Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 13 Tachwedd 2019.
Nid wyf yn siŵr a oeddech yn y Siambr pan atebais gwestiynau Andrew R.T. Davies, ond byddwch wedi fy nghlywed yn dweud ein bod wedi symud at darged o 95 y cant ar gyngor Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd. Fodd bynnag, rwyf wedi gofyn iddynt weld a allwn ni yma yng Nghymru newid i darged sero net.
Byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn gweithio gyda Llywodraeth Lafur nesaf y DU ar ôl 12 Rhagfyr i weld pa gyngor y gallant ei roi i ni hefyd, a beth y gallwn ei wneud gyda'n gilydd. Bydd Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd yn cynghori'r Llywodraeth newydd, ac yn sicr, yn amlwg, fel DU, mae gennym ein targedau newid hinsawdd. Rhaid i Gymru chwarae ei rhan. Rwy'n frwd iawn. Efallai mai gwlad fach yn unig ydym, ond mae gennym uchelgais gwirioneddol fawr mewn perthynas â lliniaru newid yn yr hinsawdd.