Part of the debate – Senedd Cymru am 5:29 pm ar 12 Tachwedd 2019.
A ydych yn cydnabod y dechreuwyd yr holl broses hon pan roddodd Llywodraeth y DU £57 miliwn yn 2011 i Lywodraeth Cymru fel arian cyfatebol, er mwyn i Lywodraeth Cymru ddarparu rhaglen Cyflymu Cymru—11 y cant o'r holl arian—ac yna £56 miliwn yn fwy yn 2017 i ymdrin â'r ardaloedd anoddaf eu cyrraedd, er mwyn i Lywodraeth Cymru gyflawni? Llywodraeth y DU a roddodd gychwyn ar hyn; eich gwaith chi oedd cyflawni.