Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 13 Tachwedd 2019.
Wel, rwyf ychydig yn bryderus nad ydych chi'n pryderu ac yn amlwg, mae angen rhoi sylw i hyn, oherwydd bydd yn cael effaith enfawr ar eich gallu i gyflawni'r hyn rwy'n tybio yw eich dyheadau o ran datgarboneiddio a chynhyrchiant ynni neu ynni adnewyddadwy. Nawr, roedd gan yr ardaloedd chwilio strategol yn TAN 8 darged, wrth gwrs, ar gyfer y cynhyrchiant ynni arfaethedig. Nid oes unrhyw arwydd o ba lefelau o ynni y disgwylir i'ch ardaloedd blaenoriaeth ynni yn y fframwaith datblygu cenedlaethol eu darparu. Felly, a yw hynny'n rhywbeth rydych yn bwriadu ei ddarparu? Ac os na, sut y gwyddom i ba raddau y bydd yr ardaloedd penodol hyn yn cyfrannu at ein hanghenion ynni? Yn wir, faint o alw am ynni a ragdybiwyd gennych ar gyfer cyfnod y fframwaith datblygu cenedlaethol hwn hyd at 2040, er mwyn sicrhau ei fod yn hwyluso'r broses o gyflenwi digon o ynni adnewyddadwy i gyrraedd ein targedau datgarboneiddio dros yr 20 mlynedd nesaf?