Teledu Cylch Cyfyng Gorfodol ar Gyfer Lladd-dai

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 13 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour 2:11, 13 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch am ateb calonogol iawn, Weinidog. Ers i Animal Aid ryddhau eu ffilm ysgytwol o greulondeb yn lladd-dy Farmers Fresh ym mis Medi, mae ymchwiliad arall gan Animal Equality, a ryddhawyd yr wythnos ddiwethaf, wedi dangos tystiolaeth yr un mor echrydus o greulondeb erchyll yn erbyn anifeiliaid yn yr un lladd-dy. Mae camerâu cudd wedi dangos anifeiliaid yn cael eu taflu, eu tynnu gerfydd eu coesau neu eu gyddfau, eu pen-glinio neu eu cicio, yn ogystal ag anifeiliaid heb gael eu stynio'n briodol. Nid yw hyn yn dderbyniol. Felly, gan ei bod yn amlwg nad yw'r defnydd gwirfoddol o deledu cylch cyfyng yn gweithio, onid yw'n bryd newid i system deledu cylch cyfyng gorfodol a gaiff ei fonitro'n annibynnol ar sail lles?