Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 13 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 1:40, 13 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy'n derbyn hynny, oherwydd dyna'r pwynt a wneuthum yn fy sylwadau agoriadol—eich bod yn gyfrifol am bolisi yma yng Nghymru, ond mae polisi amgylcheddol yn cael ei gydlynu ar draws y DU hefyd, er mwyn sicrhau'r budd cyffredinol hwnnw. Tybiaf o'ch ateb—ac os gallwch egluro, oherwydd credaf ei fod yn bwysig iawn, oherwydd ceir llawer o sylwadau sy'n dweud y byddai'n ddinistriol newid i sero net erbyn 2030—. Mae undeb y GMB, er enghraifft, yn dweud y byddai'n gwbl ddinistriol i gymunedau ar hyd a lled y Deyrnas Unedig, ac yma yng Nghymru. Ond cymeraf fod eich polisi'n aros yr un fath—2050 ydyw ac ni allwch weld llwybr credadwy i newid i sero net erbyn 2030 yn rhinwedd eich swydd fel Gweinidog a gyda'r dystiolaeth sydd ger eich bron ar hyn o bryd.