3. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 12 Tachwedd 2019.
7. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer gwella trafnidiaeth? OAQ54655
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae blaenoriaethau Llywodraeth Cymru yn cynnwys hyrwyddo teithio llesol, buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus, a seilwaith trafnidiaeth sy'n cefnogi ffyniant a hygyrchedd i bawb.
Diolch am yr ateb, Prif Weinidog. Mae'r Adran Drafnidiaeth yn rhagamcan y bydd traffig ar hyd yr M4 yng Nghymru yn cynyddu gan bron i 38 y cant dros y 30 mlynedd nesaf. Yn 2015, roedd cyfraddau damweiniau ar rai rhannau o'r draffordd yn dal i fod yn uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol er gwaethaf cyflwyno camerâu cyflymder amrywiol ar rai mannau peryglus ar yr M4. Mae gan rai rhannau o'r M4 aliniadau sy'n is na'r safonau presennol ar gyfer traffyrdd, heb lain galed, a cheir cyffyrdd mynych, sy'n achosi i gerbydau newid lonydd dros bellteroedd cymharol fyr. Prif Weinidog, nid ydych chi a'ch Llywodraeth wedi cyflawni ei hymrwymiad yn ei maniffesto ar gyfer yr etholiad diwethaf ar gyfer y ffordd liniaru. Pa bryd y byddwch chi'n cymryd y camau sy'n ofynnol i wella diogelwch a thagfeydd ar yr M4, os gwelwch yn dda?
Wel, o ystyried yr hyn a ddywedodd, bydd yr Aelod yn falch, Llywydd, o groesawu'r swyddogion traffig ychwanegol sydd eisoes yn gweithio ar yr M4 yn ardal Casnewydd, gan leihau'r amser ymateb i ddamweiniau o 20 munud i 10 munud. Bydd yn falch o groesawu'r gwasanaeth adfer am ddim, a sefydlwyd gennym dros yr haf, mewn trefniant anffurfiol ar yr adeg honno gyda Heddlu Gwent, ond sydd bellach wedi'i gadarnhau mewn cynllun ar gyfer patrolau gwelededd uchel o gapasiti adfer trwm ar gyfer digwyddiadau mawr a gwyliau banc ac yn y blaen. Bydd yn falch o wybod bod arwyddion negeseuon amrywiol am amserau teithiau bellach wedi'u cwblhau ac yn cael eu defnyddio rhwng cyffordd 23 a chyffordd 29, a'n bod yn gwneud llawer mwy o ddefnydd o gyfryngau cymdeithasol i wneud yn siŵr bod gyrwyr yn ymwybodol o broblemau ar y rhwydwaith a'r angen i gymryd camau gweithredu i osgoi'r damweiniau hynny a all achosi oedi i eraill.
Fel y clywsom yn gynharach, Prif Weinidog, ar ôl 31 Rhagfyr, gallem ni golli'r trenau Pacer o reilffyrdd y Cymoedd. Nawr, byddai colli'r trenau Pacer yn achos dathlu fel arfer, oherwydd maen nhw mor hen ac mor ofnadwy, ond, oherwydd y diffyg cynllunio gennych chi, rydym ni'n wynebu gostyngiad digynsail yn y gwasanaethau trên dros nos. Yn gynharach, roeddech chi'n beio cwmnïau preifat, ac eto fe'ch rhybuddiwyd am hyn chwe blynedd yn ôl. Ac roedd yr adroddiad o 2013 yn galw ar Lywodraeth Cymru—nid ar gwmnïau preifat, ond chi, eich hunain—i ddatblygu a chyhoeddi strategaeth cerbydau fel mater o frys. Ni weithredwyd ar yr argymhelliad hwnnw a bydd teithwyr dig, gan gynnwys fi fy hunan, eisiau gwybod pam. Ni allwn dderbyn gwasanaeth hyd oed gwaeth nag sydd gennym ar hyn o bryd. Cafodd fy nhrên i ei ganslo y bore yma, ac mae hyn yn digwydd yn fwy ac yn fwy rheolaidd. Prif Weinidog, beth yw eich cynllun B os na allwch chi ddefnyddio'r trenau Pacer ar ôl 31 Rhagfyr?
Wel, fel yr eglurais yn fy ateb cynharach, Llywydd, rydym ni eisiau colli'r trenau Pacer o'r rhwydwaith a byddem ni wedi gallu gwneud hynny pe byddai'r cwmnïau a oedd wedi eu contractio i gyflenwi cerbydau newydd i rwydwaith Cymru wedi cyflawni'r addewidion a wnaethon nhw. Nid yw hynny'n fethiant ar ran Llywodraeth Cymru. Roedd yr archebion hynny wedi eu gwneud, roedd y cynlluniau hynny wedi eu gwneud, ond mae'r cwmnïau, ar ôl contractio i ddarparu'r cerbydau, bellach wedi methu â gwneud hynny. Rydym ni'n dal i drafod, fel y dywedais, gyda'r Adran Drafnidiaeth, parhau i ddefnyddio trenau Pacer yn y tymor byr, hyd y bydd y cerbydau newydd hynny ar gael. Ond ni fu erioed yn gynllun hirdymor i Trafnidiaeth Cymru nac i'r Llywodraeth i barhau i ddibynnu ar drenau Pacer ymhell i'r dyfodol.