Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru ar 12 Tachwedd 2019.
1. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn monitro'r broses o weithredu Deddf Cydraddoldeb 2010 yng Nghymru? OAQ54657
Rydym ni'n gweithio'n agos gyda Chomisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru, sy'n rheoleiddio Deddf Cydraddoldeb 2010. Cyhoeddodd y Comisiwn friffiau sectoraidd o'u hymarfer monitro diweddaraf yn gynharach yn yr haf.
Diolch. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn mynnu—ac rwy'n dyfynnu yma—bod yn rhaid i ddarparwyr gwasanaethau feddwl o flaen llaw a chymryd camau i fynd i'r afael â rhwystrau sy'n llesteirio pobl anabl. Wrth wneud hyn, mae'n dweud ei bod yn syniad da ystyried yr amrywiaeth o anableddau a allai fod gan eich darpar ddefnyddwyr gwasanaethau ac na ddylech aros nes y bydd person anabl yn cael anhawster defnyddio gwasanaeth. Mae hefyd yn dweud ei bod yn ofynnol i'r rhai y mae'r darpariaethau yn berthnasol iddynt gymryd camau rhesymol i osgoi rhoi pobl anabl dan anfantais sylweddol, pan fod methu â chydymffurfio â'r ddyletswydd hon yn fath o wahaniaethu. Ac mae hyn yn adlewyrchu model cymdeithasol anabledd, sy'n gofyn am newidiadau i'r amgylchedd, yn ogystal â newidiadau o ran agwedd ac ymddygiad. Ac eto, bob dydd, rwy'n gorfod ysgrifennu, ar hyn o bryd, gwaith achos sy'n ymwneud â diogelu plant, manteisio ar addysg, gwaharddiadau o ysgolion a cholegau, manteisio ar ofal a chymorth gan wasanaethau cymdeithasol a manteisio ar wasanaethau iechyd yng Nghymru, a gorfod ailadrodd cynnwys y ddeddfwriaeth hon i'r un darparwyr gwasanaeth yr wyf eisoes wedi ailadrodd iddyn nhw'n flaenorol. Mae hyn yn fethiant o ran monitro. Sut ydym ni'n mynd i reoli'r newid i sicrhau bod y cyrff cyhoeddus hyn ar y llawr uchaf yn deall beth mae'n ei olygu, ond yna hefyd yn monitro i sicrhau eu bod yn ei gweithredu?
Wel, diolch i Mark Isherwood am y cwestiwn hwnnw, oherwydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sydd i reoleiddio dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus, a chomisiynwyd gwaith y llynedd, yn 2018, i fonitro'r gydymffurfiaeth honno. Fel y dywedais, cyhoeddwyd canlyniadau’r ymarfer yn gynharach eleni, ac mewn gwirionedd rydym yn nodi yn y prif ganfyddiad nad oedd yr un o'r cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn bodloni holl ofynion dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn llawn—y dyletswyddau penodol a oedd yn cael eu monitro. Rwy'n siŵr eich bod wedi gweld y crynodeb o'r materion cyffredin a nodwyd. Felly, yn amlwg, mae heriau sylweddol iawn yn bodoli.
Rwyf wedi trafod hyn gyda Ruth Coombs, Cyfarwyddwr y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, ac es i i ddigwyddiad ym mis Gorffennaf eleni. Rwy'n cael fy nghalonogi nawr bod sefydliadau yn camu ymlaen a byddwn i'n cefnogi'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i gymryd hyn o ddifrif. Rydym yn falch ein bod wedi cael y dyletswyddau penodol hynny yng Nghymru ac mae angen inni wneud yn siŵr eu bod yn cael eu gweithredu. Ond, credaf y bydd yr Aelod wedi cael ei galonogi gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yr wythnos diwethaf, yn ymrwymo'n benodol i'r rhai y mae anableddau dysgu yn effeithio arnyn nhw i'w galluogi i fyw bywydau actif a bodlon mewn amgylcheddau gofalgar a sefydlog. Gwn fod y fframwaith a gyhoeddwyd ganddi wedi cael croeso mawr o ran y fframwaith tair haen newydd ar gyfer addysg a hyfforddiant sy'n mynd i gael ei ddatblygu a'i gyflwyno'r flwyddyn nesaf.
Ond hefyd, yn olaf, byddwn i'n dweud bod y fframwaith ar gyfer byw'n annibynnol, 'Gweithredu ar Anabledd', yn hanfodol er mwyn sicrhau ein bod yn symud ymlaen gyda chynllun gweithredu sy'n cynnwys pob Gweinidog yn y Llywodraeth hon yng Nghymru, ac, wrth gwrs, mae hynny i'w gyflawni ar lefel leol a hefyd gan y sector iechyd.
Diolch, Llywydd. Rwy'n siŵr y bydd y Dirprwy Weinidog yn cytuno â mi, wrth fynd i'r afael â materion yn Neddf Cydraddoldeb 2010, ei bod yn bwysig bod yr iaith briodol yn cael ei defnyddio bob amser. Tybed a yw hi'n rhannu fy mhryder y bu tueddiad cynyddol mewn trafodaethau cyhoeddus i ddefnyddio'r termau 'rhyw' a 'rhywedd' yn gyfnewidiol. Nawr, fel mae pethau'n sefyll ar hyn o bryd, nid yw rhywedd yn nodwedd warchodedig. Tybed a fyddai'r Dirprwy Weinidog yn cytuno â mi efallai ei bod yn bryd diweddaru'r Ddeddf Cydraddoldeb i adlewyrchu'r iaith gyfredol. Credaf fod y Ddeddf, fel y mae, yn cyfeirio at bobl sy'n drawsrywiol; nid yw'n cyfeirio'n benodol at bobl sy'n drawsryweddol. Felly, yn ein barn ni, mae angen addasu'r Ddeddf honno er mwyn derbyn arfer da presennol. Ond a wnaiff y Dirprwy Weinidog hefyd gytuno â mi, yn y cyfamser, ei bod yn bwysig iawn, wrth gyfeirio at wahaniaethu rhwng menywod a dynion, fod cyrff cyhoeddus yn defnyddio'r term 'gwahaniaethu ar sail rhyw' ac nid 'gwahaniaethu ar sail rhywedd' gan ei fod yn drysu rhwng dau fater cydraddoldeb gwahanol i'w gilydd ond pwysig iawn?
Wel, rwy'n gwerthfawrogi bod gan Helen Mary Jones farn, yn yr un modd ag eraill, ar y mater hwn. Rwy'n fodlon iawn ar y cyngor a roddwyd inni, nid yn unig o ran y Ddeddf Cydraddoldeb a sut y cafodd ei darparu gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, ond hefyd gan sefydliadau fel y Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod, sy'n cynrychioli sefydliadau menywod ledled Cymru, a hefyd gan Stonewall Cymru, yn enwedig ynghylch eu cyngor ar drawsrywedd. Yn wir, nid yn unig yr ydym yn ariannu Stonewall Cymru, ond rydym yn eu hariannu i gyflogi gweithiwr trawsrywiol hefyd. Rwy'n ymroddedig iawn i ganlyniad yr adolygiad o'r rhywiau gan Chwarae Teg, sef y ffordd ymlaen yn fy marn i, ac yn sicr bydd Llywodraeth Cymru yn adrodd yn fuan ar ein hymateb i hynny.