Grŵp 2: Estyn yr hawl i bersonau 16 a 17 oed bleidleisio, a threfniadau cofrestru etholiadol cysylltiedig (Gwelliannau 102, 3, 4, 103, 104, 105, 106, 107, 108, 109, 110, 111, 112, 113, 114, 115, 116, 117, 118, 119, 86, 120, 121, 122, 123, 124, 43, 125, 126, 101, 100)

– Senedd Cymru am 4:47 pm ar 13 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:47, 13 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Symudwn ymlaen yn awr at grŵp 2. Mae'r grŵp hwn o welliannau yn ymwneud ag estyn yr hawl i bersonau 16 a 17 oed bleidleisio, a threfniadau cofrestru etholiadol cysylltiedig. Y gwelliant arweiniol yn y grŵp hwn yw gwelliant 102, a galwaf ar Darren Millar i gynnig a siarad am y gwelliant arweiniol a gwelliannau eraill yn y grŵp. Darren.

Cynigiwyd gwelliant 102 (Darren Millar).

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 4:48, 13 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig gwelliant 102 a gyflwynwyd yn fy enw i, ac rwyf am siarad am y gwelliannau eraill a gyflwynais hefyd. Os caf ddweud hefyd, byddaf yn cefnogi gwelliannau David Melding yn y grŵp hwn, ac mae pob un ohonynt yn gosod dyletswydd ar ysgolion uwchradd i hyrwyddo ymwybyddiaeth o etholiadau ymhlith pobl ifanc 16 a 17 oed. Ni waeth a yw fy ngwelliannau yn llwyddo, rwy'n dal i feddwl bod hynny'n beth synhwyrol iawn i'w wneud. Mae'r gwelliant a gyflwynwyd yn enw'r Llywydd, yn ôl yr hyn a ddeallaf, yn welliant technegol braidd, felly byddaf yn cefnogi'r gwelliant penodol hwnnw hefyd.

Felly, mae'r gwelliannau a gyflwynwyd yn y grŵp hwn yn fy enw i yn dileu adran 10 o'r Bil, sy'n estyn yr etholfraint i unigolion 16 ac 17 oed yma yng Nghymru. Ac mae'r gwelliannau eraill, yn ogystal â gwelliant 102, yn ganlyniadol i'r gwelliant penodol hwnnw i bob pwrpas.

Yr hawl i bleidleisio yw un o'r breintiau pwysicaf a geir mewn unrhyw ddemocratiaeth, ac yma yng Nghymru mae'r bleidlais wedi rhoi pŵer go iawn i ddynion a menywod, gan roi'r gallu iddynt ddymchwel llywodraethau, cael gwared ar wleidyddion amhoblogaidd, sefydlu seneddau newydd, a phenderfynu ein tynged o ran ein haelodaeth o'r UE. Mae ein democratiaeth yn gweithio, ac mae'r cylch rheolaidd o etholiadau yn sicrhau, y rhan fwyaf o'r amser, fod yn rhaid i'r rhai sy'n eu cynrychioli wrando ar farn pleidleiswyr. Ac wrth gwrs, os nad ydym yn gwrando arnynt fel cynrychiolwyr etholedig, mae tynged cynrychiolwyr etholedig yn gallu wynebu canlyniadau sylweddol o ganlyniad i hynny.

Mae nifer y pleidleiswyr, fel canran o'r holl bleidleiswyr, yn debygol o ostwng os bydd mwy o bobl ifanc wedi'u cofrestru i bleidleisio. Pam y dywedaf hynny? Wel, oherwydd ein bod yn gwybod mai'r rhai sy'n gymwys i bleidleisio rhwng 18 a 25 oed yw'r grŵp oedran lleiaf tebygol o fynd ati i fwrw eu pleidlais mewn etholiad. Ac nid wyf wedi—[Torri ar draws.] Yn sicr.

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 4:50, 13 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu y gallai'r ganran fod yn llai, ond bydd y nifer absoliwt sy'n pleidleisio yn codi.

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative

(Cyfieithwyd)

Mae'n bosibl iawn y bydd y nifer sy'n cymryd rhan yn codi, ond o ran canran gyffredinol y pleidleiswyr sydd â hawl i bleidleisio, buaswn yn disgwyl y byddai estyn yr etholfraint i unigolion 16 ac 17 oed yn arwain at lai yn pleidleisio yn gyffredinol, a chredaf fod hynny'n rhywbeth sy'n ddrwg i ddemocratiaeth mewn gwirionedd. Ac mae'n rhaid i mi ddweud, nid wyf wedi gweld unrhyw dystiolaeth fod pobl ifanc 16 a 17 oed yn crochlefain arnaf, fel y gwleidydd etholedig yn fy etholaeth, i newid y gyfraith er mwyn rhoi'r hawl iddynt gael cyfle i bleidleisio.

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar iawn i Darren Millar am ildio. Wrth gwrs, mae gennym arbrawf byw go iawn lle roedd pleidleiswyr 16 ac 17 oed yn cael pleidleisio yn refferendwm yr Alban. Os edrychwch ar y ffigurau a bleidleisiodd yn y grŵp oedran hwnnw, rwy'n credu y gwelwch eu bod yn sylweddol uwch na'r ffigurau ar gyfer y rhai rhwng 18 ac 21 oed a bleidleisiodd. Felly, nid wyf yn meddwl y gallwn allosod fel rydych chi'n ei awgrymu.

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 4:51, 13 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Nid wyf yn credu y gallwch allosod yn yr un modd ar gyfer refferendwm, sy'n gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i bleidleisio, ag ar gyfer etholiadau rheolaidd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Un peth y credaf fod angen inni ganolbwyntio arno, wrth gwrs, yw cynyddu'r nifer o bobl sy'n cofrestru ar gyfer pleidleisio, a hyrwyddo cyfleoedd i bobl ifanc rhwng 18 a 25 oed gymryd rhan mewn etholiadau pan roddir cyfle iddynt wneud hynny.

Mae'n glir iawn—[Torri ar draws.] Fe dderbyniaf ymyriad ymhen ychydig funudau. Mae'n amlwg iawn, er bod gan rai pobl ifanc ddiddordeb mawr mewn gwleidyddiaeth a bod ganddynt farn glir ynglŷn â phwy ddylai ffurfio Llywodraeth Cymru, y realiti yw nad yw llawer o rai 16 ac 17 oed yn teimlo'n ddigon hyderus i wneud penderfyniadau ynglŷn â phwy sy'n rhedeg eu gwlad. Maent yn dal i fod yn aeddfedu mewn llawer o achosion, ac yn aml iawn nid ydynt yn teimlo eu bod wedi dysgu digon drwy eu haddysg a'u profiadau bywyd i wneud penderfyniadau cwbl wybodus.

Nid oes gennyf amheuaeth fod rhai pobl yn berffaith barod ac yn teimlo'n ddigon aeddfed i wneud y penderfyniadau hynny, ond y realiti yw fod yna lawer o bobl nad ydynt yn teimlo felly. Dyna pam ein bod ni, fel gwleidyddion yn y Siambr hon, a gwleidyddion mewn mannau eraill, wedi deddfu i wneud penderfyniadau drostynt. Er enghraifft, mae gennym ddeddfau ar waith i ddiogelu pobl ifanc dan 18 oed rhag niwed alcohol, tybaco a hyd yn oed y defnydd o welyau haul. Pam y gwnawn hynny? Oherwydd ein bod yn barnu nad ydynt yn ddigon cyfrifol i wneud y penderfyniadau hynny drostynt eu hunain.  

Un farn a rannaf â'r cynigwyr, y rhai sy'n ceisio gostwng yr oedran pleidleisio, yw fod arnom angen oedran cyfrifoldeb cyffredin yn y wlad hon. Oherwydd yn fy marn i mae'n anodd iawn cyfiawnhau'r ffaith, wrth gwrs, fod gennym wahanol oedrannau cyfrifoldeb ar gyfer gwahanol bethau yn ein gwlad. Rydym yn gwybod, er enghraifft, fod yr oedran y gall pobl ddewis partner rhywiol neu briodi gyda chaniatâd eu rhieni, neu ymuno â'r fyddin gyda chaniatâd eu rhieni, yn wahanol iawn i oedran hawl pobl i bleidleisio. Rwy'n digwydd bod yn rhywun sy'n credu bod arnom angen oedran cyfrifoldeb cyson, oes, ond rwy'n credu y dylid ei godi i 18 ym mhob achos, ac nid ei ostwng i 16 oed mewn gwirionedd. Fe dderbyniaf yr ymyriad.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 4:53, 13 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. Clywais yn gynharach eich bod yn dweud nad oedd pobl ifanc 16 a 17 oed yn crochlefain am gael pleidleisio. Wel, mae fy mhrofiad i, mae'n rhaid i mi ddweud, yn wahanol i'ch un chi. Oherwydd rwy'n gweld bod y rhai sy'n ymweld â'r Senedd ac sydd o dan 18 oed yn llawn diddordeb ac yn gofyn cwestiynau perthnasol iawn ac yn aml yn meddu ar fwy o wybodaeth na chymheiriaid sy'n llawer hŷn. Gallaf rannu eich pryder ynghylch y lleihad yn y nifer yn yr etholfraint sy'n cymryd rhan mewn etholiadau, ac rwy'n cytuno bod hynny'n wirioneddol ddifrifol, ond credaf y bydd gostwng yr oedran i 16 yn cynyddu'r niferoedd sy'n cymryd rhan, gan fod pobl ifanc 16 oed yn dal i fod mewn addysg orfodol ac felly bydd cyfle enfawr i egluro i bawb yn union beth sydd yn y fantol yma a pham y dylent gymryd rhan yn yr etholiadau pwysig hyn.

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 4:54, 13 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Rydych yn llygad eich lle, mae llawer o bobl ifanc yn ymwneud yn helaeth â gwleidyddiaeth, a'r rhai sy'n dod yma i ymweld â'r sefydliad hwn yw'r rhai sy'n debygol o fod â thueddiad i ymgysylltu mwy na'r rhai nad ydynt yn ymweld â'r lle hwn. Ac wrth gwrs, nid yw'r mwyafrif llethol o bobl ifanc yng Nghymru erioed wedi ymweld ag unrhyw Senedd yn y Deyrnas Unedig, heb sôn am Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Felly, nid wyf yn credu bod eich dadl yn dal dŵr mewn gwirionedd.

Rwy'n gwybod bod yna rai sy'n gwbl aeddfed, yn gwbl wybodus, ond nid yw'r mwyafrif ohonynt, a dyna pam rwy'n credu bod yr elfen hon o addysg yn gyntaf yn gwbl hanfodol i arfogi pobl i'w paratoi i fod yn ddinasyddion cyfrifol sy'n cymryd rhan yn y cyfleoedd democrataidd sydd ganddynt pan ddaw etholiadau, yn hytrach na pheidio â chymryd rhan. A'r realiti yw, fel y dywedoch chi'n gwbl gywir—oherwydd eich bod wedi ymgysylltu â phobl ifanc, ac mae pawb ohonom yn ymgysylltu â phobl ifanc yn y Siambr hon—yw fod gan y bobl ifanc hynny gyfle i ddylanwadu ar eu gwleidyddion p'un a oes ganddynt bleidlais ai peidio. Ymunodd llawer ohonom yn y Siambr hon â'r pleidiau gwleidyddol rydym yn eu cynrychioli cyn inni gael yr hawl i bleidleisio.

Gallaf weld llawer o ymyriadau yno. Cymeraf un yn gyntaf gan eich cyd-Aelod.

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 4:55, 13 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch. Er fy mod wedi gwrando'n ofalus ar yr hyn rydych wedi'i ddweud, rwyf wedi clywed y mantra hwn yn rhywle arall o'r blaen. Ac yn union yr un mantra a ddefnyddiwyd yn erbyn rhoi’r bleidlais i fenywod, sef: ‘Nid ydynt wedi cael addysg’—wel, ni ellid eu haddysgu am na chaent eu caniatáu i gael addysg—ac nid oeddent yn gallu ffurfio’u barn eu hunain, am eu bod yn anaeddfed eu meddwl. Ac mae mor debyg, gallech fod wedi’i gymryd o’r datganiadau a wnaed yr adeg honno. Felly, mae'n ddrwg gennyf orfod dweud wrthych ein bod wedi clywed hyn i gyd o'r blaen, yn enwedig y menywod yma sydd wedi cymryd rhan mewn trafodaethau gwleidyddol, ac ni allaf ei dderbyn ar ran pobl ifanc 16 a 17 oed chwaith.

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 4:56, 13 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Wel, nid oeddwn o gwmpas pan oedd y dadleuon hynny'n digwydd. Rwy'n derbyn bod llawer o ddadleuon anghywir wedi'u defnyddio, ac rwy'n falch iawn fod y Ceidwadwyr wedi arwain y frwydr i ymestyn yr etholfraint i gynnwys pleidleisiau i fenywod. [Torri ar draws.]

Ond rwyf am ddweud hyn, a gwnaf y pwynt eto: mae cyfleoedd i bobl ifanc sydd o dan yr oedran pleidleisio, hyd yn oed yn awr, i ddylanwadu ar ganlyniadau etholiadau drwy gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth leol, ar faterion ymgyrchu, yn yr un ffordd ag y mae pobl ifanc yn ei wneud, fel sy'n digwydd ar hyn o bryd, ac ymuno â phleidiau gwleidyddol a pherswadio pobl drwy eu dadleuon i bleidleisio mewn modd penodol. Roeddwn yn 15 oed pan ymunais â'r Blaid Geidwadol, a hoffwn feddwl fy mod wedi dylanwadu ar ganlyniadau etholiadau yn fy ardal fy hun.

Ac yn fy marn i, os ydych chi'n dadlau ynglŷn â rhoi pleidlais i bobl ifanc yn 16 oed, fe allech wneud dadleuon tebyg iawn i'w ostwng i 14 oherwydd mae yna rai pobl yr oedran hwnnw sy'n hen ddigon aeddfed i allu pleidleisio.

Fe gymeraf yr ymyriad.

Photo of Hefin David Hefin David Labour 4:57, 13 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Yn wahanol i'r gred boblogaidd fod yna dderbyniad da bob amser ar stepen y drws, yn aml iawn rydym yn curo ar ddrws ac mae rhywun yn dweud, 'Nid oes gennyf ddiddordeb. Nid wyf yn poeni am wleidyddiaeth.' A ydych chi'n meddwl y dylid eu hamddifadu hwy o'r bleidlais hefyd?

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative

(Cyfieithwyd)

Wel, maent yn dewis arfer eu hawl i beidio â phleidleisio. Rydym yn gweld llawer o hynny yn ein hetholaethau, onid ydym? Ond y gwir amdani yw nad wyf yn gweld pobl yn crochlefain wrth fy nrws nac yn wir, wrth eich drws chi, rwy’n tybio, yn gofyn am y cyfle i bleidleisio pan fyddant yn 16 a 17 oed.

Fe dderbyniaf yr ymyriad—.

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 4:58, 13 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Maent yn crochlefain wrth fy nrws i gael pleidleisio drosof fi, gallaf ddweud wrthych. [Chwerthin.] Yr hyn rydych chi'n ei wneud yw'r broblem. Mater i chi yw hynny. [Chwerthin.]

Rydych chi'n un o'r chwyldroadwyr mawr, Darren, a'r mater sylfaenol yma, yn 16 oed, yw fod pobl yn talu treth. Ac fe fyddwch yn cofio'r gri chwyldroadol Americanaidd, 'Dim trethi heb gynrychiolaeth.' Rydych chi'n chwyldroadwr, rydych chi'n derbyn yr egwyddor honno.

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative

(Cyfieithwyd)

Mae pobl o dan 16 oed yn talu treth os ydynt yn ennill digon o incwm. Dyna'r realiti yn ein cymdeithas. Felly, a ydym yn dadlau y dylai plentyn blwydd oed sy'n digwydd bod ag incwm sy'n fwy na'r trothwy treth gael y bleidlais? Mae'n ddadl hurt, a bod yn onest.

Y pwynt rwy'n ei wneud yw ein bod yn anghyson fel gwleidyddion os ydym yn deddfu i atal pobl ifanc rhag gallu defnyddio gwelyau haul, yfed alcohol a llu o bethau eraill, ac ymddengys nad oes neb yn y Siambr hon yn cynnig y dylem ostwng yr oedran ar gyfer y pethau hynny i 16, felly credaf ein bod wedi gwneud penderfyniadau synhwyrol er mwyn eu diogelu am nad ydynt yn ddigon aeddfed. Ac rwy'n credu mai dyna'r peth iawn i’w wneud er mwyn cael y cysondeb oedran hwn yn 18 oed. Dyna fy marn bersonol i, a dyna pam rwy'n cynnig y gwelliannau hyn heddiw.

Photo of David Melding David Melding Conservative 4:59, 13 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Cyn imi siarad am y gwelliannau rwyf am eu cynnig, credaf y dylai pobl ifanc 16 oed gael y bleidlais, ond rhaid imi ddweud—[Torri ar draws.] O na, dylech fod wedi aros. Fe ddylech fod wedi aros, oherwydd mae yna golyn yng nghynffon hon, oherwydd rwy'n credu bod yr oedran y mae pobl yn cael hawliau gwleidyddol cyffredinol yn egwyddor bwysig iawn i'w gosod, a gellid ei gosod yn eithaf rhesymol ar 18 oed.

Photo of David Melding David Melding Conservative 5:00, 13 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu bod manteision mawr i'w osod ar 16 oed, ond roeddwn yn gweld y cysylltiad â’r bleidlais i fenywod yn un bregus a di-fudd, oherwydd rydym yn siarad am egwyddor wirioneddol bwysig yma, a chredaf y byddai pobl ifanc 16 i 18 oed yn caniatáu inni ganolbwyntio ar lawer o faterion addysgol, llawer o faterion gofal—plant sy'n derbyn gofal, er enghraifft—a nifer o rannau o'r ddadl wleidyddol—cenedlaethau’r dyfodol, er enghraifft—a'r ffordd y caiff seilwaith ei ddatblygu, a chredaf fod hynny'n eithriadol o bwysig. Rwy'n credu bod y dadleuon dros roi hawl i bobl ifanc 16 a 17 oed bleidleisio yn ddigon cryf heb fychanu Aelodau eraill sy'n cyflwyno’u safbwyntiau'n gydlynus, hyd yn oed os nad wyf yn cytuno â hwy. Yn sicr, mae pobl dan 16 oed yn talu treth; mae treth ar werth yn rhan sylweddol iawn o'n refeniw treth, ac mae'n rhaid ei thalu ar y pryniannau y codir treth ar werth arnynt beth bynnag yw eich oedran.

Mae gennyf dri gwelliant yn y grŵp hwn, Ddirprwy Lywydd, sef gwelliannau 3, 4 a 43. Byddai gwelliant 3, ac o ganlyniad, gwelliant 43, yn mewnosod ar wyneb y Bil ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi canllawiau statudol i bob ysgol uwchradd, gan gynnwys colegau, ar sut i addysgu a rhoi gwybodaeth am y newidiadau i'r oedran pleidleisio. Soniwyd yn helaeth am hyn yng Nghyfnodau 1 a 2, ond rwy'n dal yn anfodlon ag ymateb Llywodraeth Cymru, sef, yn y bôn, 'Bydd y math hwn o beth yn digwydd beth bynnag oherwydd eu bod mor dda am wneud addysg wleidyddol'. Ni allwn roi unrhyw ddadl yn well nag y gwnaeth fy nghyd-Aelod Andrew R.T. Davies yng Nghyfnod 2—sef, os ydych yn cefnogi'r newidiadau i'r etholfraint, dylech hefyd bleidleisio dros y gwelliant hwn a sicrhau y bydd y cwricwlwm yn addysgu ac yn paratoi ein dinasyddion ifanc i arfer eu hawl ddemocrataidd a gâi ei sefydlu wedyn. Ni fyddai’n iach i’n democratiaeth pe bai’r newid sylweddol hwn yn cael ei weithredu heb gefnogaeth addysgol o’r fath, oherwydd bydd y grŵp oedran hwn bron iawn yn gyfan mewn lleoliad addysgol.

Os caf ddyfynnu Jess Blair, a ddywedodd yng Nghyfnod 1,

Ar hyn o bryd, rwy'n credu bod addysg wleidyddol yn gymharol wael ac fel poblogaeth gyffredinol, rwy'n credu ein bod wedi ymddieithrio i raddau rhag gwleidyddiaeth ddatganoledig yn arbennig. Felly, i mi mae addysg wleidyddol ac ymestyn yr etholfraint yn gyfle i wneud pethau'n wahanol, ac mae'n gyfle i sicrhau y bydd y genhedlaeth hon o bobl ifanc yn llawer mwy gwybodus na'r boblogaeth bresennol.

Ac mae'n rhaid i mi ddweud, rwy'n credu bod hwnnw'n gyngor doeth iawn. Rydym yn wynebu argyfwng dinasyddiaeth, ac o leiaf gallwn baratoi ein dinasyddion newydd â gwybodaeth lawn am y math o fyd y byddant yn ei etifeddu os nad ydym o ddifrif ynglŷn â dinasyddiaeth weithredol.

Felly, credaf y dylai'r newid pwysig a chalonogol hwn ddenu'r ddyletswydd hon ar y Llywodraeth o ran yr hyn a wnânt i osod canllawiau statudol ar gyfer y cwricwlwm. Ac mae'n rhaid i mi ddweud, mae'r amrywiaeth o leoliadau y byddai fy ngwelliant yn eu cynnwys yn golygu y byddai'r rhai mewn addysg a hyfforddiant hefyd—y tu allan i leoliad yr ysgol, yn anochel—yn cael eu cefnogi yn y ffordd hon, a'u hannog i arfer eu hawliau democrataidd. A gydag ymagwedd fwy dychmygus, gallwn fynd y tu hwnt i amlinellu strwythurau democrataidd a phroses ffurfiol yn yr addysg, ac ymgysylltu â phobl ifanc a'u haddysgu am y materion sy'n wirioneddol bwysig iddynt. Gallwn sicrhau bod pobl ifanc yn cael cyfleoedd i ddysgu am ystod lawn o safbwyntiau gwleidyddol mewn ffordd amhleidiol. Ymhellach, gallwn sicrhau hefyd, drwy wneud hyn, fod yr addysg wleidyddol hon yn cael ei darparu gan athrawon ac addysgwyr sydd eu hunain wedi cael hyfforddiant o ansawdd uchel er mwyn sicrhau bod addysg dinasyddiaeth yn cael sylw o ddifrif, ac yn osgoi tuedd wleidyddol a'r canfyddiad o duedd wleidyddol.

Os caf droi at fy ngwelliannau eraill, cyflwynais y rhain am y tro cyntaf ar y cam hwn, a chredaf mai'r unig welliant arall a gyflwynwyd am y tro cyntaf yw gwelliant 4. Y rheswm rwy'n gwneud hyn yw oherwydd fy mod yn credu, os ydym yn creu'r ddyletswydd hon, ei bod yn briodol fod gennym allu hefyd i'w chynnwys wrth graffu ar ôl deddfu. Felly, dyna fyddai fy ail welliant yn ei wneud. Yr un maes craffu ar ôl deddfu ag y mae’r Cwnsler Cyffredinol yn ei gynnig yn awr yn ei welliant 164, sy'n welliant rwy'n ei groesawu—rwy'n credu ei fod yn welliant mawr i'r Bil fod y gwelliant hwnnw ar graffu ar ôl deddfu wedi’i gyflwyno—ond nid yw mewn gwirionedd yn cynnwys y pwynt hwn ynglŷn ag addysg oherwydd, yn amlwg, ar y funud, gwaetha'r modd, nid ydych yn credu yn y ddyletswydd, oni bai fy mod newydd lwyddo i'ch perswadio. Felly, byddai'n llenwi'r bwlch hwnnw pe bai'r Cynulliad yn creu'r ddyletswydd hon.

Os caf ddweud, rwy'n credu’n gyffredinol, Ddirprwy Lywydd, y dylid cysylltu craffu ar ôl deddfu â phob Bil arwyddocaol ac yn sicr â rhai cyfansoddiadol. Nid wyf yn credu ein bod yn colli unrhyw beth wrth ailedrych ar ddeddfwriaeth ac archwilio sut y cafodd ei rhoi ar waith a beth oedd rhai o'r effeithiau ymarferol na chafodd eu rhagweld o bosibl, ac yn enwedig pan fyddwn yn ymdrin â materion cyfansoddiadol. Rwy'n credu bod gwir angen gwneud hynny. I weithredu'r hyn rwy'n ei bregethu, os ydym yn creu'r ddyletswydd hon, credaf y dylid cynnwys hynny’n llawn yn y prosesau craffu ar ôl deddfu hefyd ac rwy’n annog yr Aelodau i gefnogi fy ngwelliannau.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:06, 13 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Cwnsler Cyffredinol?

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour

Dirprwy Lywydd, mae gwelliannau 100 i 126 oddi wrth Darren Millar yn ceisio diwygio'r Bil i ddileu'r darpariaethau sy'n ymestyn yr etholfraint i bobl 16 ac 17 oed a'r mesurau gweinyddol angenrheidiol i roi effaith i hynny. Maen nhw, wrth gwrs, yn bwrw i wraidd y Bil wrth geisio gwneud hynny ac rydw i'n gwahodd Aelodau i wrthod y rhain gan eu bod nhw'n dileu un o brif amcanion y Bil, lle mae Llywodraeth Cymru yn cytuno'n llwyr gyda'r Comisiwn.

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 5:07, 13 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Mewn perthynas â gwelliant 3 a 4 a’r ddyletswydd ar ysgolion uwchradd i hyrwyddo ymwybyddiaeth, rwy’n rhannu’r bwriad y tu ôl i’r gwelliannau, ein bod yn darparu’r wybodaeth i bobl ifanc mewn cyd-destun cyfoethog sydd ei angen arnynt i wneud y penderfyniadau gwybodus hyn. Y cwestiwn yw sut yr awn ati i gyflawni hynny ac mae trefniadau newydd y cwricwlwm yn ceisio caniatáu ar gyfer ehangu dysgu a chynorthwyo lleoliadau ac ysgolion i fod yn fwy hyblyg yn eu dulliau, a rhoi mwy o gyfrwng i addysgwyr allu gwneud hynny mewn ffordd sy'n greadigol. A thrwy faes dysgu a phrofiad y dyniaethau, bydd dysgwyr yn datblygu dealltwriaeth o'r materion hanesyddol, daearyddol a gwleidyddol, a’r materion eraill sydd mor hanfodol yn y broses o fod yn ddinesydd sy'n cymryd rhan. Rydym yn obeithiol ac yn hyderus y bydd y cwricwlwm newydd yn helpu i ddatblygu cenhedlaeth o bobl ifanc wybodus sy'n cymryd rhan yn wleidyddol ac sy'n ddinasyddion moesegol a gwybodus yng Nghymru a'r byd. Ac felly, yn y cyd-destun hwnnw, hoffwn ofyn i'r Aelodau wrthod y gwelliannau hynny.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:08, 13 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch. A gaf fi alw ar y Llywydd?

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

Amlinellais i yng Nghyfnod 2 fod cynigion deddfwriaethol i ostwng yr oedran pleidleisio yn rhai hirddisgwyliedig. Drwy gyfres o bleidleisiau yn y Siambr yma ers mis Mai 2013, rydw i'n teimlo ein bod ni wedi ymrwymo nawr i bobl ifanc Cymru i roi'r bleidlais i'r rhai sy'n 16 ac 17 oed ar gyfer 2021, a bod yn rhaid i ni nawr gyflawni hynny ar eu cyfer nhw. Ym mis Hydref y llynedd, byddwch chi'n cofio bod y Cynulliad yma wedi caniatáu i Gomisiwn y Cynulliad gyflwyno'r Bil yma a fyddai'n ymestyn yr etholfraint ar gyfer etholiadau'r Cynulliad i rai 16 ac 17 oed.

Nid yw hyn yn golygu nad wyf yn cydnabod rhai o'r pryderon y mae rhai Aelodau wedi eu mynegi am y cynigion hyn. Un pryder a godwyd gan yr Aelodau yn ystod Cyfnod 2, ac rŷn ni wedi ei glywed e eto'r prynhawn yma, oedd yr anghysondebau yn y gwahanol oedrannau yr ydym yn eu cysylltu â bod yn oedolion. Mewn ymateb i hyn, mae'n werth ailadrodd, efallai, fod y panel arbenigol wedi dod i'r casgliad nad oes un oedran pan fydd unigolyn ifanc yn ysgwyddo cyfrifoldebau a hawliau dinesydd sy'n oedolyn. Ac mi oedd Darren Millar yn gywir yn un peth: o'n genedigaeth, mae pob un ohonom ni'n gymwys i dalu rhai trethi. Gellir ein dal yn gyfrifol yn droseddol yn 10 oed. Yn 16 oed, gallwn newid ein henwau. Yn 17 oed, gallwn feddu ar drwydded i yrru car. Mae hyn yn gwneud cymariaethau rhwng yr oedrannau sy'n gysylltiedig â gwahanol gyfrifoldebau yn broses oddrychol. Er enghraifft, un o'r pryderon a godwyd yng Nghyfnod 2, ac eto gan Darren Millar y prynhawn yma, oedd bod unigolyn 16 oed yn gallu pleidleisio o dan y ddeddfwriaeth yma ond ni fydd yn gallu mynd mewn i fwth lliw haul neu i brynu alcohol tan yn 18 oed. Fodd bynnag, yn y bôn, dadleuon iechyd cyhoeddus sydd wrth wraidd gosod yr oedran o 18 yn yr achos yma i wahardd cyrff ifanc rhag mynd i fwth lliw haul neu i brynu alcohol. Nid dadleuon ydyn nhw ynglŷn â hawliau dinasyddol unigolion, ac felly maen nhw'n wahanol iawn o ran natur y penderfyniadau ar ba oedran.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:10, 13 Tachwedd 2019

Mae amrywiaeth eang o resymau dros gefnogi gostwng yr oedran pleidleisio. Rwy'n parhau i fod o’r farn y bydd gostwng yr oedran pleidleisio i 16 oed yn grymuso pobl ifanc 16 a 17 oed i bleidleisio yn etholiadau cyffredinol Cymru, gan roi llais iddynt ar benderfyniadau a fydd yn diffinio eu dyfodol. Bydd yn helpu i feithrin dinasyddiaeth dda mewn pobl ifanc ac yn rhoi hwb i wella addysg ddinasyddiaeth. Rwyf yn obeithiol mai buddsoddiad yn nyfodol ein democratiaeth yw hyn. Mae’n bosibl y bydd gostwng yr oedran pleidleisio hefyd yn cynyddu ymwneud â phleidleisio dros y tymor hwy. Mae tystiolaeth galonogol sy’n awgrymu y bydd profiad cynnar o bleidleisio yn arwain at unigolion yn cadw at yr arfer hwnnw.

Mae hefyd yn adeiladu ar y gwaith rydym wedi ei wneud i sefydlu Senedd Ieuenctid Cymru am y tro cyntaf yn y lle hwn, ac rwyf yn falch o ddweud bod llawer ohonynt yn llysgenhadon gwych iawn ar gyfer pleidlais yn 16 oed. Gwrthwynebodd yr Aelodau welliannau i gael gwared ar y darpariaethau hyn yng Nghyfnod 2, a dwi'n eich annog chi unwaith eto heddiw i wneud yn yr un modd drwy wrthod gwelliannau 100 i 126 yn enw Darren Millar.

Rydw i'n troi nawr at faterion eraill ynglŷn ag addysg a chodi ymwybyddiaeth. Yn ystod ein trafodaethau yng Nghyfnod 2, tynnais sylw at bwysigrwydd gostwng yr oedran pleidleisio law yn llaw ag addysg wleidyddol a dinasyddiaeth briodol, a chodi ymwybyddiaeth y cyhoedd. Mae'n briodol fan hyn i gyfeirio at waith rhagorol Senedd Ieuenctid Cymru, ac, ers ein cyfarfod a'n trafodaeth olaf ar y Mesur yma, mae'r Senedd Ieuenctid wedi cyhoeddi eu hadroddiad nhw—adroddiad eu pwyllgor sgiliau bywyd yn y cwricwlwm. Ac mae'n bwysig i edrych ar ganfyddiadau'r pwyllgor hynny. Roedd y pwyllgor yn dweud taw dim ond 10 y cant o bobl ifanc oedd wedi cael addysg wleidyddol hyd at 18 oed. Mynegodd pwyllgor ein Senedd Ieuenctid ni siom ynghylch y ffigurau isel hyn yng ngoleuni ein cynigion i newid yr oedran pleidleisio. Awgrymodd fod hyn yn adlewyrchu’r diffyg hyder sydd gan athrawon ac ysgolion yn gyffredinol wrth addysgu’r pwnc pwysig yma. Mae'n bwysig ein bod ni’n gwneud newid sylweddol yn hyn o beth yn ein hysgolion. Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw sicrhau bod adnoddau addysgol ar gael i ysgolion a bod darpariaeth dda o fewn y cwricwlwm, pa un ai gan athrawon neu sefydliadau allanol arbenigol fel y cynigiwyd gan Senedd Ieuenctid Cymru. Ac mi oedd hi'n braf i weld y Gweinidog, Kirsty Williams, a hefyd Cadeirydd y pwyllgor, Lynne Neagle, yn trafod yr adroddiad yma gan Senedd Ieuenctid Cymru yng nghyfarfod y Senedd Ieuenctid diwethaf ychydig wythnosau yn ôl yn y Siambr yma.

Ac, felly, mae yna waith i'w wneud, ac rŷn ni'n ymwybodol iawn fel Comisiwn y Cynulliad, a hefyd Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill, o'r gwaith sydd i'w wneud, o gyflwyno'r ddeddfwriaeth yma, i sicrhau ein bod ni, law yn llaw, yn paratoi yr adnoddau sydd eu hangen ar ein pobl ifanc ni i'w haddysgu nhw am yr hawl newydd fydd yna ar eu cyfer nhw, ac i baratoi ac i gydweithio â'n Senedd Ieuenctid ni, wrth sicrhau'r deunyddiau a'r gwaith rŷn ni'n ei wneud i baratoi ein pobl ifanc ni, fel bod ein Senedd Ieuenctid ni ac eraill yn cyfrannu at baratoi'r gwaith hynny a'r ymgysylltu hynny mewn ffordd sydd yn cyrraedd yr oedran priodol ar ei fwyaf perthnasol.

O ran craffu ôl-ddeddfwriaethol, os yw'r Cynulliad yn penderfynu bod angen dyletswydd i ddarparu addysg a chodi ymwybyddiaeth, yna gellir trafod a yw’n briodol hefyd ddarparu mecanwaith i hwyluso craffu ar y ddyletswydd hon ar ôl gweithredu, fel y darperir gan welliant 4 David Melding. Bydd Comisiwn y Cynulliad yn croesawu gwaith craffu o'r fath ar y Bil yma, ac mae'n bwriadu gwerthuso ei effeithiolrwydd ei hun wrth weithredu'r agweddau hynny ar y ddeddfwriaeth y bydd yn gyfrifol amdanynt.

Yn olaf, felly, y gwelliant technegol yn fy enw i yw gwelliant 86. Mae'r gwelliant hynny'n cynnig mân welliant i ddrafftio adran 26 yn fersiwn Gymraeg y Bil yn unig.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:15, 13 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch. Galwaf ar Darren Millar i ymateb i'r ddadl.

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn amlwg, rwy'n credu bod llawer iawn o gonsensws yn y Siambr ynghylch ymestyn yr etholfraint ac rwy'n gwerthfawrogi hynny ac rydym wedi profi barn y Cynulliad o'r blaen. Ond rwy'n ei chael hi'n eithaf rhyfedd nad ydym yn cael trafodaeth ehangach am yr oedrannau cyfrifoldeb hynny. Rwy'n derbyn bod y Llywydd wedi cyfeirio rhywfaint yn ei chyfraniad at y ddadl ar y mater hwn ynghylch yr oedrannau cyfrifoldeb amrywiol ar gyfer pob math o wahanol bethau, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y mae angen i ni ddychwelyd ato fel Cynulliad ar ryw adeg yn y dyfodol pan fyddwn yn ystyried plant a phobl ifanc a lle gallai'r ffiniau hynny fod.

Gwrandewais yn ofalus ar sylwadau'r Cwnsler Cyffredinol mewn perthynas â gwelliant David Melding. Rwy'n credu bod David wedi cyflwyno dadl bwerus iawn ynglŷn â'r angen am addysg ddinasyddiaeth o ansawdd uchel er mwyn hyrwyddo cyfranogiad yn ein democratiaeth, ac rwy'n cydnabod bod pobl wedi derbyn y ddadl honno. Yr hyn nad wyf yn ei ddeall, os ydych chi'n derbyn y ddadl honno, yw pam eich bod chi felly’n gwrthwynebu caniatáu a galluogi rhai gofynion statudol ar gyfer cyhoeddi canllawiau i'n hysgolion uwchradd er mwyn cyflawni eich amcan a'ch nod polisi datganedig? Felly, buaswn yn annog yr Aelodau i gefnogi gwelliannau David Melding. Buaswn yn sicr yn annog yr Aelodau i feddwl eto ynglŷn ag ymestyn yr etholfraint pan fo pobl yn hollol amlwg, o ymchwil y Senedd Ieuenctid ei hun, yn teimlo nad ydynt yn barod nac wedi’u harfogi'n iawn ar gyfer y ddyletswydd y gallent orfod ei hysgwyddo yn 16 a 17 oed drwy gael cyfle i bleidleisio.

Ac fe ddywedaf hyn: er gwaethaf fy ngwrthwynebiad i estyn yr etholfraint i bobl ifanc 16 a 17 oed, rwyf wedi arwain ar ran y Ceidwadwyr ar y mater o estyn cyfleoedd i bobl ifanc ymwneud â dinasyddiaeth ac yng ngwaith y Senedd hon dros y blynyddoedd. Gallaf gofio arwain y ddadl a fu'n galw am sefydlu Senedd ieuenctid ac roeddwn yn falch iawn fod y Llywydd wedi bwrw ymlaen â hynny a bod pob plaid yn y Siambr hon wedi cefnogi'r cynnig hwnnw. Felly, nid wyf yn erbyn cyfranogiad pobl ifanc ym mywyd y sefydliad hwn, ac wrth helpu i lunio ein safbwyntiau, ond nid wyf yn credu mai ymestyn yr etholfraint yw'r ffordd orau bob amser o roi’r cyfle hwnnw iddynt. Gall pobl ifanc gymryd rhan mewn sawl ffordd wahanol. Os edrychwch ar Greta Thunberg, nad yw’n ddinesydd y wlad hon hyd yn oed, a allai ddadlau, yn y Siambr hon, nad yw wedi cael cyfle i ddylanwadu ar ein gwleidyddiaeth yma yn y Siambr hon yn y datganiad o argyfwng hinsawdd, er enghraifft? Felly, mae yna ffyrdd o ymgysylltu heb orfod ymestyn yr etholfraint a hoffwn annog pobl i gefnogi fy ngwelliannau.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:17, 13 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch. Os gwrthodir gwelliant 102, bydd gwelliant 100 yn methu. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 102. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebiad. Felly, awn ati i bleidleisio. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 10, neb yn ymatal, 45 yn erbyn, felly gwrthodwyd gwelliant 102 ac mae gwelliant 100 yn methu.

Gwelliant 102: O blaid: 10, Yn erbyn: 45, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Rhif adran 1804 Gwelliant 102

Ie: 10 ASau

Na: 45 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Na: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 5 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Methodd gwelliant 100.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:18, 13 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

David Melding, gwelliant 3.

Cynigiwyd gwelliant 3 (David Melding).

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 3. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebiad. Iawn, felly symudwn at bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 19, neb yn ymatal, 36 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 3.

Gwelliant 3: O blaid: 19, Yn erbyn: 36, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Rhif adran 1805 Gwelliant 3

Ie: 19 ASau

Na: 36 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Na: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 5 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:19, 13 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

David Melding, gwelliant 4.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour

(Cyfieithwyd)

Heb ei gynnig. Diolch.

Ni chynigiwyd gwelliant 4 (Darren Millar).