Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 13 Tachwedd 2019.
Weinidog, yn 2017 rhagwelwyd y byddai'r dirywiad yn y gwaith o blannu pren meddal yng Nghymru yn arwain at ostyngiad o 50 y cant yn nifer y coed meddal sydd ar gael erbyn 2045. Mae'r diffyg yng nghynhyrchiant coetiroedd conwydd yng Nghymru ers troad y ganrif yn peri cryn bryder ac mae wedi effeithio ar gyflenwad pren. Pa gamau sy'n cael eu cymryd i gynyddu nifer y coed y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn eu plannu ac i ailgyflenwi stociau coed a gafodd eu cwympo mewn ymateb i glefyd y llarwydd marwol?