1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru ar 13 Tachwedd 2019.
6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y camau a gymerwyd o ganlyniad i ddatganiad Llywodraeth Cymru am argyfwng yn yr hinsawdd? OAQ54652
Diolch. Rydym wedi derbyn argymhelliad y Pwyllgor ar y Newid yn yr Hinsawdd i gynyddu ein targed 2050 i 95 y cant. Rydym wedi gwneud cyfres o fuddsoddiadau newydd ar draws y Llywodraeth ac wedi trefnu cynhadledd gyntaf Cymru ar newid hinsawdd gyda 300 o arweinwyr carbon isel i weld sut y gall pob rhan o gymdeithas ymateb i'r her ar y cyd.
Weinidog, diolch am hynny, ond yn ôl arolygon barn diweddar, mae 56 y cant o oedolion ar draws y DU gyfan yn cefnogi polisi bargen newydd werdd y Blaid Lafur, sy'n gosod nod i ddatgarboneiddio'n llwyr erbyn 2030. Mae Llywodraeth Cymru wedi arwain y ffordd drwy ddatgan argyfwng hinsawdd. Beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i helpu'r Llywodraeth Lafur nesaf i gyflawni'r amcan hwn?
Nid wyf yn siŵr a oeddech yn y Siambr pan atebais gwestiynau Andrew R.T. Davies, ond byddwch wedi fy nghlywed yn dweud ein bod wedi symud at darged o 95 y cant ar gyngor Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd. Fodd bynnag, rwyf wedi gofyn iddynt weld a allwn ni yma yng Nghymru newid i darged sero net.
Byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn gweithio gyda Llywodraeth Lafur nesaf y DU ar ôl 12 Rhagfyr i weld pa gyngor y gallant ei roi i ni hefyd, a beth y gallwn ei wneud gyda'n gilydd. Bydd Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd yn cynghori'r Llywodraeth newydd, ac yn sicr, yn amlwg, fel DU, mae gennym ein targedau newid hinsawdd. Rhaid i Gymru chwarae ei rhan. Rwy'n frwd iawn. Efallai mai gwlad fach yn unig ydym, ond mae gennym uchelgais gwirioneddol fawr mewn perthynas â lliniaru newid yn yr hinsawdd.
Rwy'n siŵr y byddwch yn mwynhau gweithio gyda'r Llywodraeth Geidwadol nesaf yn San Steffan hefyd. [Torri ar draws.] Touché Turtle. Diolch ichi am eich ateb, a chredaf ein bod i gyd yn croesawu'r datganiad o argyfwng hinsawdd. Ond mae'n fy nharo—. Rwy'n croesawu'r targed o 95 y cant a osodwyd gennych hefyd, ond mae'n fy nharo mai'r unig ffordd o gyflawni'r nod yw drwy sicrhau ei fod yn cael ei brif ffrydio ar draws yr holl adrannau, nid yn unig gennych chi a'ch swyddogion, ond ar draws y cyrff cyhoeddus, gyda newid ymddygiad go iawn ar ddiwedd y newidiadau polisi hynny. Ac rwy'n credu bod pwyntiau gwefru trydan, er enghraifft, yn un enghraifft o faes lle—. Mae Cymru angen llawer mwy o bwyntiau gwefru trydan nag a oedd gennym yn y gorffennol. Ond y llynedd, er mawr siom i bobl leol, gwrthodwyd cais am ganolbwynt gwefru newydd ym Mynwy, yn fy etholaeth, oherwydd ei fod yn torri rheolau nodyn cyngor technegol 15. Tybed a allech weld a yw polisïau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys y nodiadau cyngor technegol a'r polisïau cynllunio, yn cael eu hailystyried er mwyn iddynt fod yn fwy hyblyg pan wneir penderfyniadau a fydd yn gweithredu er budd yr amgylchedd. Nid wyf yn dweud y dylid eu hanwybyddu; mewn llawer o achosion, maent yno am reswm. Ond os ydym i gyd yn ceisio gwneud yn siŵr bod y datganiad o argyfwng newid hinsawdd yn gweithio mewn gwirionedd, a'n bod yn datrys y problemau hirdymor sydd gennym mewn perthynas â'r amgylchedd a'r hinsawdd, yna rwy'n credu bod angen i ni sicrhau bod y polisïau hyn yn fwy hyblyg.
Rwy'n credu eich bod yn nodi pwynt pwysig iawn am bolisïau sy'n gwrthdaro ac am sicrhau nad yw ein polisïau’n gwrthdaro, yn enwedig o ran ein targedau datgarboneiddio a'n targedau newid hinsawdd. Yn amlwg, mae hyn yn drawslywodraethol. Efallai bod lliniaru newid hinsawdd yn rhan o fy mhortffolio i, ond mae pob Aelod o'r Cabinet a Llywodraeth Cymru yn gwbl ymwybodol o'u cyfrifoldebau hefyd, a dyna pam fod gennym yr is-bwyllgor ar ddatgarboneiddio, y mae llawer o fy nghyd-Weinidogion yn aelodau ohono. Mae'r Prif Weinidog yn rhoi hwnnw ar sail barhaol.
Ac unwaith eto, ar ôl i ni ddatgan yr argyfwng hinsawdd ar ddechrau'r flwyddyn, ar draws y Llywodraeth, gallwn ddangos sut rydym wedi ailddyrannu cyllid, er enghraifft, lle rydym wedi gwneud buddsoddiadau—felly, mae fy nghyd-Aelodau Ken Skates a Lee Waters wedi dyrannu £30 miliwn i deithio llesol; mae Vaughan Gething, fel Gweinidog iechyd, wedi gwario arian sylweddol ar yr ambiwlansys newydd sydd â phaneli solar arnynt—fel y gallwn fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd hwnnw. Ac unwaith eto, ar draws y Llywodraeth i gyd, byddwch yn gweld amryw o argymhellion yn cael eu cyflwyno i sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar gyflawni 'Cymru Carbon Isel', sef ein cynllun a lansiwyd gan y Prif Weinidog yn ôl ym mis Mawrth.