Part of the debate – Senedd Cymru am 3:06 pm ar 12 Tachwedd 2019.
Diolch i chi am eich datganiad. Mewn gwirionedd bu degawd erbyn hyn ers i mi arwain dadl fer yn y fan hon yn galw ar Gymru i fabwysiadu cyfamod y lluoedd arfog, ac rydym ni i gyd wedi troedio llwybr hir yn ystod y degawd oddi ar hynny. Ond, wrth gwrs, fel mae'r Lleng Brydeinig Frenhinol yn ei ddweud, nid yw'r cofio ynddo'i hun yn gogoneddu rhyfel, ac mae'r symbol sydd iddo, y pabi coch, yn arwydd o goffadwriaeth a gobaith am ddyfodol heddychlon.
Ddydd Gwener diwethaf, cefais i'r fraint o fod yn bresennol a dweud gair yn seremoni arwyddo cyfamod y lluoedd arfog gan fusnesau o bob rhan o'r gogledd ym Mharc Antur Eryri. Ac yna ddydd Sul fe osodais i dorch, ynghyd â Lesley Griffiths, yn y gwasanaeth coffa yn Wrecsam, lle daeth miloedd ar filoedd o bobl leol ynghyd.
Rydych chi'n cyfeirio at saith deg a phump o flynyddoedd ers D-Day a'ch ewythr Tommy. Wel, fe wnaeth fy llysdad i, sef Mack, fel yr oeddem ni'n ei alw, sydd wedi ymadael â ni erbyn hyn ysywaeth, hedfan gleider ar D-Day ac nid oedd ef eisiau siarad am ei brofiadau byth ar ôl hynny. Ond rwy'n credu mai dyna wir sylwedd y profiad y gwnaeth llawer ei wynebu ar yr achlysur hwnnw.
Roeddech chi'n cyfeirio at hyfforddiant i ddarparwyr gwasanaethau rheng flaen i godi ymwybyddiaeth o'r cyfamod, sy'n amlwg yn hanfodol, ac at y llwybr cyflogaeth a phecyn cymorth i gyflogwyr. Unwaith eto, yn gynnar eleni, roeddwn i'n falch o gynnal lansiad y gwobrau cenedlaethol cyntaf i gyn-filwyr yng Nghymru, a oedd yn dathlu cyn-bersonél y lluoedd arfog a'r cyfraniad a wnaethant i fywyd sifil ar ôl ymadael â'r fyddin, gan fynd y tu hwnt i ddisgwyliadau yn eu meysydd perthnasol.
Gan symud ymlaen at bwyntiau penodol, mae SSAFA wedi dweud bod 74 y cant o gyn-filwyr yn cael problemau yn nhair blynedd gyntaf y pontio i fywyd sifil, sef 80 y cant yn y pum mlynedd gyntaf. Ac o'r 15,000 o ddynion a menywod sy'n gadael y lluoedd arfog bob blwyddyn, disgwylir y bydd bron naw o bob 10 yn pontio'n llwyddiannus, gan ddefnyddio'r sgiliau y maen nhw wedi eu dysgu yn ystod eu gwasanaeth milwrol, ond fe fydd yna leiafrif bychan yn wynebu problemau difrifol ar ôl iddyn nhw ymadael. Ac fe geir rhyw gymaint o dystiolaeth bod y nifer hwn yn cynyddu—boed yn broblemau iechyd meddwl neu les emosiynol, anawsterau o ran dod o hyd i waith neu gadw gwaith, anawsterau o ran perthynas neu dor perthynas, problemau iechyd corfforol neu rai eraill, ond y rhain oedd ymhlith y rhai mwyaf difrifol yr adroddwyd amdanynt.
Yng Nghymru, mae tua 48,338 o gyn-filwyr, fe gredwn, sydd o oedran gwaith yn byw yma, ond mae'r cyn-filwyr eu hunain yn llawer mwy tebygol o fod yn hŷn, gyda chanran sylweddol dros 75 oed, a bron i ddwy ran o dair dros 65 oed, gan roi mwy o bwysau ar wasanaethau cymorth i gyn-filwyr hŷn sydd ag anghenion cymhleth. Mae cyn-filwyr o oedran ymddeol yn fwy tebygol o nodi eu bod yn dioddef, er enghraifft, problemau gyda'r galon, pwysedd gwaed a/neu gylchrediad y gwaed. Felly, pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru, o ran ei darpariaeth iechyd, yn ei rhoi i anghenion cymhleth penodol cyn-filwyr—nid yn unig i roi'r hawl iddynt gael triniaeth â blaenoriaeth, ond i gydnabod yr angen efallai i ymgysylltu â nhw mewn ffordd ymarferol a chydymdeimladol pan fyddant yn defnyddio'r gwasanaethau?
Gwyddom fod Ffederasiwn Teuluoedd y Fyddin wedi mynegi pryderon am duedd rhai awdurdodau lleol i beidio â rhoi'r disgowntiau priodol ar gynllun gostyngiadau'r dreth gyngor i deuluoedd y lluoedd arfog. A allech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni felly am sut y mae Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu o ran y pryder hwn ac yn sicrhau ei bod yn darparu mynegbyst addas i helpu a chefnogi personél y lluoedd arfog sy'n gymwys i wneud cais ynglŷn â hynny?
Gwyddom fod yna gomisiynydd annibynnol ar gyfer cyn-filwyr yn yr Alban sy'n rhoi cyngor diduedd i Lywodraeth yr Alban ar sut i gefnogi cymuned y cyn-filwyr a'r rhai sydd wedi gadael y lluoedd arfog o ran darpariaeth awdurdodau cyhoeddus yn yr Alban a hyrwyddo cyn-filwyr fel asedau gwerthfawr yn eu cymunedau. Mae Llywodraeth yr Alban wedi sefydlu Gweinidog yn y Llywodraeth hefyd sydd â chyfrifoldeb penodol dros gyn-filwyr. Yn Llywodraeth y DU, mae'r Prif Weinidog wedi sefydlu swyddfa ar gyfer materion cyn-filwyr o fewn Swyddfa'r Cabinet ac wedi penodi Gweinidog ar gyfer pobl sy'n ymwneud ag amddiffyn y wlad a chyn-filwyr. Ond fe ganfu ymchwiliad y grŵp trawsbleidiol ar y lluoedd arfog a'r cadetiaid i gyfamod y lluoedd arfog fod
Diffyg atebolrwydd i sicrhau bod y sefydliadau hynny sydd wedi tanysgrifio i'r cyfamod mewn gwirionedd yn cyflawni eu rhwymedigaethau.
Yn absenoldeb y swyddogion a'r swyddogaethau penodol sy'n bodoli mewn rhannau eraill o'r DU, sut wnaiff Llywodraeth Cymru fynd i'r afael â'r pryder arbennig hwnnw?
Roeddech chi'n cyfeirio at addysg a'r cyfrifiad ysgolion blynyddol ar lefel disgyblion. Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi ymrwymo i newid y cyfrifiad ysgolion blynyddol ar lefel disgyblion i gynnwys cwestiwn ar blant y lluoedd arfog. A wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y llinell amser ar gyfer hynny?
O ran anghenion iechyd meddwl, gwyddom fod y Lleng Brydeinig Frenhinol wedi datgan bod un ym mhob 10 yng nghymuned y rhai sydd wedi gadael y lluoedd arfog wedi dweud eu bod nhw'n teimlo'n isel eu hysbryd—sy'n cynrychioli 31,000 o unigolion yng Nghymru. Mae hefyd achosion niferus o anhwylderau iechyd meddwl sy'n gyffredin yn lluoedd arfog y DU, a amcangyfrifwyd yn 20 y cant, ynghyd â chamddefnyddio alcohol yn 13 y cant ac anhwylder straen wedi trawma yn 6 y cant. Bydd y grant gan Help for Heroes ar gyfer GIG Cymru i Gyn-filwyr, sy'n rhoi cymorth i'r gymuned honno am dair blynedd, sef £517,000 i gyflogi tri o therapyddion llawn amser i gyn-filwyr, yn dod i ben fis Medi nesaf, sef 2020. Ac fe ddywedir wrthyf i y bydd angen cyllid ar y gwasanaeth, yn ychwanegol, o tua £160,000 bob blwyddyn i gadw'r swyddi hynny, os ydyn nhw am gadw amser aros am driniaeth o dan dargedau 26 wythnos Llywodraeth Cymru. Felly, pa ystyriaeth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei rhoi, yn sgil hynny, i ariannu'r gwasanaethau hyn i gyn-filwyr yn ei chyllideb arfaethedig? Rwy'n gwerthfawrogi na allwch ddweud wrthym faint yn union fydd y swm hwnnw, ond pa ystyriaeth fyddwch chi'n ei rhoi i hynny?