Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 13 Tachwedd 2019.
Mae gan ein saith lladd-dy mwyaf, sy'n prosesu'r rhan fwyaf o anifeiliaid, gamerâu cylch cyfyng eisoes. Rwyf wedi ymrwymo i weithio gyda gweithredwyr lladd-dai, mewn perthynas gefnogol, i sicrhau bod teledu cylch cyfyng ar gael ym mhob lladd-dy yng Nghymru. Nid wyf wedi diystyru'r syniad o gyflwyno deddfwriaeth i wneud teledu cylch cyfyng yn orfodol.