Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 13 Tachwedd 2019.
Wel, ni fuaswn eisiau i chi feddwl nad oeddwn yn bryderus. Eglurais yn glir iawn, ar y dechrau, ei bod yn hanfodol bod y fframwaith datblygu cenedlaethol drafft, ac yna'r cynllun ei hun, yn cefnogi ein targedau ar gyfer datgarboneiddio, ac mae'n bwysig iawn, pan fydd yr ymgynghoriad wedi dod i ben—a chofiwch ei fod yn dal i fod yn destun ymgynghoriad—mai dyna'n union y bydd yn ei wneud. Felly, bydd y sgyrsiau hynny'n parhau, ar lefel swyddogol ac ar lefel weinidogol yn sicr. Mae potensial enfawr ar gyfer ynni adnewyddadwy yng Nghymru, ac rydych wedi cyfeirio at wynt ar y tir yn arbennig. Felly, rwy'n ymwybodol iawn fod y polisi wedi achosi llawer o ddiddordeb yn y cyfryngau. Nid wyf yn credu y byddai'n briodol gwneud unrhyw sylwadau pellach ar fanylion tra bod yr ymgynghoriad yn mynd rhagddo.