7. Datganiad gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Y Model Cyflenwi Arfaethedig ar gyfer y Dyfodol ar gyfer Gwasanaeth Busnes Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:34 pm ar 12 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 4:34, 12 Tachwedd 2019

Diolch am y datganiad ac am y copi ohono ymlaen llaw. Dwi'n sicr yn cytuno—sut allwn i ddim—ar bwysigrwydd busnesau micro, bach a chanolig i economi Cymru. Mae'r ffigurau, fel rydych chi wedi'u cyflwyno nhw heddiw, yn eithaf syfrdanol mewn difri, onid ydyn nhw: 259,000 o fusnesau, a 257,600 ohonyn nhw yn fusnesau micro, bach a chanolig. Felly, tanddatganiad ydy dweud eu bod nhw'n asgwrn cefn i'n heconomi ni.