Part of the debate – Senedd Cymru am 4:35 pm ar 12 Tachwedd 2019.
Dwi wedi gweithio am sbel efo Busnes Cymru ac wedi cyfeirio nifer o fusnesau at Fusnes Cymru—yn sicr, mae yna staff sydd yn ymroddedig iawn, ond y pryderon sydd gen i yn aml iawn, ac mi fydd y Gweinidog yn ymwybodol o hyn, gan fy mod i wedi llythyru efo fo ar y mater ar nifer o achlysuron, ydy bod yna dangyllido yn aml, dim digon o adnoddau wedi cael eu rhoi iddyn nhw, ac mae yna bwysau gormodol yn cael ei roi ar rhy ychydig o staff, a'r canlyniad ydy eu bod nhw'n methu delifro weithiau. Mi fyddwn ni, wrth chwilio am fodel newydd, yn chwilio am flaenoriaethu o'r newydd, mewn ffordd, er mwyn gwneud yn siŵr bod yr amcanion sydd gan y staff yn gweithio ar y llawr yn gallu cael eu gwireddu.
Dwi yn sicr yn cyd-fynd â phryderon y Gweinidog pan mae'n dod at impact ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Rydyn ni'n gwybod cymaint o gyllid Ewropeaidd sydd wedi cael ei roi dros y blynyddoedd at fentrau yn gysylltiedig â datblygu busnesau, ac rydyn ni'n gwybod ein bod ni ar y pwynt yma mewn amser, o fewn ychydig fisoedd, o bosib, i fod yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, yn dal heb y math o sicrwydd, ar hyd yn oed lefel sylfaenol, ynglŷn â'r cyllid a fyddai'n dod yn y dyfodol i allu parhau â'r gwaith yma, sydd eto yn mynd i gynyddu'r pwysau ar yr adnoddau prin sydd gan y corff Busnes Cymru yn barod.
O ran y dyfodol yr ardal allweddol gyntaf a gafodd ei hamlinellu gan y Gweinidog, dwi'n cyd-fynd, yn sicr, fod yn rhaid inni ddatblygu ymhellach yr elfen one-stop shop yma. Mae'r ail elfen yn ymwneud â beth sydd angen ei wneud, dwi'n meddwl, sef gwreiddio mwy o fewn cymunedau ar draws Cymru. Mae yna newid wedi bod mewn fframweithiau gan Fusnes Cymru dros y blynyddoedd sydd wedi symud Busnes Cymru ymhellach oddi wrth fusnesau, yn sicr yn fy etholaeth i. Mae'n rhaid inni fod yn fwy sensitif i'r angen i gael gweithwyr Busnes Cymru ar y ddaear o fewn ein cymunedau ni, ymhob rhan o Gymru, er mwyn i bob un busnes, ble bynnag maen nhw, yn teimlo bod ganddyn nhw wirioneddol gyswllt â ffynonellau o gymorth.
O ran y drydedd ardal o waith y soniodd y Gweinidog amdano fo—twf cynaliadwy—mi fyddwn i'n croesawu rhagor o wybodaeth gan y Gweinidog ynglŷn â'r uchelgeisiau sydd ganddo fo i fuddsoddi mewn mentrau cymunedol hefyd, sy'n gallu troi i mewn i fusnesau sydd yn gyflogwyr pwysig o fewn ein cymunedau ni, ac yn wirioneddol wedi'u gwreiddio o fewn y cymunedau hynny. Mi wnes i ymweld ag Ynni Ogwen yn ddiweddar ym Methesda, sy'n gwneud gwaith rhagorol yn amgylcheddol o ran y ffordd mae'n cynhyrchu ynni, ond hefyd o ran y gwaith mae o'n ei wneud fel hub ar gyfer datblygu economaidd yn yr ardal honno. Felly, mi fyddwn i'n croesawu rhagor o wybodaeth am hynny.
Hefyd, a fyddai modd cael rhagor o wybodaeth ynglŷn â'r camau sydd angen eu gwneud er mwyn gwreiddio busnesau Cymreig yng Nghymru ar gyfer y dyfodol? Y broblem, fel rydyn ni'n gwybod yn aml, ydy pan mae busnes yn cyrraedd rhyw faint, mae yna demtasiwn yng Nghymru i werthu'r busnes hwnnw gan golli'r rheolaeth sydd gennym ni ar y busnesau hynny. Mi welsom ni hynny'n digwydd yn achos Marco Cable Management yn fy etholaeth i yn ddiweddar—yn union hynny: cwmni oedd wedi cael cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, ond mi fethwyd â chael gafael ar y busnes hwnnw drwy sicrhau'r cymorth a fyddai wedi gallu ei wreiddio fo yn Ynys Môn. A beth sy'n digwydd rŵan—mae o wedi mynd, mae o'n symud i ganolbarth Lloegr, ac mae hynny'n rhywbeth dwi'n gresynu'n fawr ynglŷn â fo, a dwi'n teimlo bod yna'n dal ddiffyg ffocws ar y gwaith yna o gadw busnesau Cymreig yn gynhenid Gymreig, oherwydd dyna sut mae cadw eu helw nhw yng Nghymru heddiw, ond eu presenoldeb nhw a'u hymrwymiad nhw i Gymru ar gyfer y dyfodol.