Grŵp 5: Gweinyddu etholiadau (Gwelliannau 66, 67, 68, 69, 70, 71, 72, 87, 82, 97, 83, 84)

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:16 pm ar 13 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 6:16, 13 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Yng Nghyfnod 2, diwygiwyd y Bil i gynnwys darpariaeth newydd i wneud y Comisiwn Etholiadol yn atebol i'r Senedd ar gyfer arfer ei swyddogaethau mewn perthynas ag etholiadau datganoledig Cymru, a darparu y byddai'r Comisiwn Etholiadol yn cael ei ariannu ar gyfer y swyddogaethau hynny o gronfa gyfunol Cymru.

Cymeraf welliannau'r Llywodraeth yn gyntaf. Mae gwelliannau 66 a 67 yn dileu’r darpariaethau yn adran 28 o’r Bil sy’n galluogi’r Senedd i ailenwi’r cyfeiriad statudol at bwyllgor y Llywydd drwy benderfyniad syml yn y Cyfarfod Llawn. Nid ydym yn gwrthwynebu mewn egwyddor i'r Senedd ddewis enwau ei phwyllgorau wrth gwrs, ond yn yr achos hwn, cyfeirir at bwyllgor y Llywydd mewn statud, ac yn fwy penodol, Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000. Pe bai'r Bil yn caniatáu i'r Senedd ailenwi pwyllgor y Llywydd, byddai hynny'n golygu felly y byddai penderfyniad yn y Cyfarfod Llawn—penderfyniad syml—yn diwygio'r ddeddfwriaeth sylfaenol sy'n cyfeirio at yr enw hwnnw. Nid yw hon yn gyfraith dda ac felly gofynnaf i'r Cynulliad ddileu'r darpariaethau hynny.

Mae diwygiadau 68, 83 ac 84 yn dileu darpariaethau sy'n diffinio 2021-22 fel y flwyddyn ariannol gyntaf y byddai'r darpariaethau sy'n ymwneud â'r Comisiwn Etholiadol yn berthnasol iddi. Fel y dywedais yng Nghyfnod 2, mae gwaith pellach i'w wneud i sicrhau bod y trefniadau archwilio a chyfrifyddu ar gyfer gwaith Comisiwn Etholiadol a ariennir gan Gymru yn gadarn ac yn diogelu cyfrif cronfa gyfunol Cymru. Ni fydd Llywodraeth Cymru yn cychwyn darpariaethau'r Comisiwn Etholiadol nes bod y gwaith hwnnw wedi'i gwblhau er boddhad yr holl bartïon dan sylw. Mae cael gwared ar y cyfeiriadau at 2021-22 yn gyson â'r dull hwn o fynd ati a gofynnaf i'r Cynulliad ei gefnogi.

Rwyf wedi cyflwyno gwelliannau 69, 70, 71 a 72 yn dilyn sylwadau gan y Comisiwn Etholiadol. Amlygwyd pryderon y Comisiwn Etholiadol cyn trafodion Cyfnod 2, ac rydym wedi bod yn eu trafod gyda’r Comisiwn Etholiadol a hefyd gyda’r Llywydd a’i swyddogion. Mae darpariaethau’r Bil, fel y’u mewnosodwyd yng Nghyfnod 2, yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn Etholiadol gyflwyno amcangyfrif ariannol a chynllun gwaith cysylltiedig i bwyllgor y Llywydd ar gyfer pob blwyddyn ariannol mewn perthynas â’i waith ar etholiadau a refferenda datganoledig yng Nghymru. Wedi ystyried, mae’r Llywydd a minnau’n cytuno â'r Comisiwn Etholiadol fod hyn yn anghymesur. Felly, mae ein gwelliannau yn nodi ac yn cyfyngu ar yr achlysuron pan fydd yn rhaid i'r Comisiwn Etholiadol gyflwyno cynllun gwaith. Bydd hyn yn lleihau'r baich ar y Comisiwn Etholiadol. Mae'r gwelliannau hefyd yn darparu eglurder pellach ar rôl a phwerau'r Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol i gynnal archwiliadau effeithlonrwydd lle mae'r amcangyfrif ariannol a'r cynllun gwaith yn cael eu cyflwyno gyda'i gilydd, neu lle mae'r amcangyfrif ariannol yn cael ei gyflwyno ar ei ben ei hun.

Gwelliant olaf y Llywodraeth yn y grŵp hwn yw rhif 82. Bwriad hwn yw cywiro camgymeriad yn nhestun Saesneg y Bil mewn perthynas â deunydd a fewnosodwyd yn Atodlen 2 i'r Bil gan welliant Llywodraeth yng Nghyfnod 2. Mae'r ddarpariaeth yn ymwneud â chod ymarfer ar gyfer etholiadau datganoledig yng Nghymru, felly nid oes angen y geiriau 'or referendum' yma. Bydd yr Aelodau’n ymwybodol fod angen cydsyniad Gweinidog y Goron ar gyfer gwelliannau Cyfnod 2 a Chyfnod 3 sy’n gwneud darpariaeth mewn perthynas â swyddogaethau Pwyllgor y Llefarydd, y Comisiwn Etholiadol, y Trysorlys, a’r Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol. Rwy’n falch o gadarnhau bod y cydsyniad hwn wedi’i gael, ac rwy’n ddiolchgar i swyddogion yn Llywodraeth y DU am hwyluso hynny.

Bydd yr Aelodau'n cofio imi ymrwymo, yn ystod trafodion Cyfnod 2, i drafod gyda'r Llywydd ei chynnig i newid y cydbwysedd rhwng swyddogaethau'r Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol ac Archwilydd Cyffredinol Cymru mewn perthynas â'r darpariaethau hyn. Mae'r gwaith hwn ar y gweill ac mae'n rhan o'r trafodaethau ehangach, y soniais amdanynt eisoes, sydd eu hangen ar y trefniadau archwilio a chyfrifyddu. Pan ddaw'r trafodaethau hynny i ben, byddwn yn adrodd wrth yr Aelodau a gellir mynd i'r afael ag unrhyw newidiadau pellach sydd eu hangen ar ryw ffurf yn y dyfodol.

Trof yn awr at welliannau'r Llywydd yn y grŵp hwn. Mae gwelliant 87 yn adlewyrchu penderfyniad y Cynulliad yng Nghyfnod 2 y dylai'r Bil nodi pwyllgor y Llywydd fel y corff sy'n gyfrifol am oruchwylio'r Comisiwn Etholiadol, yn hytrach na chaniatáu i'r Senedd ddynodi pwyllgor. Felly, rydym yn cynnig tynnu'r cyfeiriad at bwyllgor y Llywydd fel un dynodedig a gosod cyfeiriad ato fel un a sefydlwyd.

Mae gwelliant 97 yn gwneud gwelliannau canlyniadol er mwyn sicrhau cysondeb wrth ddisgrifio darpariaethau'r Comisiwn Etholiadol yn y Bil. Bydd y Llywodraeth yn cefnogi dau welliant y Llywydd. Diolch.