6. Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:45 pm ar 12 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 3:45, 12 Tachwedd 2019

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad y prynhawn yma? Yn amlwg, bydd eisiau ychydig amser i bori drwy'r ddogfen nid ansylweddol hon cyn dod i gasgliad terfynol ynglŷn â beth yw fy marn i amdani. Ond, yn sicr, mae yna ambell bwynt yn codi dwi angen holi ynglŷn ag ef.

Dwi'n falch eich bod chi'n cydnabod yr effaith rŷn ni eisoes yn ei gweld i'r argyfwng hinsawdd, a'r effaith y mae hynny'n ei chael ar ein cymunedau ni. Rŷch chi'n cyfeirio at lifogydd ac erydu'r arfordir, er enghraifft, ac rŷn ni'n ymwybodol bod yna gymunedau ar draws Cymru sydd yn wynebu'r her real honno heddiw. Dwi eisiau holi, felly, beth yw bwriad y Llywodraeth o ran mynd ati i greu cyfundrefn neu i greu proses benodol ac—yn rhagweithiol, efallai—proses statudol, er mwyn sicrhau bod yr holl rhanddeiliaid sydd yn mynd i orfod bod yn rhan o'r broses yna, efallai, o adleoli cymunedau, hyd yn oed, sy'n wynebu'r bygythiad mwyaf yn gallu dod at ei gilydd.

Gallwn ni sôn am yr hyn sydd angen ei wneud i geisio gwarchod y cymunedau hynny, ond, ar ddiwedd y dydd, bydd yna rai cymunedau a fydd yn gorfod adleoli, ac mae pobl yn edrych i'r Llywodraeth, dwi'n meddwl, i roi arweiniad. Efallai ein bod ni'n sôn am un neu ddau o fewn y degawdau nesaf, ond ar ôl hynny mi fydd yna ragor. Felly, mae angen rhyw fath o broses a rhyw fath o drefniadaeth glir ar gyfer mynd ati i gynnal y drafodaeth honno ac wedyn i weithredu pan fydd angen gwneud hynny. Felly, byddwn i'n awyddus i glywed eich sylwadau chi ar hynny.

Mae'r ffaith fy mod i'n gofyn y cwestiwn yma efallai yn fy arwain i at fy nghwestiwn nesaf, sef, wrth gwrs: mae gennym ni fframwaith datblygu cenedlaethol, ac mae gennym ni gynllunio morol yma, ac maen nhw'n gorgyffwrdd, onid ydyn nhw? Hynny yw, mae'r mater dwi wedi sôn amdano fe nawr—gallai fod yn un neu'r llall, neu'r ddau, fel y dylai fod, efallai. Ynni adnewyddadwy hefyd: mae'n gynwysedig yn y ddwy ddogfen. Pam felly ddim cael cynllun datblygu ar gyfer y tir a'r môr mewn un cynllun sydd wedi'i gydlynu ac sydd wedi'i gydblethu yn benodol? Pam penderfynu cael dwy ddogfen wahanol?

Wrth ehangu rhwydwaith yr ardaloedd gwarchodedig morol, yr MPAs, sut y byddwch chi'n sicrhau bod yr holl leisiau yn cael eu clywed ac yn cael eu gwrando arnyn nhw, wrth gwrs, yn y drafodaeth honno? Rŷn ni gyd yn cofio ymdrechion y Cynulliad diwethaf i ehangu niferoedd y parthau cadwraeth morol—y marine conservation zones—a dwi'n meddwl efallai mai'r diffyg i ddatblygu'r cynigion yna ar y cyd ag ystod digon eang o fudd-ddeiliaid a arweiniodd at yr ymateb adweithiol, efallai, a'r gwrthdaro a ddaeth yn sgil hynny. Mae'n bwysig bod pawb yn dod ar y siwrnai. Felly, lle fydd y lleisiau yna'n cael eu clywed, a sut y byddwch chi'n sicrhau bod pawb yn cael bod yn rhan o'r drafodaeth honno?

Dwi eisiau ymhelaethu ar ynni morol, wrth gwrs. Dwi'n cytuno â chi bod hwn yn sicr yn un o nodau tymor hir strategol pwysicaf Cymru. Byddwn i'n dadlau, er mwyn gwireddu hynny i'w lawn botensial, fod angen rhagor o ddatganoli—er enghraifft, cyfrifoldebau Ystâd y Goron, fel sydd ganddyn nhw yn yr Alban. Byddwn i'n gofyn a ydych yn cytuno, er enghraifft, y byddai datblygu pwerau Ystâd y Goron i fan hyn yn gymorth inni i wireddu'r potensial yma, gan ei fod, fel rŷch chi'n ei ddweud, yn un o'n nodau tymor hir strategol pwysicaf ni.

Dwi'n falch o weld y cyfeiriad at echdynnu tanwydd ffosil o'n moroedd. Dwi wedi codi hyn gyda chi yn flaenorol, wrth gwrs. Mae Plaid Cymru yn gwrthwynebu hynny, a dwi'n falch iawn o weld datganiad yn gwneud eich safbwynt chi yn glir ar hynny. Yr her nawr, wrth gwrs, yw sicrhau bod y cynllun yma'n cael ei weithredu, a'i fod yn cael ei ddefnyddio gan y rheoleiddwyr, gan ddatblygwyr, gan ddefnyddwyr y môr, ac nad yw'n casglu llwch ar y silff, wrth gwrs. Y cwestiwn allweddol yn hynny o beth, wedyn, yw: a fydd y cynllun yma yn derbyn yr adnoddau a'r buddsoddiad sy'n angenrheidiol? Oherwydd mae yna deimlad, dwi'n credu, fod y polisi morol wedi bod, i gyfieithu idiom Saesneg, yn berthynas dlawd am lawer yn rhy hir, ac felly, yn sgil y cynllun yma, fod yr amser wedi dod i fuddsoddi i'r lefelau angenrheidiol i sicrhau bod newid yn digwydd.