Polisi Coedwigaeth

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 13 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:48, 13 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch. Cyfarfûm â chadeirydd a swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru ddoe, lle mae plannu coed—wel, mae bob amser yn eitem sefydlog ar yr agenda. Ac yn sicr, rydym wedi rhoi arian i Cyfoeth Naturiol Cymru er mwyn iddynt allu cynyddu nifer y coed sy'n cael eu plannu. Rydym wedi gweld gwaith plannu coed penodol mewn perthynas â rhai clefydau—fe fyddwch yn ymwybodol o P. ramorum, er enghraifft, sydd wedi golygu bod rhaid clirio ardaloedd mawr o goed llarwydd, fel y dywedoch chi, yn enwedig yng Nghymoedd de Cymru. Felly, mae Cyfoeth Naturiol Cymru, pan fyddant yn ailblannu coed yn lle coed a dorrir, yn manteisio ar y cyfle i wneud yn siŵr bod y coed a'r coetiroedd sy'n cael eu hailblannu yn cael eu hailstrwythuro â choed amlrywogaeth i'w helpu i allu gwrthsefyll y clefyd hwnnw'n llawer gwell.