Part of the debate – Senedd Cymru am 3:29 pm ar 12 Tachwedd 2019.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae'n bleser gennyf ddweud bod cynllun morol cenedlaethol cyntaf Cymru wedi'i gyhoeddi a'i fabwysiadu, sy'n gosod gweledigaeth 20 mlynedd ar gyfer sicrhau fod dyfroedd Cymru yn lân, iach a chynhyrchiol. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i aelodau'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, y mae eu hargymhellion wedi helpu i fod yn sail i'r cynllun, a'r nifer fawr o randdeiliaid a phartneriaid â diddordeb sydd wedi rhoi o'u hamser a chyfrannu eu harbenigedd a'u syniadau.