Part of the debate – Senedd Cymru am 4:06 pm ar 13 Tachwedd 2019.
Mae'n ddadl sydd wedi'i hailadrodd yn fynych bellach. Mae ein Cynulliad wedi tyfu i fod yn Senedd lawn dros yr 20 mlynedd diwethaf. Mae'r Bil hwn yn fodd o adlewyrchu hynny, gan gyfeirio at y lle hwn mewn deddfwriaeth fel Senedd am y tro cyntaf. Mae hefyd yn ymwneud â phwy all bleidleisio, pwy all sefyll etholiad, mecanweithiau ymgysylltiad y cyhoedd â democratiaeth, a'r broses ddemocrataidd yng Nghymru. Ond mae gennym gyfle ar yr un pryd i roi enw, teitl, i'n Senedd. Wrth i ni ymgynnull yma yn y Senedd—oherwydd dyna enw’r adeilad eisoes—i drafod y Bil Senedd ac etholiadau, mae bedyddio ein Senedd yn ‘Senedd’ yn y ddwy iaith yn fy nharo fel rhywbeth hynod o synhwyrol i’w wneud. Senedd Cymru yw 'Parliament' Cymru.
Rydym yn canu ein hanthem genedlaethol yn Gymraeg nid er mwyn eithrio neb, ond i gynnwys pawb, i ddathlu ein cenedl Gymreig mewn ffordd nad oes unrhyw un arall yn dathlu eu cenedl hwythau. Mae gan bob gwlad anthem, dim ond un sydd â Hen Wlad fy Nhadau. Mae gan bob gwlad senedd, dim ond un all gael 'Senedd'. Nid ydym erioed wedi meddwl, 'Gadewch i ni wneud hyn fel mater pleidiol.' Rwy'n gobeithio y gall yr Aelodau weld bod hynny’n wir yn y ffordd y gwneuthum innau a fy nghyd-Aelodau estyn allan, gan geisio gweithio ar draws rhaniadau plaid ar hyn. Ond rydym hefyd wedi bod yn eithaf argyhoeddedig mai dyna oedd Cymru ei eisiau. Comisiynodd fy mhlaid arolwg barn dros yr ychydig ddyddiau diwethaf—dros 1,000 o bobl, arolwg barn mawr—a gofynnwyd i’r ymatebwyr:
Bydd Aelodau'r Cynulliad yn penderfynu yr wythnos nesaf ar enw newydd ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Pa un o'r canlynol fyddai'n well gennych i'r Cynulliad gael ei alw, 'Senedd' fel yr enw swyddogol yn Gymraeg a Saesneg, neu 'Welsh Parliament' fel yr enw swyddogol yn Saesneg a 'Senedd' fel yr enw swyddogol yn Gymraeg?
Edrychwch ar yr ymatebion. Ac eithrio'r rhai nad oeddent yn gwybod—dim ond 20 y cant, gyda llaw; mae'n ymddangos bod hyn yn rhywbeth sydd wedi taro tant gyda phobl—roedd 56 y cant eisiau ‘Senedd’ a dim ond 35 y cant oedd eisiau'r fersiwn ddwyieithog. Felly, er eich bod chi wedi cael llond bol arnaf yn rhygnu ymlaen am hyn mwy na thebyg, beth am wrando ar bobl Cymru? A gyda llaw, er nad yw hwn yn fater pleidiol, dywedodd cyfran fwy hyd yn oed o gefnogwyr Llafur eu bod yn cefnogi ‘Senedd’, rhag ofn bod hynny'n helpu i argyhoeddi fy nghyd-Aelodau ar feinciau'r Llywodraeth. Mae'n uwch eto ymysg Democratiaid Rhyddfrydol, gyda llaw.
Nawr, rwy'n derbyn, yn y Llywodraeth, fod yna egwyddor o gydgyfrifoldeb. Anaml y byddwch yn caniatáu pleidleisiau rhydd, ond nid oes a wnelo hyn â pholisi Llafur na’r Democratiaid Rhyddfrydol yn y Llywodraeth. Nid yw’n ymwneud â'r Llywodraeth hon. Nid ymwneud â ni y mae. Ymddiriedir ynom, fel ACau, i benderfynu beth fydd enw'r sefydliad hwn am genedlaethau, a hoffwn amser, gyda llaw, i ofyn i Aelodau ein Senedd Ieuenctid beth yw eu barn hwy. Ac o ystyried yr arolwg barn rwyf newydd ei grybwyll, mae gennyf syniad eithaf da beth y byddent yn ei ddweud. Ond Brif Weinidog, fe ddywedoch chi wrthyf ddoe, pan godais hyn gyda chi, ac rwy'n dyfynnu:
'Mae'n fater y mae gan lawer o Aelodau'r Cynulliad farn gref arno, ac nid yw'n fater i'r Llywodraeth. Bil Cynulliad yw hwn, nid Bil Llywodraeth, a bydd gwahanol Aelodau Cynulliad â barn wahanol ar yr ateb iawn i'r cwestiwn hwn.'
Ond, a chyfeiriaf hyn atoch chi i gyd fel Gweinidogion, wrth ddweud ar y naill law nad mater i'r Llywodraeth yw hwn a bod gan wahanol Aelodau farn wahanol, ar y llaw arall, rydych chi wedi gwrthod fy ngalwadau i ac eraill i ganiatáu pleidlais rydd ymhlith eich Gweinidogion ar y pwynt penodol hwn o egwyddor.
Ceir tri bloc pleidleisio yn y Cynulliad hwn yn sefyll yn ffordd rhoi'r enw y mae pobl Cymru ei eisiau i’r sefydliad, mae'n ymddangos: un yw Plaid Brexit, un arall yw'r Blaid Geidwadol, a'r llall yw Llywodraeth Lafur Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol. Gennych chi y mae’r bleidlais fwrw. Ac er dweud bod hwn yn fater i'r Cynulliad, canlyniad eich gweithredoedd yw rhwystro pleidlais wirioneddol agored. Ydy, mae'n bleidlais rydd i aelodau meinciau cefn Llafur, ac mae wedi bod yn dda cael y ddadl agored a gefais gyda'r ACau Llafur hynny. Rwy'n ddiolchgar i'r rhai sydd wedi cefnogi'r gwelliant, ar adeg ei gyflwyno ac yn y pleidleisiau yng Nghyfnod 2 a 3 y trafodaethau ar y Bil.
Nid oes gennyf unrhyw ddewis yn awr, fel chwip fy mhlaid, ond caniatáu pleidlais rydd ar y Bil cyfan yng Nghyfnod 4, oni bai bod y gwelliannau hyn yn cael eu pasio heddiw, oherwydd i rai, mae'r cyfle i roi ei deitl Cymraeg unigryw ei hun i'n Senedd o'r pwys mwyaf. Nid yw'r cyfleoedd hyn, sy'n symbolaidd ond yn bwysig, yn dod yn aml iawn—unwaith mewn cenhedlaeth, efallai. Oes, mae yna bethau pwysicach o lawer i ni eu trafod—iechyd, addysg, tlodi a swyddi da—ond ni yw'r rhai sydd â'r fraint o ymdrin â materion fel hyn, ac anaml iawn y gwnawn hynny, ond mae heddiw yn un o’r dyddiau hynny.
Mae a wnelo pasio'r math hwn o Fil ag adeiladu consensws a chyfaddawd, ac yn sicr bûm yn barod i gyfaddawdu gyda'r Llywodraeth, fel y gwelir yn y modd y cynigiais yr enw 'Senedd Cymru', yn hytrach na 'Senedd' yn unig, ar ôl cytuno ar ffurf geiriau y gallai'r Llywodraeth gytuno ei fod yn briodol. Cafwyd awgrymiadau gan y Llywodraeth yn wreiddiol, ar gamau cynharach eraill, fod cael enw Cymraeg yn unig yn broblemus rywsut mewn termau cyfreithiol, ond ar ôl i’r Llywodraeth ddynodi bod y gwelliant hwn yn briodol, gwyddom nad yw hynny'n wir, a gwyddom drwy sawl barn gyfreithiol arall hefyd fod hyn i gyd yn bendant yn bosibl yn gyfreithiol. Felly, yr hyn sydd gennym yw Llywodraeth sy'n defnyddio pleidlais fwrw gyfunol ar fater o farn gyfunol i wrthwynebu'r enw Cymraeg yn unig tra'i bod hefyd o'r farn nad mater i'r Llywodraeth yw hwn. Nid yw'n gwneud synnwyr. Ac o ystyried fy mod yn gwybod am Weinidogion unigol sydd wedi bod yn awyddus i gefnogi'r enw Cymraeg yn unig, mae'n fwy rhwystredig fyth.
Rwy’n dal i obeithio y gall y Llywodraeth, yn gyfunol, ailfeddwl heddiw. Gobeithio y gall Aelodau eraill sydd â phleidleisiau rhydd ailfeddwl heddiw a chefnogi’r penderfyniad hwn. Ac mae'r apêl honno'n mynd i Aelodau o bob plaid, ym mhob rhan o'r Senedd hon. Ond rwy’n dweud wrth Lywodraeth Cymru: byddwch yn ddewr, byddwch yn Llywodraeth Cymru, nid dim ond unrhyw Lywodraeth. Fel y gall pawb ohonom ddweud mai'r ‘Senedd’ yw Senedd Cymru.