Part of the debate – Senedd Cymru am 3:20 pm ar 12 Tachwedd 2019.
Mae'n amlwg eich bod chi'n iawn yn yr hyn a ddywedwch wrth sôn am eich tad-cu, wyddoch chi, o ran ein bod ni'n coffáu aberth y rhai a gollwyd ond hefyd yn cofio dioddefaint y rhai a oroesodd, a dyna pam ei bod mor bwysig ein bod ni, fel cymuned, fel gwlad ac fel Llywodraeth yng Nghymru, ein bod ni'n cefnogi'r rhai sydd wedi rhoi gwasanaeth ac sy'n parhau i wneud hynny hefyd.
O ran yr heriau, mae'r gefnogaeth yno. Rydym yn falch o gefnogi GIG Cymru i Gyn-filwyr—gwasanaeth unigryw o'i fath yn y DU—ond, yn amlwg, fel y nododd ein hymarfer cwmpasu, mae yna fylchau ac, yn anffodus, mae rhai pobl, weithiau, yn cwympo trwyddynt, fel y dywedwch. Felly, mae'n fater bellach o sut yr ydym ni'n cau'r bylchau ac yn gweithio gyda'r sefydliadau partner hynny i sicrhau, mewn gwirionedd, os yw'r cymorth ar gael, fod pobl yn gwybod ble i fynd i gael y cymorth hwnnw, a bod y mynegbyst yn effeithiol ac yn y mannau cywir.
Fel y dywedais, rwyf wedi clywed, ar rai o'r ymweliadau y bum arnynt yn y swydd hon, yn enwedig â sefydliadau fel Woody's Lodge, gan y cyn-filwyr eu hunain, yn deimladwy iawn ar rai achlysuron, am yr heriau a wynebwyd ganddynt mewn gwirionedd ar ôl gadael y lluoedd arfog a theimlo eu bod nhw wedi cael eu siomi. Fe gefais i fy nghyffwrdd gan hyn, a'm sbarduno i sicrhau ein bod ni, yn y cam nesaf yng ngwaith Llywodraeth Cymru, yn gwneud yn siŵr ein bod yn cau'r bylchau hynny hyd eithaf ein gallu, a hefyd yn cefnogi'r sefydliadau elusennol hynny, fel y dywedwch, sy'n gwneud gwaith ardderchog. Ac, mewn gwirionedd, ni fyddai'n bosibl gwneud y gwaith hwn heb bartneriaeth a heb y bobl sydd â'r arbenigedd hwnnw. Oherwydd gwyddom, mewn sawl achos, fod llawer o'r sefydliadau hyn yn cael eu harwain gan gymheiriaid hefyd, sy'n gwneud gwahaniaeth enfawr i gyn-filwyr os ydynt yn gwybod bod modd mynd i siarad â rhywun sydd wedi rhannu'r un profiadau ac yn gallu deall ei gilydd. Felly, er nad wyf i'n gallu ymhelaethu ar ffigurau'r gyllideb, fel y byddai'r Aelod yn ei ddisgwyl heddiw, hoffwn i fynegi'r sicrwydd ar goedd bod y Llywodraeth hon wedi ymrwymo i barhau i adeiladu ar y gwaith o gefnogi cyn-filwyr a chymunedau'r lluoedd arfog yng Nghymru.