Part of the debate – Senedd Cymru am 4:40 pm ar 12 Tachwedd 2019.
Credaf fod Rhun ap Iorwerth yn gwneud nifer o bwyntiau pwysig iawn heddiw ac yn codi cwestiynau holl bwysig am y model cyflwyno wrth symud ymlaen, ond a gaf i ddiolch iddo, yn gyntaf, am fod mor garedig â chydnabod proffesiynoldeb y staff sy'n darparu gwasanaethau Busnes Cymru? Rwy'n cydnabod y cyfraniad enfawr a wnânt, yn aml mewn amgylchiadau anodd iawn, ac mae capasiti a gallu yn gwbl hanfodol—mae'n un o'r ddwy agwedd sy'n sail i'r model cyflenwi newydd, a bydd yr un mor bwysig i Busnes Cymru ei hun.
Nawr, rwy'n credu'n gryf y bydd gweithio'n agosach gyda'n timau rhanbarthol ledled Cymru yn helpu i wella capasiti a gallu yn sector y gwasanaethau cymorth i fusnesau, ond felly hefyd gweithio'n agosach gyda banciau'r stryd fawr a'r banc datblygu ac, fel soniais wrth Russell George, Gyrfa Cymru. Mae'n bwysig bod pawb yn cydweithio a chyd-dynnu er mwyn sicrhau bod gan ein holl fuddsoddiadau, ein holl wasanaethau cymorth, bwyslais manwl, ac, ni waeth pa fath o wasanaeth yr ydych chi'n gofyn amdano, pa fath o gymorth y mae arnoch chi ei angen, bod y system ei hun yn glir, nad oes unrhyw gymhlethdodau, nad oes angen i chi ymbalfalu o gwmpas—mae gennych chi un adnodd cynhwysfawr i droi ato, ac mae'r holl gapasiti a'r gallu sydd ei angen ar gael yn yr amrywiaeth eang o sefydliadau sy'n ffurfio'r system honno.
O ran twf cynaliadwy, dylwn ddweud, Dirprwy Lywydd, fod gan Busnes Cymdeithasol Cymru a Chanolfan Cydweithredol Cymru ran bwysig hefyd o ran ysgogi twf economaidd cynaliadwy yng Nghymru, a bydd eu cyd-swyddogaethau yn eithriadol o bwysig yn y dyfodol, gan eu bod yn helpu i sbarduno twf yn nifer y busnesau sy'n eiddo i gymunedau.
Ac o ran gwreiddio busnesau yng Nghymru, ni ddylem ni anghofio swyddogaeth hanfodol bwysig y banc datblygu, yn enwedig wrth gefnogi cwmnïau canolig eu maint. Efallai nad yw'r Aelodau'n ymwybodol o hyd a lled y gwaith sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd gan Busnes Cymru a Banc Datblygu Cymru, ond byddwn yn fodlon ysgrifennu at yr Aelodau, oherwydd ers lansio Dirnad Economi Cymru yn 2018, mae Busnes Cymru a Banc Datblygu Cymru wedi bod yn gweithio gyda'i gilydd i edrych ar y canol coll yng Nghymru a sut y gallwn ni ateb y pwyntiau hynny a wnaeth Rhun ap Iorwerth yn ei gyfraniad.
Eisoes, mae Dirnad Economi Cymru a Banc Datblygu Cymru wedi cynnal rhywfaint o ymchwil feintiol i ddadansoddi cwmnïau canolig eu maint yng Nghymru. Roedd y canfyddiadau cychwynnol ar gael yn ôl ym mis Medi, a chaiff yr adroddiad terfynol ei gyhoeddi'n fuan. Ond bydd cyfnod arall i'w gwaith, a'r cyfnod arall hwnnw fydd yr ymchwil ansoddol a wneir gan Fusnes Cymru i ganfod y math o gymorth sydd ei angen, a byddaf yn cyflwyno hynny i'r Aelodau yng ngwanwyn 2020.
Tynnodd Rhun ap Iorwerth sylw hefyd at y ffigurau eithaf syfrdanol o ran nifer y microfusnesau a busnesau bach yng Nghymru. Ond, yn yr un modd, mae cwmnïau canolig eu maint yn chwarae rhan hanfodol bwysig yng nghyfraniad cyffredinol refeniw i Gymru a hefyd o ran ffigurau cyflogaeth. Ac eisoes, mae Banc Datblygu Cymru yn cefnogi busnesau canolig eu maint yn benodol sy'n dymuno aros yng Nghymru gydag arian olyniaeth rheoli, sy'n hanfodol bwysig wrth helpu i atal gwerthu busnesau a allai gael eu difreinio yn y pen draw neu eu hadleoli y tu allan i Gymru. Mae cronfa olyniaeth rheoli £25 miliwn eisoes ar gael yng Nghymru, ac mae'r rhaglen hynod o uchelgeisiol hon o gadw a gwreiddio mwy o fusnesau yng Nghymru yn un o elfennau ein gwaith o ran darganfod sut y gallwn ni gefnogi a thyfu'r canol coll sydd yng Nghymru ar hyn o bryd.