Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 13 Tachwedd 2019.
Weinidog, diolch am hynny, ond yn ôl arolygon barn diweddar, mae 56 y cant o oedolion ar draws y DU gyfan yn cefnogi polisi bargen newydd werdd y Blaid Lafur, sy'n gosod nod i ddatgarboneiddio'n llwyr erbyn 2030. Mae Llywodraeth Cymru wedi arwain y ffordd drwy ddatgan argyfwng hinsawdd. Beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i helpu'r Llywodraeth Lafur nesaf i gyflawni'r amcan hwn?