Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 13 Tachwedd 2019.
Yn amlwg, mae'r ymgynghoriad yn dal yn agored tan ddydd Iau, rwy'n credu. Ac mae'n bwysig iawn fod y fframwaith datblygu cenedlaethol drafft, a'r cynllun ei hun wedi hynny, yn cefnogi targedau Llywodraeth Cymru ar gyfer datgarboneiddio a chynhyrchiant ynni adnewyddadwy, felly mae'n bwysig iawn ein bod yn cael hynny'n iawn. Rwy'n ymwybodol fod y dystiolaeth a ddefnyddiwyd wedi'i chomisiynu gan Arup, ond yn sicr, fel y gallwch weld, mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn ei sedd ac wedi clywed hynny, a byddwn yn parhau i gael trafodaethau ar hyn ar ôl i'r ymgynghoriad ddod i ben, ac yn benodol, mae rhai wedi cysylltu â mi ynglŷn â rhai o'r pwyntiau rydych newydd eu codi.