Polisi Ynni Llywodraeth Cymru

1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru ar 13 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru

10. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisi ynni Llywodraeth Cymru? OAQ54685

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:15, 13 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch. Mae ynni yn sail i ffyniant ac mae'n rhan allweddol o gyflawni ein nodau hinsawdd. Rydym yn lleihau allyriadau o ynni mewn ffordd sy'n ymateb i'r argyfwng hinsawdd ac sydd hefyd yn gwella llesiant yng Nghymru. Mae hyn yn golygu newid wedi'i reoli i system ynni carbon isel, wedi'i chefnogi gan fuddsoddiad ac arloesedd.

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rwy'n croesawu polisi Llywodraeth Cymru ar ffracio; rwy'n credu bod hwnnw'n ddatblygiad da. A ydych yn gwybod faint o'n nwy naturiol, sy'n cael ei fewnforio drwy sir Benfro, sy'n dod o ffynonellau ffracio?

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour

(Cyfieithwyd)

Nid oes gennyf y data hwnnw wrth law, ond buaswn yn hapus iawn i ysgrifennu at yr Aelod.FootnoteLink

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Photo of David Melding David Melding Conservative 2:15, 13 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Weinidog, mae'r broses o gyflwyno mesuryddion deallus—rhaglen y DU, wrth gwrs—ond rhywbeth y gall Llywodraeth Cymru ei helpu i raddau helaeth, wedi arafu'n ddiweddar. Nid bai Llywodraeth Cymru yw hyn, ond mae'n bwysig ein bod yn mynd yn ôl ar y trywydd cywir, oherwydd, yn enwedig i'r rheini sydd mewn tlodi tanwydd, pan fyddwn wedi newid yn llwyr i dariffau sy'n seiliedig ar y mesuryddion hyn a gwahanol gyfraddau drwy gydol y dydd, gallai'n sicr fod yn ffordd allan o dlodi tanwydd i lawer iawn o bobl.

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:16, 13 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy'n cytuno'n llwyr, ac rwy'n credu fy mod ar fin cyfarfod, yn sicr cyn diwedd y tymor hwn, rwyf ar fin cyfarfod â'r rhaglen mesuryddion deallus i weld beth yn rhagor y gallwn ei wneud fel Llywodraeth i'w hannog. Fel y dywedwch, mae'n fater a gadwyd yn ôl, ond rwy'n awyddus iawn i wneud popeth yn fy ngallu i'w cefnogi.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Weinidog.