Grŵp 1: Enw Cynulliad Cenedlaethol Cymru a dynodi ei Aelodau (Gwelliannau 162, 127, 2, 128, 44, 147, 148, 149A, 149B, 149C, 149D, 149, 45, 150, 46, 151, 47, 152, 153A, 153B, 153C, 153, 48, 154A, 154B, 154C, 154, 49, 50, 51, 52, 155, 156, 53, 54, 81A, 81B, 81, 16, 129, 69A, 20, 55, 157, 56, 158, 57, 159, 21, 130, 22, 23, 131, 24, 26, 132, 59, 60, 58, 73A, 27, 133, 28, 134, 29, 135, 30, 136, 32, 137, 33, 138, 34, 139, 35, 140, 36, 141, 37, 142, 38, 143, 39, 144, 41, 145, 42, 146, 164A, 164B, 64, 161)

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:05 pm ar 13 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 4:05, 13 Tachwedd 2019

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Mae Bil o'r math sydd gennym ni o'n blaenau yn y fan hyn yn mynnu cydweithio, mae o'n mynnu cyfaddawd, mae o'n golygu sylweddoli beth ydy'n rôl ni fel Senedd. Bil ydy o sy'n ymwneud nid â pholisi, nid â rhaglen Llywodraeth, nid â heddiw, hyd yn oed, ond yn hytrach y gwaith o adeiladu cenedl a'r sefydliadau sydd eu hangen ar y genedl honno ar gyfer cenedlaethau i ddod. 

Enw ein Senedd ni sydd dan sylw yn y gwelliant cyntaf yma, ac unwaith eto, wrth gynnig y gwelliant, dwi'n apelio'n daer ar Lywodraeth Cymru yn arbennig i ailystyried eu safbwynt nhw, ac i ailystyried beth ddylai eu rôl nhw fod yn y cyd-destun yma. Mae'r ddadl ei hun, dwi'n meddwl, yn ddigon clir erbyn hyn.