Part of the debate – Senedd Cymru am 6:20 pm ar 13 Tachwedd 2019.
Rwy'n ymddiheuro i'r Aelodau ac i chi, Ddirprwy Lywydd, ei bod yn bryd i mi ddigio eto, ond efallai y dylwn roi cynnig ar agwedd ychydig yn wahanol a dangos tristwch yn hytrach na dicter. Byddaf yn siarad yn erbyn y gwelliannau hyn, ar wahân i 82, sy'n un technegol, oherwydd, fel y dywedais ynglŷn â mater estyn yr etholfraint i ddinasyddion tramor, roedd yr holl faes yn llawn canlyniadau anfwriadol posibl a diffyg meddwl o ran y bwriad gwreiddiol, ac yn blwmp ac yn blaen, ni ddylai fod yn y Bil hwn. Fel y dywedodd nifer o dystion wrthym, dylai fod mewn Bil Llywodraeth ar wahân wrth gwrs.
Roeddwn yn eithaf sicr fod hon yn ffordd flêr o weithredu ac fe fynegais hynnny yng Nghyfnod 2, ac rydym newydd glywed y Cwnsler Cyffredinol yn dweud bod angen clymu pob math o elfennau ychwanegol wrth fwriadau'r Llywodraeth yn awr. Rhaid imi ddweud, os oes angen rhagor o argyhoeddi arnoch fod hon yn ymagwedd frysiog a heb ei hystyried yn ddigon manwl, meddyliwch am yr hyn a ddywedodd y Cwnsler Cyffredinol. Gan ddechrau gyda gwelliant 68, rwy'n credu o ddifrif fod hon yn enghraifft o ba mor esgeulus y mae'r Llywodraeth wedi bod, oherwydd maent unwaith eto wedi defnyddio Bil Comisiwn a mabwysiadu'r ymagwedd, 'Fe wnawn ein gwaith cartref yfory. Ni wnawn ofyn i'r Comisiwn Etholiadol am union fanylion y pwyntiau manwl sydd eu hangen arnynt, ac ni wnawn ei gyflwyno ar lefel briodol a chraffu cynnar'. Mae tabl diben ac effaith y Llywodraeth ei hun yn nodi,
Mae'r gwelliant hwn yn caniatáu i waith pellach gael ei wneud ar fanylion y trefniadau ariannol sydd eu hangen i ariannu'r Comisiwn Etholiadol mewn perthynas â'i waith.
Felly, roedd y Llywodraeth yn teimlo'r angen yn awr i brynu rhywfaint o amser ychwanegol ar gyfer datblygu polisi mewn maes y mae'r rhan fwyaf yn teimlo y dylai fod wedi cael ei ddatrys neu ei drin mewn Bil ar wahân a'i gyflwyno ar ffurf gyflawn. Dylai deddfwriaeth fod yn gyflawn a sicrhau cyfeiriad polisi, nid dim ond dechrau ar y ffordd i dyn a ŵyr ble.
Mae gwelliant 83 yr un peth. Mae tabl diben ac effaith y gwelliant hwn yn datgan, ac rwy'n dyfynnu,
Diben y gwelliant hwn yw dileu darpariaeth sy'n pennu'r flwyddyn ariannol gyntaf y bydd y darpariaethau newydd ynghylch amcangyfrifon ariannol y Comisiwn Etholiadol yn berthnasol iddi.
Felly, mae'r gwelliant hwn eto'n gadael y newidiadau hyn yn benagored, er mwyn rhoi amser ar gyfer cydgysylltu a gwirio'r hyn y mae'r Comisiwn Etholiadol yn ei feddwl sy'n briodol. Wel, pan ddônt yn ôl, yr hyn rydym ni'n ei gredu sy'n briodol fydd y ffactor sy'n penderfynu. Felly, unwaith eto, rwy'n credu bod hon yn ffordd wael iawn o fynd ati, a'r un modd gyda gwelliant 84.
Mae'n ymddangos i mi, wrth orfod addasu'r holl ymrwymiadau amser hyn, ein bod mewn sefyllfa o beidio â gwybod yn iawn beth oedd yn addas i'r diben yn y lle cyntaf, ac yn awr dywedir wrthym ar y cam hwn, er mwyn popeth, yng Nghyfnod 3, beth y mae'r Llywodraeth yn ei gredu sydd orau, heb unrhyw obaith o graffu a chwestiynu'n briodol fel y byddem wedi'i gael pe bai hyn wedi'i wneud ar gam cynharach yn y Bil hwn.
Rhaid imi ddweud bod y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, wrth edrych ar hyn, wedi rhybuddio am y cymhlethdodau hyn. Dyna un o'r rhesymau pam y credem fod cyngor gwael wedi'i roi yn ei gylch, ac mae bellach yn ddraenen yn ystlys y Llywodraeth, er nad ydynt i'w gweld yn teimlo embaras mawr, rhaid imi ddweud, ynglŷn â natur gynhwysfawr eu gwelliannau i geisio dod â rhywfaint o drefn i'r hyn roeddent yn ei annog yng Nghyfnod 2. Ond rwy'n credu o ddifrif fod atebolrwydd yn ofyniad pwysig ac mae angen i ni fod yn fodlon y bydd y system a gynigir yn gallu cyflawni hynny. Efallai fod y Cwnsler Cyffredinol newydd gynnig model llawer mwy cydlynol, ac rwy'n siŵr bod ei ymgynghoriadau â'r Comisiwn Etholiadol wedi mynd yn dda iawn, ond yr holl bwrpas yma i fod yw cryfhau perthynas rhwng y lle hwn a'r Comisiwn Etholiadol, ac eto mae gennym y Llywodraeth yn gwneud yr holl drafodaethau arno, heb i ni fel Aelodau gael unrhyw lais na goruchwyliaeth sylfaenol. Rwy'n teimlo ei fod yn rhyfedd dros ben. Ac unwaith eto, y pwynt sylfaenol yw nad oedd y rhan hon o'r Bil yno'n wreiddiol, ac roedd angen gwneud gwaith priodol arni. Ac roedd hynny'n awgrymu, yn fy marn i beth bynnag, y buasai wedi'i wneud yn well ym Mil arfaethedig y Llywodraeth ei hun—y Bil llywodraeth leol ac etholiadau.
Felly, unwaith eto, mae'n siomedig tu hwnt. Gallem fod wedi defnyddio'r Bil hwn fel model ar gyfer deddfwriaeth yn gyffredinol—Bil Comisiwn ar faes cyfansoddiadol pwysig i ddangos sut roeddem am i'n camau deddfwriaethol fynd rhagddynt, a sut y cymhwysir yr elfen graffu hollbwysig. Ac a bod yn onest, nid ydym wedi gwneud gwaith da. Ac i feddwl, yn y maes penodol hwn, mae'n ymwneud â'r union gorff sydd yno i gynghori a sicrhau bod gennym fodd o gynnal etholiadau teg a rhydd. Felly, unwaith eto, rwy'n siomedig tu hwnt. Nid wyf yn twyllo fy hun o gwbl ynglŷn â pha lwyddiant a gaf yn y fan hon. Sibrydodd fy nghyfaill yma, Andrew R.T., ar ôl fy nghyfraniad yn gynt, 'Ni fyddai ots pe baech chi'n Abraham Lincoln'—gyda'r holl ddadleuon hyn, ni fydd unrhyw newid. Ond rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n myfyrio ar rai o'r pethau rwyf wedi'u dweud—maent wedi'u gwneud yn ddiffuant iawn. Ac rwy'n credu y dylai'r saga druenus hon ei gwneud yn ofynnol i ni fyfyrio'n ofalus iawn yn y dyfodol ar sut yr awn ati i lunio cyfraith gyfansoddiadol, sylfaenol, sydd mor bwysig.