blynyddoedd diwethaf. Mae'n ffigur a gafodd ei grybwyll ers sawl blwyddyn bellach. Derbyniaf fod y gwaith modelu y mae'r Llywodraeth hon wedi bod yn rhan ohono wedi edrych ar amrediad o brisiau, ond rydym wedi penderfynu ar 50c yr uned, sy'n iawn cyn belled ag y mae'n mynd am y tro ond, wrth gwrs, wrth i amser fynd yn ei flaen, bydd teimlad efallai fod angen i brisiau newid. Mae prisiau yn newid ac, yn amlwg, efallai y bydd angen i'r uned isafbris alcohol honno newid hefyd. Felly, o ran mai hwnnw yw'r pris a bennwyd nawr, a gaf i ofyn i'r Gweinidog pa gynlluniau sydd ganddo, neu pa strategaeth sydd ganddo ar waith, i ystyried beth ddylai'r pris hwnnw fod yn y dyfodol, neu a ydym ni'n mynd i gael 50c yr uned yn haearnaidd am byth, y byddwn i'n tybio y byddai angen ei addasu'n ddiweddarach?
Ond, gyda'r ychydig sylwadau hynny, rydym ni'n gefnogol iawn i'r mesur gwerthfawr iechyd y cyhoedd hwn. Diolch yn fawr.