Part of the debate – Senedd Cymru am 3:30 pm ar 12 Tachwedd 2019.
Cyhoeddi'r cynllun morol cenedlaethol hwn i Gymru yw ein cyfle i ddatblygu dull unigryw Cymreig o reoli ein moroedd, yn unol â'r nodau a'r ffyrdd o weithio a ymgorfforir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae'r cynllun yr ydym yn ei gyhoeddi heddiw yn dangos sut yr ydym ni, Llywodraeth Cymru, yn mynd ati'n rhagweithiol i ddiogelu gwerth aruthrol moroedd iach i amgylchedd, economi a chymdeithas Cymru. Os byddwn yn rheoli ein moroedd yn ddoeth, gallant chwarae rhan hanfodol wrth reoleiddio effeithiau newid yn yr hinsawdd, ac amddiffyn ein rhywogaethau mwyaf gwerthfawr. Mae gweithgarwch economaidd yn ein moroedd yn cyfrannu miliynau o bunnoedd a miloedd o swyddi, sydd o fudd i'n cymunedau arfordirol a'n heconomi yn gyffredinol. Mae ein harfordir eiconig yn hanfodol i'n treftadaeth ddiwylliannol a'n hunaniaeth.
Caiff y cynllun hwn ei gyhoeddi ar adeg pan fo ein moroedd a'n cymunedau arfordirol o dan bwysau aruthrol, ac mae angen gweithredu i gadw gwerth ein moroedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae'r cynllun yn gosod gofynion mwy cadarn ar ddatblygwyr ac awdurdodau cyhoeddus, gan roi sail gadarnach i Lywodraeth Cymru ar gyfer pennu a thrwyddedu gweithgareddau yn unol â'n gwerthoedd. Y bygythiad pennaf i'n moroedd yw'r newid yn yr hinsawdd a rhywogaethau sy'n diflannu. Mae'n hanfodol ein bod yn cymryd yr arwyddion o ddifrif, ac yn gweithredu cyn iddi fynd yn rhy hwyr. Mae effaith y newid yn yr hinsawdd eisoes ar ein gwarthaf, gyda chymunedau yng Nghymru'n profi effeithiau patrymau cynyddol o lifogydd, erydu arfordirol a stormydd eithafol. Mae'r cynllun yn cryfhau'r gofynion ar i bob datblygiad ddangos y gallant wrthsefyll y llifogydd a'r erydu arfordirol yr ydym ni'n eu disgwyl o ganlyniad i'r newid yn yr hinsawdd.
Mae'r cynllun yn nodi ein bwriad i ehangu'r rhwydwaith o ardaloedd morol gwarchodedig, a chryfhau'r amddiffyniadau sy'n berthnasol i ardaloedd dynodedig eraill. Mae gofynion cadarnach wedi'u cyflwyno, er mwyn galluogi gweithredu cadarn yn erbyn sbwriel morol a mathau eraill o lygredd sy'n deillio o weithgareddau yn ein moroedd. Mae mynd ati a chynllunio sut i reoli ein moroedd yn cynnig cyfleoedd ar gyfer datblygu economaidd cynaliadwy, gan alluogi creu swyddi mewn ffordd sy'n cyfrannu at ddiogelu'r amgylchedd morol. Mae ein cynllun, felly, yn nodi'r ffyrdd y bydd ein polisïau yn annog amrywiaeth eang o weithgareddau economaidd, o bysgota a dyframaeth i dwristiaeth a llongau. Yn ganolog i'n hagenda amgylcheddol a'n hagenda economaidd yw'r rhan y gall ein moroedd ei chwarae wrth gefnogi'r newid i system ynni carbon isel.
Eisoes mae gennym ni yng Nghymru rywfaint o'r seilwaith ynni morol mwyaf sylweddol o unrhyw wlad yn y byd, gan gynnwys datblygiadau gwynt ar y môr ar raddfa fawr, a pharthau arddangos ynni morol, lle mae busnesau ac academyddion o Gymru yn creu'r technolegau ar gyfer y dyfodol. Rwy'n gobeithio y gallwn ni yn y Cynulliad hwn gytuno i gyd bod yn rhaid i ddatblygu sector ynni morol bywiog fod yn un o'n nodau strategol hirdymor pwysicaf i economi Cymru.
Mae'r cynllun hefyd yn cynnwys cyfeiriadau at bolisïau Llywodraeth y DU lle mae materion wedi'u neilltuo i Lywodraeth y DU. Yn anochel, ceir meysydd lle mae gwrthgyferbyniad rhwng polisi Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Mae un maes o'r fath yn ymwneud ag echdynnu olew a nwy. Nod polisi Llywodraeth Cymru yw osgoi rhagor o gloddio a defnyddio tanwyddau ffosil ym mhob ardal yr ydym yn gyfrifol amdani. Gwrthwynebwn yn llwyr unrhyw echdynnu tanwydd ffosil yn y moroedd sy'n amgylchynu Cymru. Yn y cynllun, rydym ni wedi mynd ymhellach na hyn i ddweud, lle mae elfennau tir i unrhyw echdynnu tanwydd ffosil ar y môr—hynny yw, unrhyw elfennau a fyddai'n dod o dan gyfrifoldeb Llywodraeth Cymru—byddwn yn gweithredu ein polisi i osgoi cloddio parhaus ar ffosilau tanwydd, gan ddefnyddio'r holl bwerau sydd ar gael i ni.
Yn ein cynllun, rydym ni hefyd wedi cynnwys manylion polisi Llywodraeth y DU, i'r graddau y mae'n berthnasol i'r moroedd sy'n amgylchynu Cymru. Eu polisi yw manteisio i'r eithaf ar echdynnu tanwydd ffosil yn yr ardaloedd arfordirol sy'n amgylchynu Cymru. Ni allai'r gwrthgyferbyniad rhwng polisi Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU fod yn fwy amlwg. Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, hoffwn gofnodi barn Llywodraeth Cymru bod unrhyw bolisi i annog parhau i echdynnu tanwyddau ffosil yn bolisi y byddem yn ei wrthod yn bendant.
Gan ein bod bellach wedi cyhoeddi a mabwysiadu Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru, bydd ein hymdrechion yn canolbwyntio ar weithredu. Mae grŵp penderfynwyr cynllunio morol wedi'i ffurfio ac mae canllawiau atodol manwl wrthi'n cael eu cwblhau ar y cyd â rhanddeiliaid. Erbyn hyn, rydym ni wedi rhyddhau fersiwn wedi'i diweddaru o borth cynllunio morol Cymru, gan ddarparu mapiau tystiolaeth rhyngweithiol ar-lein sydd ar gael yn rhwydd.
Wrth i'r sylfaen dystiolaeth ddatblygu byddwn yn mireinio'r cynllun yn barhaus a sut mae'n berthnasol i weithgareddau penodol a rhanbarthau penodol o Gymru. Mae cyhoeddi cynllun morol cenedlaethol cyntaf Cymru yn rhan bwysig o'n hymateb i'r argyfwng hinsawdd ac ecolegol wrth iddo effeithio ar ein moroedd. Mae hefyd yn dangos ein hymrwymiad i gymunedau arfordirol a'n cefnogaeth i'r diwydiannau a fydd, yn ein barn ni, yn sail i ffyniant Cymru yn y dyfodol.
Mae'r cynllun hwn yn nodi ein gweledigaeth ar gyfer Cymru lewyrchus a chydnerth lle mae ein moroedd yn gyforiog o fywyd gwyllt, yn cynnal sector ynni adnewyddadwy bywiog, ac yn cyfoethogi bywydau pobl Cymru mewn cymaint o ffyrdd eraill.