Part of Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 12 Tachwedd 2019.
A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am yr ymateb hwnnw? Efallai y dylwn i ddatgan fy mod yn Llysgennad Rhuban Gwyn, diolch i fy nghyfaill Jack Sargeant, a anfonodd yr holl wybodaeth ataf ar gyfer bod yn un. Ond pan fydda i'n siarad am faterion fel hyn, mae hynny'n fwy o lawer fel tad i ferch 21 oed na fel gwleidydd. Mae trais yn erbyn menywod bob amser yn annerbyniol. Mae angen i bawb ohonom wneud safiad a siarad yn ei erbyn pan fyddwn yn dod ar ei draws. Rwy'n gwisgo fy Rhuban Gwyn gyda balchder. Sut y gall Llywodraeth Cymru hyrwyddo Diwrnod Rhuban Gwyn ledled yr holl sector cyhoeddus yng Nghymru?