2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 13 Tachwedd 2019.
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hawliau datblygu a ganiateir yng Nghymru? OAQ54650
Yn sicr. Mae hawliau datblygu a ganiateir yn ddull pwysig o ddiddymu'r angen am ganiatâd cynllunio ar gyfer mân ddatblygiadau. Maent yn caniatáu i awdurdodau cynllunio lleol ganolbwyntio ar geisiadau mwy a mwy cymhleth sy'n creu cartrefi a swyddi.
Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Mae nifer o bobl yn fy etholaeth, yn ardal Llanferres, wedi cysylltu â mi'n ddiweddar ynglŷn â phryderon sydd ganddynt am ddatblygiad sydd i'w weld yn digwydd yn ardal Big Covert yng nghoedwig Clwyd. Mae hon yn sefyllfa lle mae'n ymddangos bod ardaloedd o goetir wedi cael eu gwerthu'n dameidiog i unigolion ac yn anffodus, mae rhai o'r unigolion a oedd yn prynu'r darnau hynny o dir yn cwympo coed heb drwyddedau priodol gan Cyfoeth Naturiol Cymru, ac mae rhai ohonynt yn adeiladu strwythurau wedi'u gwneud o goed neu wedi'u llusgo i mewn i'r goedwig ar drelars ac yn sefydlu ail gartrefi, bron, neu wersylloedd o ryw fath. Mae hyn i gyd yn digwydd heb ganiatâd datblygu priodol, ac yn anffodus, ymddengys bod Cyngor Sir Ddinbych yn cael peth anhawster i orfodi datblygiad oherwydd yr hawliau datblygu a ganiateir presennol. A allwch chi roi rhywfaint o sicrwydd i mi y byddwch yn ymchwilio i'r math hwn o ddatblygiad, sy'n ymddangos fel pe bai'n digwydd yn amlach, nid yn unig yng nghefn gwlad sir Ddinbych ond mewn rhannau eraill o Gymru yn ogystal?
Gwnaf, yn sicr. Nid wyf yn ymwybodol ohono, ac os yw Darren Millar eisiau ysgrifennu ataf gyda manylion penodol, rwy'n fwy na pharod i edrych arnynt. Nid wyf yn gwybod y manylion, felly ni allaf wneud sylwadau mewn gwirionedd, ond ar y cyfan nid yw hawliau datblygu a ganiateir ond ar gael lle ceir adeilad preswyl neu adeilad arall eisoes sydd â hawliau datblygu a ganiateir ynghlwm wrtho. Ni fyddent fel arfer ar gael mewn coetir agored lle nad oes adeilad yn bodoli eisoes. Felly, er na allaf wneud sylwadau penodol, oherwydd ni allwch wneud hynny oni bai eich bod yn gwybod y manylion penodol, y cyngor cyffredinol fyddai nad oes gennych hawliau datblygu a ganiateir oni bai eu bod ynghlwm wrth annedd neu fangre arall sydd â'r hawliau hynny. Felly, mae'n ymddangos yn annhebygol ar yr wyneb y byddai hwnnw'n ddatblygiad a ganiateir.
Un o'r problemau sy'n wynebu llawer o drigolion yng nghefn gwlad Cymru, am nad yw eu tir yn cael ei ystyried yn ardal ar gyfer datblygiad tai a ganiateir, yw eu bod yn ei chael hi'n anodd iawn cael caniatâd cynllunio ar gyfer tai ar eu tir, os mai bod yn ffordd i aelodau o'r teulu aros yn y gymuned leol yw diben y tai hynny wrth gwrs. Felly, a fyddech yn archwilio'r posibilrwydd o lacio'r rheolau hyn i ganiatáu datblygiad tai cyfyngedig ar gyfer angen lleol yn unig na ellir eu gwerthu neu eu troi'n ail gartrefi wedyn, fel ffordd o gefnogi cynaliadwyedd rhai o'n cymunedau gwledig?
Rwy'n derbyn y pwynt y mae'n ei wneud. Yn anffodus, mae gennym ystod eang o dai a adeiladwyd dan yr amgylchiadau hynny sydd wedyn yn cael eu gwerthu yn weddol gyflym fel tai preifat ar y farchnad agored, a'r broblem yw sut y gallwn gael cydbwysedd i wneud hynny. Rwyf wedi bod yn awyddus iawn i archwilio gyda chynghorau o bob rhan o Gymru sut y gallwn gael mwy o dai cymdeithasol i'r ardaloedd hynny. Rwy'n awyddus iawn i bobl ifanc o bob cwr o Gymru allu fforddio'r tai sydd ar gael. Felly, mae'n ymwneud â sut y gallwn sicrhau bod y math iawn o dai yn cael eu hadeiladu mewn cymunedau o'r fath i ganiatáu i bobl ifanc aros yno, ac aelodau o'r teulu i aros yno, heb ei fod yn ffordd o werthu tŷ sector preifat arall yng nghanol cae yn rhywle, ac yn anffodus, rydym wedi gweld hynny'n digwydd mewn rhannau eraill o Gymru. Felly, rwy'n hapus iawn, Llyr, i weithio gyda chi i weld beth y gallwn ei wneud i gyflawni'r ddau nod hynny ar yr un pryd. Felly, rwy'n credu ein bod yn ceisio cyrraedd yr un lle. Mae'n ymwneud â sut i roi mesurau rheoli ar waith i sicrhau nad yw system o'r fath yn cael ei chamddefnyddio a'i bod ar gael i'r bobl ifanc sydd eisiau aros yn yr ardaloedd hynny yn enwedig.