Part of the debate – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 12 Tachwedd 2019.
A thrwy ein rhaglen ni, sef Cymru'n Cofio Wales Remembers, rydym yn parhau i nodi canmlwyddiant y rhyfel byd cyntaf. Mae'r rhaglen yn gweithio ar y cyd â phartneriaid cenedlaethol a lleol, gan roi teyrnged deilwng i'r rhai yr effeithiwyd arnynt gan y gwrthdaro erchyll hwnnw, ac roeddwn i'n falch fod cyllid wedi ei roi a fydd yn ymestyn y rhaglen tan 2020.
Ym mis Mai, fe wnes i lansio'r adroddiad blynyddol cyntaf erioed gan Lywodraeth Cymru ar gyfamod y lluoedd arfog. Mae'r adroddiad hwn yn nodi'r cynnydd a wnaed ac mae'n tystio i'r hyn y gellir ei gyflawni wrth gydweithio ar draws pob sector. Heddiw, hoffwn i achub ar y cyfle i rannu gwybodaeth gyda'r Aelodau am y cynnydd sydd wedi ei wneud o ran rhoi mwy o gefnogaeth i gymuned ein lluoedd arfog.
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i gefnogi iechyd a lles cymuned ein lluoedd arfog, gan weithio i sicrhau bod y ddarpariaeth gofal iechyd yn diwallu'r anghenion sydd ganddyn nhw. Rydym yn darparu bron £700,000 yn flynyddol i GIG Cymru i Gyn-filwyr i helpu i drin cyflyrau iechyd meddwl. Mae hwn yn wasanaeth unigryw—yr unig wasanaeth cenedlaethol o'i fath yn y DU—sydd wedi cael dros 4,500 o atgyfeiriadau ers iddo ddechrau.
Yng nghynhadledd y cyfamod fis diwethaf, roeddwn i'n falch o helpu i lansio'r rhwydwaith trawma i gyn-filwyr yng Nghymru. Mae hwn yn ddatblygiad cadarnhaol iawn, a fydd, mewn cydweithrediad â rhwydwaith o arbenigwyr ledled Cymru, yn galluogi i gyn-bersonél y lluoedd arfog, sydd wedi dioddef anafiadau corfforol difrifol o ganlyniad i'w cyfnod yn y lluoedd arfog, gael gofal amserol a phriodol ar gyfer eu hanafiadau, ble bynnag y maen nhw'n byw yng Nghymru.
Rydym yn cydnabod yr effaith y gallai'r pontio ei chael ar les cymuned ein lluoedd arfog. Mae sicrhau bod y cymorth cywir ar gael wedi iddyn nhw ddychwelyd i fywyd sifil yn hollbwysig, ac mae hwn yn rhywbeth yr ydym ni'n mynd i'r afael ag ef, gan weithio gyda'r Weinyddiaeth Amddiffyn i sicrhau bod y rhai sy'n gadael y lluoedd arfog, a'u teuluoedd nhw, sy'n dychwelyd i Gymru yn gallu cael gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael ar lefel leol.
I sicrhau cysondeb wrth ddarparu polisïau a gweithdrefnau sy'n cefnogi cymuned ein lluoedd arfog, rydym wedi dyrannu £250,000 y flwyddyn am ddwy flynedd, o 2019 i 2020, i ariannu swyddogion cyswllt y lluoedd arfog—yr AFLOs. Gan weithio gydag awdurdodau lleol, mae'r swyddogion cyswllt yn gwneud cynnydd sylweddol, gan helpu i gynyddu ymgysylltiad, gwella sgiliau staff rheng flaen a chodi ymwybyddiaeth o'r cyfamod.
Ceir nifer o enghreifftiau o arfer gorau. Yn y Gogledd, er enghraifft, mae hyfforddiant ar gyfer darparwyr gwasanaethau rheng flaen yn mynd rhagddo i godi ymwybyddiaeth o'r cyfamod. Ar yr un pryd yn y De, mae awdurdodau lleol yng Ngwent wedi diwygio eu polisïau tai ar gyfer rhoi ystyriaeth i hyd y cyfnod o amser a dreuliwyd yn y lluoedd arfog wrth ystyried rhestrau aros.
Yng ngrŵp arbenigol y lluoedd arfog ym mis Medi, fe glywsom ni am ddatblygu'r Gwasanaeth Cymorth wrth Adael y Lluoedd Arfog (y DTS). Mae'r DTS wedi ei anelu at y rhai sy'n gadael y lluoedd arfog, a'u teuluoedd nhw, sydd ag anghenion pontio cymhleth, a bydd yn rhoi cymorth a gwybodaeth mewn meysydd allweddol fel tai, cyllid, iechyd a lles. Fe fyddwn ni'n parhau i weithio gyda phartneriaid allweddol i sicrhau bod gennym ni system gymorth ddi-dor ar waith ar gyfer y rhai sydd angen hynny.
Yn ddiweddar, fe ysgrifennodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth a minnau ar y cyd at yr holl Aelodau ynghylch ein llwybr cyflogaeth a'n pecyn cymorth i gyflogwyr. Mae'r adnoddau pwysig hyn yn llywio ac yn rhoi dewisiadau i bobl sy'n gadael y lluoedd arfog a chyn-filwyr wrth chwilio am waith boddhaol, gan gymhwyso'r nifer fawr o sgiliau gwerthfawr sydd gan gyn-bersonél y lluoedd arfog. Fe fyddem ni'n falch iawn o gael cefnogaeth gan Aelodau i godi ymwybyddiaeth o'r dulliau hyn sy'n arbennig o ddefnyddiol o fewn y gymuned fusnes.
Fe all cyfnodau o fod ar wahân, yn ogystal â natur symudol bywyd yn y lluoedd arfog, arwain at heriau cyflogaeth i wragedd a gŵyr. Mae'r wefan newydd Forces Families Jobs yn darparu cyfleuster sy'n addas i aelodau'r lluoedd arfog i gynorthwyo teuluoedd y lluoedd arfog i gael swyddi a chyfleoedd am hyfforddiant.
Wrth lansio'r wefan yn ein cynhadledd ni ar y cyfamod, fe glywais i drosof fy hunan am yr heriau unigryw sy'n wynebu teuluoedd y rhai sy'n aelodau o'r lluoedd arfog. Mae nifer o fusnesau ledled Cymru wedi cofrestru gyda'r safle, gan gynnwys pobl fel General Dynamics, Prifysgol De Cymru a Choleg Sir Benfro.
Fe all plant i aelodau'r lluoedd arfog sydd â phrofiad o'u rhieni yn y fyddin wynebu heriau addysgol gwirioneddol. Mae'r gronfa i gefnogi plant y lluoedd arfog yng Nghymru, a lansiwyd yn 2018, wedi bod ar gael ar gyfer y flwyddyn academaidd 2019/20. Mae'r gronfa bwrpasol o £250,000 yn ceisio lliniaru effeithiau adleoli neu symudedd, gan gefnogi ysgolion i wreiddio arferion a all fod o fudd i blant y lluoedd arfog a'u hysgol nhw.
Rwy'n ymwybodol bod rhai cyn-filwyr yn cael trafferth i gael tai i fyw ynddyn nhw. Felly, gadewch inni fod yn glir, nid yw hyn yn dderbyniol. I gydnabod eu gwasanaeth nhw i'w gwlad, fe ddylid rhoi blaenoriaeth fawr o fewn cynlluniau dyrannu awdurdodau lleol i bersonél y lluoedd arfog sydd wedi cael eu hanafu'n ddifrifol neu sydd wedi eu handwyo yn nhymor eu gwasanaeth ac sydd mewn angen dybryd o dai cymdeithasol. Mae Llywodraeth Cymru wrthi'n adolygu'r trefniadau i roi blaenoriaeth i anghenion, a disgwylir adroddiad ynglŷn â hynny ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf.
Dirprwy Lywydd, yn y datganiad diwethaf o'r math hwn, siaradodd fy rhagflaenydd am ymarfer cwmpasu ein lluoedd arfog i ganfod bylchau yn y gwasanaethau a ddarperir ar gyfer cymuned y lluoedd arfog. Mae'r gwaith pwysig hwn yn symud yn ei flaen, a hoffwn fynegi fy niolch ar goedd i'r cyn-filwyr, y teuluoedd a'r sefydliadau sydd wedi ymwneud â'r gwaith hwn. Mae'r materion a godwyd yn cynnwys anghysondeb o ran cefnogaeth yn ystod y cyfnod pontio, yr angen am fwy o gymorth i deuluoedd, cymorth i'r rhai sydd yn y carchar a'r rhai sydd â phroblemau o ran camddefnyddio sylweddau, ac ansicrwydd ynghylch cael gafael ar gymorth a chyngor.
Erbyn hyn, rydym yn gweithio mewn partneriaeth ag aelodau o grŵp arbenigol y lluoedd arfog i fwrw ymlaen â chynlluniau i fynd i'r afael â'r materion a godwyd. Rydym yn parhau hefyd i weithio'n agos â nifer o adrannau Llywodraeth y DU ar gyflawni strategaeth y DU i gyn-filwyr. Mae ein canlyniadau cwmpasu wedi cyfrannu i'r gwaith hwnnw.
Rwy'n gwybod, er hynny, bod heriau a phryderon yn aros o hyd i aelodau o gymuned ein lluoedd arfog, ac rwyf i fy hun wedi clywed hynny'n uniongyrchol. Rydym yn gwrando, rydym yn gweithredu, ac rydym wedi ymrwymo i ateb yr heriau hyn. Drwy gydweithio'n dda, byddwn yn parhau i wneud gwahaniaeth cadarnhaol, gan sicrhau nad yw'r heriau'n cael eu hwynebu mewn unigrwydd nac yn ynysig. Mae cymuned ein lluoedd arfog yn haeddu ein cefnogaeth ni ac fe fyddan nhw'n cael hynny.
Ni fyddwn yn anghofio'r aberth—i rai, yr aberth mwyaf—a wnaeth personél y lluoedd arfog. Dirprwy Lywydd, pa ffordd fwy addas i gau'r datganiad hwn heddiw na gyda geiriau John Maxwell Edmonds:
'When you go home, tell them of us and say / For your tomorrow, we gave our today.'