Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 13 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:39, 13 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Cymerodd y Llywodraeth hon gyngor gan ein corff ymgynghorol, sef Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd. Dywedodd y pwyllgor hwnnw wrthym mai'r targed y dylem geisio ei gyrraedd yma yng Nghymru, gan mai i Lywodraeth Cymru y gofynnwch y cwestiwn yn awr, yw 95 y cant. Rwyf wedi gofyn i'r pwyllgor edrych i weld a allwn fynd ymhellach i sero net erbyn 2050. Hwy yw'r bobl sy'n ein cynghori a dyna'r cyngor rwy'n ei gymryd. Mae'r hyn y mae Llywodraeth Lafur y DU yn ei gyflwyno yn seiliedig ar y dystiolaeth y maent hwy wedi'i chasglu, yn amlwg, ar gyfer y DU—. Mae hyn wedi'i ddatganoli i Gymru, cofiwch, ond rydym yn rhan o'r DU mewn perthynas â'n targedau newid hinsawdd. Byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn gweld y dystiolaeth honno ac yna gallem ei hystyried ymhellach.